| |
Cerddi cofiadwy
Ofn anghofio profiadau a wnaeth i enillydd medal lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd ddechrau barddoni.
"Mi wnes i ddechrau sgwennu oherwydd fod gen i ofn anghofio pethau," meddai Mari Sion yn dilyn prif seremoni gyntaf yr eisteddfod ym M么n.
Dywedodd hefyd iddi anfon y cerddi a enillodd galon y beirniaid, Ceri Wyn Jones a Sonia Edwards, i'r gystadleuaeth er mwyn cael barn ddiduedd rhwyun na wyddai pwy oedd yr awdur.
"Mi benderfynais i fy mod i eisiau gwneud rhywbeth efo nhw," meddai am y 14 o gerddi a gyfansoddi dros gyfnod o amser.
"Ac yr oedd cystadleuaeth yn ffordd i'w dangos nhw i bobl heb iddyn nhw wybod pwy oeddwn i a theimlo fod yn rhaid iddyn nhw ddweud petha neis," meddai.
Ac ni allai unrhyw fardd ifanc fod wedi gobeithio am well ymateb na'r hyn a gafwyd gan Ceri Wyn Jones yn traddodi'r feirniadaeth oddi ar lwyfan y brifwyl.
"Cyfrol o gerddi sy'n llwyr argyhoeddi," meddai gan ychwanegu, "Dyma fardd o'r iawn ryw. Mae yma waith aeddfed a sensitif ac mae'r dweud yn hudolus ar brydiau . . . Medda ar y 'peth' anniffiniol hwnnw sy'n treiddio i synhwyrusrwydd dyn a'i swyno."
Yn dair ar hugain oed ganed Mari yng Nglyn Ceiriog lle'r oedd ei thad yn weinidog a dywedodd mai un o awduron y Dyffryn Ceiriog a fu'n ysbrydoliaeth iddi sgrifennu.
"Pan fyddai Irma Chillton yn cyhoeddi llyfr newydd byddai'n rhoi copi i mi ac rwy'n credu i hynny fod yn annogaeth dawel i mi ymddiddori mewn sgwennu," meddai.
Sbadun pellach fu ymweliad y tri bardd, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafyd ac Eleanor Wyn Rowlands, a'i hysgol i gynnal gweithdy barddoniaeth a'i hargyhoeddi am y tro cyntaf fod sgrifennu barddoniaeth yn rhywbeth y gallai hi roi cynnig arno. .
Ond yr ofn i brofiadau gwerthfawr fynd yn anghof fu'r anogaeth fwyaf, meddai, a phrofiadau a gafodd mewn sawl gwlad yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Yr Eidal a Lesoto yw cynnwys rhai o gerddi'r gystadleuaeth.
Dywedodd i'w mis yn Lesotho wneud argraff arbennig arni.
"Yr oedd yn lle mor wahanol a'r bobl yn arbennig. Dydw i erioed wedi cael croreso mor gynnes yn unman - ac maen nhw yn canu'n lot gwell na ni. Roeddan nhw'n tueddu i chwerthin pan oeddem ni yn canu!" meddai.
Symudodd Mari a'r teulu i fyw ym Mangor pan oedd hi'n 11 oed a chafodd weddill ei haddysg yn Ysgol Tryfan ac enillodd MA mewn gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd lle mae'n gynorthwydd personol i un o aelodau Plaid Cymru yn y Cynulliad, Leanne Wood.
Mae ei thad, John Roberts, yn gynhyrchydd rhaglenni crefyddol gyda'r 91热爆 ym Mangor. Bu ei mam, Janet, yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bodedern ac mae'n awr yn gweithio gyda Chyngor Sir Gwynedd.
Ffugenw Mari yn y gystadleuaeth oedd Ededa J ar 么l y siop ddillad yn Llambedr Pont Steffan.
Datgelodd fod y dewis o ffugenw rhwng hyn a B. J. Jones - yr unig ddwy hysbyseb Gymraeg a welodd ar y teledu. "Ac mi ddewisiais i Ededa J - does wybod ella y ca i nawdd ganddyn nhw," meddai gan chwerthin
|
|
|