| |
Prif seremoniau yr Eisteddfod
Bydd prif seremoni a defod bod un o ddiwrnodau'r Eisteddfod. Dyma'r rhestr gyflawn.
Dydd Llun Prif Wobrau Celf a Gwyddoniaeth Cyflwynir y gwobrau yma mewn defod arbennig yn ystod y seremoni agoriadol.Rhoddir y Fedal Gelf gan gwmni argraffwyr W O Jones, Llangefni, a rhoddir y Fedal Wyddoniaeth gan Orsaf Bwer Yr Wylfa.Meistres y Ddefod - Daloni Metcalfe a'r beirniaid yw Griff Charles Morris.
Dydd Llun Y Fedal Lenyddiaeth Cyflwynir Medal Lenyddiaeth yr Eisteddfod eleni gan Gylch Cinio Porthaethwy. Meistres y Ddefod yw Nia Lloyd Jones a'r beirniaid yw Ceri Wyn Jones a Sonia Edwards.
Nos Lun - Tlws John A Ceridwen Hughes Cyflwynir Tlws John a Ceridwen Hughes gan Dewi a Gerallt Hughes. Meistres y Ddefod yw Andrea Parry, Llywydd yr Urdd.
Dydd Mawrth Medal Lenyddol y Dysgwyr Cyflwynir Medal y Dysgwyr gan Ferched y Wawr Rhanbarth M么n. Meistres y Ddefod yw Angela Lakeland a'r beirniaid yw John Les Tomas a Gwyn Lewis.
Dydd Mercher Y Fedal Ddrama Cyflwynir Medal Ddrama yr Eisteddfod gan Ken Owen, Marianglas. Meistr y Ddefod yw Owain Arwyn a'r beirniaid yw William R. Lewis a Dewi Williams.
Dydd Iau Defod y Cadeirio Rhoddir cadair yr Eisteddfod eleni gan Glybiau Ffermwyr Ieuainc Ynys M么n. Meistr y Ddefod yw Rhun ap Iorweth a'r beirniaid yw Ceri Williams ac Einir Jones.
Dydd Gwener Defod y Coroni Rhoddir y replica o'r goron eleni ysgolion Syr Thomas Jones, Amlwch, Uwchradd Bodedern, Uwchradd Caergybi, David Hughes, Porthaethwy ac Ysgol Gyfun Llangefni. Meistres y Ddefod yw Manon Morris Williams a'r beirniaid yw Jane Edwards a Gwilym Dyfri Jones.
Fel rhan o'r wobr eleni bydd cynnig i'r cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau hyn fynychu cwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy.
Nos Wener Tlws y Prif Gyfansoddwr Cyflwynir Medal Goffa Grace Williams i'r prif gyfansoddwr gan G么r Adlais, Band Biwmares, C么r Clarinetiau Gogledd Cymru a Band Porthaethwy a rhodd o 拢100 o Ymddiriedolaeth Pendyrus. Meistr y Ddefod yw Pwyll ap Si么n a'r beirniad yw Gareth Glyn.
|
|
|