91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

91热爆 91热爆page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Medal Ddrama yn chwarae plant

MeinirAm y tro cyntaf a'r tro olaf enillwyd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd gan Meinir Lloyd Jones.






Dywedodd Meinir iddi gyfansoddi y ddrama y dywedodd y beirniaid fod ganddi rywbeth o bwys i'w ddweud yn ystod gwyliau hanner tymor o'r ysgol lle mae'n dysgu.

Sgrifennodd hi yn benodol ar gyfer y gystadleuaeth oherwydd gwyddai mai hwn fyddai ei chyfle olaf i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd gan y bydd dros oed cystadlu y flwyddyn nesaf.

Canmolodd Dewi Williams, a oedd yn beirniadu gyda William R.Lewis, sawl agwedd ar ddrama Meinir Gn gyfeirio'n arbennig at y cymeriadau o gig a gwaed a'i fflachiadau o hiwmor.

"Ceir ymdrech dda i greu cymeriadau o gig a gwaed, rhai y gallwn uniaethu 芒 hwy yn eu hing a'u hapusrwydd.

"Mae gan yr awdur glust dda am ddeialog a rhythmau iaith ac mae'r gwaith wedi ei bupro 芒 fflachiadau hyfryd o hiwmor a dywediadau bachog sy'n lliwio'r ddrama.

"Mae gan y dramodydd hwn hefyd rywbeth o bwys i'w ddweud wrthym," meddai.

Dywedodd Meinir wedi'r seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod yn cael ei harwain gan yr actor Owain Arwyn, mai digwyddiadau diweddar yn y Dwyrain Canol 芒'i sbardunodd i sgrifennu.

Tri phlentyn yn chwarae yw cymeriadau ei drama sy'n para dros ddeugain munud ond buan iawn y sylweddolir mai cynrychioli gwladwriaethau fel Yr Unol Daleithiau, Prydain ac Irac mae'r plant mewn gwirionedd.

Dywedodd Meinir i'r syniad ddod iddi wrth wylio plant yn chwarae a sylweddoli fod rhyfela yn gymaint rhan o'r chwarae hwnnw.

"Wrth ddisgrifio'r ddrama dywedodd Dewi Williams:
"Ar yr olwg gyntaf drama yw hon am dyndra rhwng tri phlentyn - dwy ferch a bachgen - yn chwarae mewn parc. Ond buan y sylweddolir fod hyn yn digwydd yn y flwyddyn 2008 pan yw'r wlad hon bellach dan fygythiad terfysgol.

"Adlewyrchir hyn yn agweddau milain y plant at ei gilydd; mae'r chwarae plant ymddangosiadol ddiniwed yn troi'n fygythiadau a chyhuddiadau sinistr; mae fel petai'r plant wedi'u llygru gan amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth," meddai.

Merch fferm ydi Meinir ac yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llannefydd ers dwy flynedd.
Yn wreiddiol o Fetws yn Rhos, cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Betws yn Rhos ac yna yn Ysgol Uwchradd Y Creuddyn.

Astudiodd Gymraeg a Ll锚n y Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Bangor, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn y flwyddyn 2001.

Roedd un o'r beirniaid, William R Lewis, yn diwtor iddi yno.



Ymysg ei diddordebau mae Meinir yn rhestru cerdded, nofio, beicio a dosbarthiadau byms a tyms, a chafwyd awgrym ganddi efallai fod testun drama yn y dosbarthiadau hynny hefyd.

"Yr ydym ni yn edrych yn ddigon rhyfedd pan ydym ni wrthi," meddai.

Mae hi hefyd eisteddfotwraig selog a bydd yn cystadlu ar y llwyfan cyn diwedd yr wythnos yn canu alaw werin ac mewn parti.

Ym myd y ddrama dywedodd ei bod yn mwynhau gwaith Meic Povey a Lillian Hellman ond dywed ei bod yn cael blas ar wylio cwmn茂au drama lleol hefyd.

Dywedodd ei bod wrth ei bodd clywed y bydd 91热爆 Radio Cymru o bosibl yn darlledu ei drama hi a'r dram芒u a ddaeth yn ail ac yn drydedd yn y gystadleuaeth.

Catrin Dafydd o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth, Ceredigion, ddaeth yn ail eleni, gyda Bethan Williams o Aelwyd Bethel, Arfon, Eryri, yn drydydd.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy