| |
Cyflwyno cythraul o beiriant i'r byd
Galwyd ar yr Urdd i fod yn gyfrwng i feithrin perthynas rhwng plant Cymry a phlant gwledydd eraill y byd.
Dywedodd y pianydd, Iwan Llewelyn Jones, a fu'n beirniadu yn yr Eisteddfod gydol yr wythnos ac yn cynnal dosbarthiadau meistr fod gan yr Urdd lawer i'w gynnig i'r byd a Chymry lawer i'w ennill trwy greu cysylltiadau 芒 gwledydd eraill.
Ef oedd llywydd dydd Sadwrn yn yr Eisteddfod a dywedodd mewn cynhadledd i'r wasg y byddai'n rhyfeddu yn barhaus at "y cythraul o beirianwaith" ag yw yr Urdd.
"Mae o'n gythraul o beirianwaith yn tydi? Yn swyddogion, stiwardiaid, telynorion, cyfeilyddion sydd fel morgrug o gwmpas y maes - heb s么n am yr holl stondinwyr," meddai.
Canmolodd y mudiad nid yn unig am feithrin talentau ond hefyd, yn bwysicach fyth, am roi cyfle i bobl ifanc fynegi eu personoliaethau nid yn unig ar lwyfan ond mewn meysydd eraill fel chwaraeon.
>"Y cwestiwn oeddwn i eisiau'i ofyn ydi; oes gennym ni rywbeth pwysig i'w ddweud wrth blant eraill y byd.
"Dwi'n siwr y byddai plant yn eitha eiddigeddus o ddeall beth sydd yn mynd ymlaen a'r holl gyfleon mae'r urdd wedi ei gynnig i ieuenctid dros y blynyddoedd.
"Dwi'n credo y dylai'r Urdd a'i aelodau weithredu fel cenhadon er mwyn rhannu yr ysbryd a'r hwyl hwn."
Cyfeiriodd at greu undod rhwng ysgolion mewn gwledydd gwahanol fel Ffrainc a De Affrica lle mae profiadau plant "yn gwbl wahanol".>"Y neges oeddwn i eisiau ei ofyn ydi; oes gennym ni rywbeth pwysig i'w ddweud wrth blant eraill y byd.
"Dwi'n siwr y byddai plant yn eitha eiddigeddus o ddeall beth sydd yn mynd ymlaen a'r holl gyfleon mae'r urdd wedi ei gynnig i ieuenctid dros y blynyddoedd.
"Dwi'n credo y dylai'r Urdd a'i aelodau weithredu fel cenhadon er mwyn rhannu yr ysbryd a'r hwyl hwn."
>"Y neges oeddwn i eisiau ei ofyn ydi; oes gennym ni rywbeth pwysig i'w ddweud wrth blant eraill y byd.

Awgrymodd y gellid gwahodd plant drosodd i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf "iddyn nhw gael profi y gwin melys yma sydd gennym ni yn yr Urdd. >"Y neges oeddwn i eisiau ei ofyn ydi; oes gennym ni rywbeth pwysig i'w ddweud wrth blant eraill y byd.
"Dwi'n siwr y byddai plant yn eitha eiddigeddus o ddeall beth sydd yn mynd ymlaen a'r holl gyfleon mae'r urdd wedi ei gynnig i ieuenctid dros y blynyddoedd.
"Dwi'n credo y dylai'r Urdd a'i aelodau weithredu fel cenhadon er mwyn rhannu yr ysbryd a'r hwyl hwn."
>"Y neges oeddwn i eisiau ei ofyn ydi; oes gennym ni rywbeth pwysig i'w ddweud wrth blant eraill y byd.
"Dwi'n siwr y byddai plant yn eitha eiddigeddus o ddeall beth sydd yn mynd ymlaen a'r holl gyfleon mae'r urdd wedi ei gynnig i ieuenctid dros y blynyddoedd.
"Dwi'n credo y dylai'r Urdd a'i aelodau weithredu fel cenhadon er mwyn rhannu yr ysbryd a'r hwyl hwn."
Ychwanegodd yr hoffai weld mwy o ddylanwadau tramor yn ei faes ei hun hefyd.. Beth am gydweithio 芒 chyfansoddwyr o wledydd eraill i gyfansoddi darnau newydd, ffres, sy'n adlewyrchiad o'r oes sydd ohoni ac hefyd yn ymestyn cystadleuwyr yn dechnegol ac yn eu mynegiant."
Wedi ei eni ym M么n mae Iwan Llewelyn Jones yn un o unawdwyr piano mwyaf dawnus y cyfnod presennol. Pan oedd yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain enillodd Fedal Chopin, Medal Aur Hopkinson a'r wobr am ddeuawd offerynnol a bu'n llwyddiannus wedyn mewn sawl cystadleuaeth rhyngwladol.
|
|
|