| |
Her i'r Urdd
Yr her i Eisteddfod yr Urdd eleni fydd gadael ei h么l ar ardal lle mae 60 y cant o blant yn dod o gartrefi di-Gymraeg.
Dyna neges Cyfarwyddwr Addysg Sir F么n ac is-gadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Sul.
Dywedodd Richard Parry Jones y gall digwyddiad fel Eisteddfod yr Urdd greu ymwybyddiaeth o Gymreictod ac o'r diwylliant Cymraeg ymhlith y rhai hynny sydd wedi symud i'r Sir.
Dydi dysgu'r iaith ynddo'i hun ddim yn ddigon meddai.
"Un peth ydi dysgu siarad y Gymraeg," meddai, "ond dydi hynny fawr o werth os nad ydyn nhw yn cyfrannu o'r dowylliant hefyd."
Gwerth Eisteddfod yr Urdd, meddai, yw bod yr holl weithgarwch, egni a chydweithio ynglyn 芒 hi yn arddangos cyfoeth y diwylliant Cymraeg yn y cymunedau.
Dywedodd Mr Jones mai'r ddwy elfen sydd yn effeithio ar Gymreictod yr ynys yw allfudo pobl ifainc a mewnfudiad di-Gymraeg.
Mae'r ynys meddai yn colli degau, ugeiniau a channodd o bobl ifainc.
"A fedrwn ni ddim dal y golled yn hir iawn - allwn ni ddim dal i gael ein gwaedu yn hir," rhybuddiodd.
Gall yr Eisteddfod, meddai ennyn balchder yn eu sir ac yn eu diwylliant ymhlith pobl ifainc ac efallai eu perswadio i aros yno.
Dywedodd hefyd mai mesur o lwyddiant yr Eisteddfod fyddai ei bod yn gadael ar ei h么l egni a brwdfrydedd dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg a chreu diddordeb newydd ynddyn nhw
|
|
|