| |
Yr Urdd dan yr ordd
Mae amheuaeth yn cael ei godi yr wythnos hon ynglyn 芒 hawl yr Urdd i alw ei hun yn fudiad ieuenctid.
Mewn erthygl grafog yn Y Cymro mae'r darlledwr, Gwilym Owen, yn herio'r mudiad i gyfaddef mai "mudiad plant ac ysgolion" ydi o mewn gwirionedd yn hytrach na gwir fudiad ieuenctid.
Fore Iau, nid oedd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd wedi darllen y sylwadau ond dywedodd y byddai yn ymateb wedi gwneud hynny.
Yn yr erthygl sydd, yng ngeiriau Gwilym Owen, "yn rhoi pin fach dyner yn swigan hunangyfiawder llethol" y mudiad mae'n holi:
"Oni fyddai hi'n llawer fwy onest petai'r Urdd yn cyfaddef mai mudiad plant ac ysgolion ydi o bellach?"
Mae'r darlledwr a fu yn weithiwr ieuenctid ei hun ar cyn troi at ddarlledu yn ymhelaethu: "Onid hanfod mudiad ieuenctid ydi cynnig gwasanaeth i bobl ifainc go iawn yn y gymdeithas y tu allann i oriau ysgol? Onid dyna mae mudiad fel Y Ffermwyr Ifanc, Y Sgowtiaid a'r Geidiaid yn ei wneud?
"Onid yw 90 y cant o weithgarwch ardderchog yr Urdd yn digwydd o fewn ysgolion o dan arweiniad athrawon? Onid oes llawer o waith eisteddfodol y mudiad yn cael ei baratoi yn ystod oriau dysgu?" meddai.
Dywed nad ceisio tanseilio gwaith yr Urdd y mae wrth ddweud y pethau hyn "ond yn hytrach gofyn am ychydig o wrthrychedd yn y cyflwyniad cyhoeddus o'r Mudiad fel mudiad ieuenctid credadwy".
Ac mae'n mynd rhagddo i holi faint o "wir aelwydydd" sydd gan yr Urdd yng Nghymru erbyn hyn y tu allan i ysgolion.
"Pa mor ymwybodol," hola, "ydi criwiau o bobl ifanc mewn pentrefi yng nghadarnleoedd y Gymru Gymraeg o'r hyn sydd gan yr Urdd i'w gynnig.
"Faint o'r bobl ifanc hynny a drafferthodd i baratoi mewn unrhyw ffordd ar gyfer Prifwyl M么n eleni," meddai gan ychwanegu mai'r union bobl hyn sydd angen arweiniad mudiad ieuenctid fel yr Urdd yn hytrach na'r rhai hynny sydd o fewn "tyrau ifori" neuaddau Cymraeg y brifysgol ym Mangor ac Aberystwyth.
"Eu gwasanaethu hwy fyddai'n cyfiawnhau'r gosodiad mai hwn yw gwir fudiad pobl ifanc Cymru," meddai.
|
|
|