Sioe Gerdd yr Ieuenctid
Drama gerdd yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym Mynydd Parys, Amlwch, yn y bedwaredd ganrif ar bymthegy ydi Sioe Gerdd yr ieuenctid yn yr Eisteddfod.
Awduron Llwch yn Ein Llygaid ydi Rhian Mair Jones, Eleri Richards a Delyth Rees.
Bydd yn cael ei pherfformio yn Ysgol Uwchradd Caergybi am 7.30 nos Sadwrn a nos Lun.
Mae'r sioe yn cael ei disgrifio fel "stori ddramatig wedi'i hysbrydoli gan ddigwyddiadau yng ngwaith coprMynydd Parys a thref Amlwch."
Er mwyn creu stori ddramatig, y mae'r digwyddiadau hanesyddol wedii eu hel at ei gilydd a rhai cymeriadau sy'n ffrwyth dychymyg wedi eu creu, Cadi Rondol, John Eleias a Twm Chwarae Teg.
Bwrlwm o ddiwydiant Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Mynydd Parys a thref Amlwch yn fwrlwm o ddiwydiant gydag oddeutu 70 o dai tafarn yn y dref -a'r mwynwyr a'u merched yn profi bywyd i'r eithaf, yn gweithio'n galed ac yn mwynhau yr un mor galed heb boeni'n ormodol am eu henaid na'u cyd-ddyn.
Mewnfudwyr o Gernyw oedd meistraid y mynydd a'r rheiny, ar y cyfan, yn byw yn fras ar lafur y Cymry. Ond, beth oedd yr ots pan fo un parti stryd a ffair yn cael ei ddilyn gan barti arall.
Ond, wedi rhyfel Napolean, doedd dim galw am gopr ac yn sgil y cyni economaidd bu twyll anhygoel gan y meistr ac ymateb chwyldroadol gan y gweithwyr wrth fynd i'r afael a'rllwch real o'r gwaith, a'r llwch trosiadol o'r twyll daflwyd i lygaid.
Wedi sylweddoli pwer wynebu'r gwir, gwawria gwirionedd grymusach ar fwynwyr, a ladis copr y mynydd, ac efo pregethu John Elias yn agor eu llygaid ymhellach, try'r Cymry eu cefnau ar eu hen fywyd anfoesol,afradlon.
Mae yma gyfochri anhygoel efo sefyllfa Ynys M么n heddiw, a neges ddwys i ni ei hystyried, ond,efo dogn helaeth o ramant a hwyl yn nhafarn Elir El i roi siwgwr ar y bilsen.
Rhian Mair Jones - Awdur A Chyfarwyddwr: Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Llangefni .Dechreuodd ymddiddori yn y ddrama a pherfformio pan yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, dan adain William R. Lewis a'r diweddar Richard T. Jones.
Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1983 - ac wedi cyfnod yn actio, trodd ei llawat gyfarwyddo tra'n dysgu Drama yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yna pan yn darlithioyn y Coleg Normal, Bangor.
Cyfarwyddodd Basiant y Plant yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989. Ysgrifennodd Bantomeim a'r gantata fodern 'Pam fy newis i?', ynghyd a dwy sioe gerdd i Theatr Ieuenctid M么n - y gynta 'Llwch yn ein Llygaid' (1992 ) a'r ail 'Lladd y Boen' (1993).
Mae wedi cyfieithu nifer o ganeuon o sioeau cerdd i'r Gymraeg ynghyd a dwy sioe gyfan 'Gris' a 'Joseff' .
Yn wreiddiol o Rosybol, ar odrau Mynydd Parys, y mae'n awr yn byw ym Mrynteg, Bro Goronwy, ac yn briod ag Ian ac yn fam i Gwion a Siwan.
Delyth Rees - Cyfarwyddwr Cerdd: Mae Delyth Rees yn Gydlynydd Addysg Cerddoriaeth yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Mae'n dysgu ar y cyrsiau BEd Cynradd a'r TAR Cerddoriaeth Uwchradd. Roedd yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys M么n am nifer o flynyddoedd cyn mynd yn ddarlithydd Cerddoriaeth i'r Coleg Normal, Bangor ym 1991.
Dechreuodd gyfansoddi drwy ysgrifennu caneuon actol a sioeau Cerdd i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern, ac ers hynny mae hi wedi cyfansoddi nifer o weithiau estynedig i blant a phobl ifanc gan gynnwys dwy gantata bop i Eisteddfod Genedlaethol Cymru 'Dwynwen' Ynys Mon 1983; 'Cae Melwr' Dyffryn Conwy 1989 ac hefyd ddwy sioe Gerdd i Theatr Ieuenctid M么n .
Bu'n gweithio'n ddiweddar ar gomisiynau corawl un i G么r Gorau Glas, Bro Ddyfi a'r llall i G么r Cytgan, Caerdydd. Mae rhai o'i chyfansoddiadau wedi eu cyhoeddi, recordio a'u darlledu gan gynnwys 'Hafan Gobaith'.
|
|