Sioe Joseff
Actor a gymerodd ran yn y ddrama deledu, Treflan fydd yn chwarae'r brif ran yn sioe gerdd plant ysgolion cynradd Eisteddfod yr Urdd ym M么n.
Si么n Eifion, 11, fydd Joseff yn addasiad Cymraeg Aled Lloyd-Davies o Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat.
Daeth y bachgen o Lanfaelog yn gyfarwydd ar deledu fel y Rhys Lewis ifanc yn y ddrama gyfnod Treflan.
Ers ei sgrifennu'n wreiddiol yn 1968 ar gyfer ysgol yn Llundain mae'r sioe wedi tyfu a denu enwogion fel Jason Donavan, Phillip Schofield ac Aled Jones sy'n dod o Landegfan M么n.
Bydd 140 o blant yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad dan gyfarwyddyd Iola Ynyr o Gwmni'r Fr芒n Wen.
"Stori am genfigen ac am faddau ydi hi," eglurodd Si么n Eifion sydd wedi ymddangos mewn cynhyrchiad o Beauty and the Beast yn Lerpwl cyn ei fod yn saith oed ac yn y ffilmiau teledu, Eldra a Treflan.
Bydd hefyd i'w weld cyn bo hir mewn cyfres newydd o Iechyd Da ar S4C.
Dywedodd i'r cynnig o'r brif ran yn Joseff fod yn dipyn o sioc iddo.
'Ar 么l bod i'r clyweliad nes i ddeud wrth mam mod i ddim yn meddwl mod i wedi cael y rhan oherwydd roedd na lot o blant da iawn yn trio yn fy erbyn i. Ond naetho nhw fy ngalw i fewn i'r ystafell a deud, 'Hwn fydd Joseff,' ac ro'n i'n falch iawn, meddai.
"Dw i'n licio'r sioe mae hi'n llawn o ganeuon gwahanol a ti'n gorfod symud a rhedeg o gwmpas lot, felly ti angen lot o egni. Ond be dw i'n licio ora amdani ydi cymeriad y Brenin Pharo, oherwydd mae o'n canu roc a r么l fatha Elvis!"
Cyfarwyddwr cerdd y sioe yw Andrew Angel, pennaeth ysgol gynradd Pentraeth. "Mae bod yn rhan o'r sioe yn cynnig cyfle ardderchog i'r plant fwynhau actio a chanu a datblygu eu sgiliau," meddai. "Maen nhw wrth eu bodd efo'r sioe gan fod yma ddigon o amrywiaeth o ran steils a rhythm y caneuon, o roc a r么l, i g芒n Ffrengig a chalypso."
Andrew hefyd sy'n cyfeilio i Sioe Gerdd Ieuenctid yr Eisteddfod eleni Llwch yn ein Llygaidgan Rhian Mair Jones a Delyth Rees, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr llwyfan a cherdd ar y sioe.
Ffuglen yw Llwch yn Ein Llygaid wedi ei sylfaenu ar ddau ddigwyddiad yn hanes M么n ond sydd hefyd yn bethnasol i gyflwr yr Ynys heddiw. Fe'i perfformir gan ddisgyblion ysgolion uwchradd.
Cymerir rhan yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod, nos Sul, gan y tenor o Lanbedrgoch, Gwyn Hughes Jones.
Dyma fanylion am berfformiadau pwysig yr Eisteddfod: Cyngerdd Agoriadol gyda Gwyn Hughes Jones ac artistiaid eraill: Nos Sul, 30 o Fai, 7.30y.h yn y Pafiliwn; Oedolion 拢12.00, plant 拢6.00
Joseff: (Sioe Ysgolion Cynradd), Nos Fawrth a Mercher, 1- 2 Mehefin, 7.30y.h yn y Pafiliwn; Oedolion 拢8.00, plant 拢5.00
Llwch yn Ein Llygaid:(Sioe Ieuenctid), Nos Sadwrn, 29 Mai, Nos Lun, 31 Mai yn Ysgol Uwchradd Llangefni, 7.30y.h, Oedolion 拢8.00, plant 拢5.00
Oedfa'r Bore ar y thema Pontydd' (Gwneir casgliad tuag at ymgyrch 'Croeso Calcutta'), bore Sul, 30 Mai, 10.00.
Cymanfa Ganu: Nos Sul, 6 Mehefin, 6.00. Capel Hyfrydle, Caergybi. Mynediad drwy raglen: 拢3.00.
|
|