Bydd seremoni yn Eisteddfod yr Urdd Ynys M么n i gyflwyno Neges Ewyllys Da y mudiad.
Cafodd y neges sy'n annog pobol i brynu nwyddau Marchnad Deg ei chyflwyno gyntaf ar raglen Hywel a Nia ar 91热爆 Radio Cymru, Mai 18, Dydd Ewyllys Da.
Fe'i darllenwyd ar y rhaglen gan Manon Wyn Williams, Nia Wyn Huws a Glesni Mair Owen sy'n aelodau o Aelwyd yr Ynys ac yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llangefni.
Nhw luniodd y neges yn gwahodd ieuenctid y byd "i uno gyda ni, bobl ifanc Cymru, i gefnogi Masnach Deg".
Bydd y neges yn cael ei chyflwyno ar lwyfan yr Eisteddfod am hanner awr wedi un o'r gloch y dydd Mercher gyda deugain o aelodau Aelwyd yr Ynys yn cymryd rhan mewn seremoni a gynhyrchir gan Nia Efans sy'n gweithio gyda'r 91热爆 ym Mangor.
Ar gyfer y seremoni honno lluniwyd pregeth fer gan y Parchedig Elwyn Jones a chyfansoddwyd c芒n sydd hefyd yn annog marchnad deg a thegwch yn y Trydydd Byd gan Arfon Wyn.
Dywedodd Nia i'r ffaith fod M么n yn cael ei hadnabod fel Mam Cymru fod yn eu meddyliau wrth ddewis hwn yn bwnc y neges a bod M么n yn cynhyrchu cymaint o fwyd ar un adeg.
Cyhoeddwn yma y neges - sydd hefyd wedi ei chyhoeddi ar boster a gynlluniwyd gan Manon:
Y neges er mwyn clywed y neges neu darllenwch hi isod. Gwahoddwn ieuenctid y byd i uno gyda ni, bobl ifanc Cymru, i gefnogi Masnach Deg.
Beth yw Masnach Deg? Mae Masnach Deg yn sicrhau bod cynhyrchwyr yn derbyn pris teg am eu cynnyrch.
Pwy mae Masnach Deg yn ei helpu? Mae Masnach Deg yn cynorthwyo gweithwyr a theuluoedd mewn nifer o wledydd tlawd y byd.
Pam bod Masnach Deg yn bwysig? Mae Masnach Deg yn sicrhau amodau gwaith teg i gynhyrchwyr a gwell dyfodol iw cymunedau.
Beth allwn ni ei wneud? Gallwn ni wneud gwahaniaeth drwy brynu cynnyrch syn arddangos label Masnach Deg. Gallwn hefyd ymgyrchu i newid rheolau masnach rhyngwladol. Mae modd i fasnach weithio o blaid gwledydd tlawd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Ymunwch gyda ni!