Sbwriel yn faes arbennig
Bu'n rhaid i'r Urdd fynd i Lundain i ddod o hyd i rywun i gadw maes yr Eisteddfod yn daclus.
Mewn ateb i gwestiynau gan y Wasg dywedwyd ddydd Iau i'r Urdd fethu 芒 dod o hyd i unrhyw gwmni yng Nghymru i gasglu sbwriel ar y maes.
Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a Gwyl, mai polis'r Urdd yw gwahodd cynigion am waith o'r fath yn lleol ac "yn genedlaethol".
Yn yr achos hwn, oddi wrth gwmni yn Llundain y death y cynnig gorau.
"Doedd yna ddim cwmni arall a allai ateb yr anghenion i gyd," meddai.
Dywedodd Ian Carter, rheolwr y maes, fod gofalu am faes eisteddfod yn waith "arbenigol iawn" o gymharu 芒 glanhau swyddfeydd a ffatrioedd ac ati a bod gan y cwmni o Lundain a gafodd y gwaith yr arbenigrwydd hwnnw.
"Mae'r cwmni hwn yn arbenigo mewn glanhau meysydd awyr agored a chanddyn nhw y cafwyd y pris gorau," meddai.
|
|
|