| |
Diwrnod Dau Ddylan
Dau Ddylan yn taro'r pyst Fel pe na byddai un yn ddigon yr oedd gan Taro'r Postddau Ddylan ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ddydd Llun.
Am y tro cyntaf clywodd y genedl lais Dylan Jones 13 oed o Garreglefn Ynys M么n.
Yr oedd y Dylan Jones iau, yn rhannu'r dyletswyddau gyda'r Dylan Jones - wel nid hen ond yn sicr nid cweit mor 'iau'! Ac ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf dechreuodd Dylan ar nodyn uchel yn holi un o brif gantorion Cymry, y tenor Gwyn Huws Jones gyda'r Dylan arall yn dal y meic yn hytrach na siarad iddo.
Ac yr oedd gan y Dylan newydd ambell i gwestiwn beiddgar y byddai'r Dylan arferol wedi gorfod meddwl ddwywaith cyn ei ofyn.
Er enghraifft, "Pam newid o fod yn fariton i fod yn denor - damwain anffodus?"
Dywedodd gwyn fod y llais yn newid ac yn datblygu wrth i ganwr fynd yn hynach ac y gall yr hyfforddiant mae'n ei dderbyn effeithio ar yr ansawdd hefyd.
Dywedodd i'w lais ef dorri pan o0edd yn ifanc iawn, tua 11 oed.
"Felly chefais i ddim llawer o gyfnod fel trebl ac yr oeddwn yn canu bariton yn 12 oed," meddai.
Mae Gwyn Huws Jones bellach yn denor sydd wedi ennill ei le ar y llwyfan rhyngwladol ac wedi canu gyda chwmniau opera cenedlaethol Cymru a Lloegr yn ogystal ag Opera San Fransisco ac Opera Metropl Efrog Newydd.
Fe'i dewiswyd i ganu yn seremoni agoriadol Gemau Olympaiddy Gaeaf yn Siapan. Yn dilyn cwestiwn arall gan Dylan, datgelodd y gall siap yr wyneb wneud gwahaniaeth i ansawdd llais.
"Os yw'r wyneb yn llydan mae hynny'n rhoi lot o le i'r llais atseinio," meddai wrth Dylan.
Ond fe'i sicrhaodd nad oes raid i ganwr fod yn fawr ac yn dew.
"Fy mai i ydi mod i ff elly," meddai," ond mae yna lawer o gantorion sydd yn fach iawn," meddai.
"Yr oeddem yn falch iawn o gael Dylan ar y rhaglen er mwyn cael ongl pobl ifanc i'r hyn sy'n digwydd - er fe fyddai'r Dylan Jones arall yn gwadu'n llwyr unrhyw awgrym ei fod o'n hen wrth gwrs," meddai llefarydd ar ran Taro'r Post.
|
|
|