| |
Ap锚l gerddorol dysgwr
Gwelodd y gwr ifanc a enillodd Fedal y Dysgwyr yn yr Eisteddfod lythyr a anfonodd at weinidog o'r Cynulliad yn cael ei ddarllen gan y Gweinidog hwnnw ar y llwyfan!
Yr oedd Patrick Bidder wedi anfon at Alun Pugh AC yn gofyn am fwy o gefnogaeth i addysg gerddorol yn ysgolion Cymru.
Galwodd am arian i helpu plant na allant eu fforddio gael gwersi offerynnol a chyfleon yn y maes offerynnol.
Ar gyfer seremoni cyflwyno Medal y Dyswgyr iddo yr oedd yr Urdd wedi trefnu i ffilmio Alun Pugh, y gweinidog sy'n gofalu am ddiwylliant yn y Cynulliad, yn darllen y llythyr ac fe'i dangoswyd yn gwneud hynny ar sgr卯n fawr ar y llwyfan.
Disgybl yn ysgol Uwchradd yw Patrick Bidder, ac yn Brif Fachgen.
Mae wedi derbyn cynnig amodol i Goleg Sant Ioan Caergrawnt i astudio Athroniaeth.
Ei ddiddordebau yw canu'r ffidl, chwarae tennis, darllen Cymraeg, gwylio ffilmiau a siarad efo'i ffrindiau.
Mae'n aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac yn cyfrif Cerddoriaeth yn bwysig yn gymdeithasol yn ogystal 芒 chelfyddydol ac mae'n canu'r ffidl mewn ensemble offerynnol mewn priodasau a phart茂on.
Ei obaith ar gyfer y dyfodol yw cael gwaith gyda'r Cenhedloedd Unedig ym Mrwsel neu yn y Cynulliad yng Nghaerdydd.
Dywedodd ei fod yn awyddus i weld cysylltiad uniongyrchol rhwng y Cynulliad a'r Cenhedloedd Unedig yn hytrach na thrwy Loegr fel ar hyn o bryd.
Er mwyn gwella ei Gymraeg mae'n ymarfer siarad efo disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Glan Taf yng Nghaerdydd - ac un o'r rheiny yn arbennig!
Wedi iddo dderbyn ei wobr talodd deyrnged i'w athrawes Gymraeg yn yr ysgol, Nerys Roberts, am ei hanogaeth a'i chefnogaeth bob amser i wneud yn siwr ei fod yn parhau 芒'i addysg yn y Gymraeg.
Ar gyfer y gystadleuaeth ysgrifennodd draethawd, lluniodd gyfweliad dychmygol gyda Bryn Terfel a'r llythyr at Alun Pugh.
Saith oedd yn y ras am y wobr ac er i John Les Les Thomas, yn traddodi'r feirniadaeth, ganmol safon yr ymgeision oll, gofidiai yn fawr i cyn lleied gystadlu.
Gyda'r gwaith yn rhan o faes llafur ysgolion dywedodd na allai ddeall pam fod cyn lleied o ddiddordeb yn y gystadleuaeth hon a ddisgrifiodd fel un bwysicaf yr eisteddfod.
Pwysleisiodd bwysigrwydd arbennig dysgwyr i ddyfodol yr iaith gan ddweud mai dysgwyr sy'n mynd i'w hachub yn y pen draw, a chefnogwyd y gosodiad hwnnw gan Patrick.
Bu hon yn gystadleuaeth arbennig o ffrwythlon i Ysgol Uwchradd Caerdydd, gyda dau ddisgybl arall o'r ysgol yn ail ac yn drydydd Beth Smith Yn Ail A Daniel O'Grady.
|
|
|