91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

91热爆 91热爆page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Seindorf a s锚r yn agor yr Eisteddfod

Seindorf BiwmaresFe ddangosodd Ynys M么n pam ei bod yn cael ei galw yn Wlad y Medra nos Sul yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd 2004.

Daeth rhai o brif artistiaid yr ynys i'r llwyfan i roi gwledd o gerddoriaeth - o'r offerynnol i'r lleisiol, yn gorau ac unigolion.

Roedd y noson hefyd yn rhyw fath o gyngerdd-dod-adref i'r tenor Gwyn Hughes Jones sydd newydd ddychwelyd o dreulio chwe mis yn America ac a oedd yn amlwg yn teimlo'n gartrefol iawn o flaen cynulleidfa gyfarwydd.

"Pwy yma sydd DDIM yn perthyn imi?!" gofynnodd wedi'r gymeradwyaeth wresog gafodd i'w g芒n gyntaf, Gwlad y Delyn - y gyntaf o dair c芒n 芒 blas lleol a agorodd ei berfformiad.

Ond fyddai ddim ots pe bai'r tenor o Lanbedrgoch yn dod o Timbuktu - yr un fyddai'r derbyniad wedi bod, yn enwedig pan aeth ymlaen i ganu dwy aria Eidalaidd, gan Tosti a Puccini, a'r ffefrynnau Arafa Don a Chymru Annwyl, gan daro'r nodau top yn nerthol bob tro.

Do, fe blesiodd ei repertoir, fel ag y plesiodd chwarae'r pianydd Iwan Llewelyn-Jones hefyd. Fe gafwyd y tincial tawel a theimladwy ganddo yn Etude yn E fwyaf Chopin ac yn Clair de lune. Ac yna, newid llwyr pan ddechreuodd ei fysedd ddawnsio drwy Toccata ac, yn nes ymlaen, Boogie Woogie Llanoogie, darn a ysgrifenwyd ar ei gyfer gan y cyfansoddwr Karl Jenkins.

Er bod sgr卯n fawr yn caniatau i'r gynulleidfa gael golwg fanylach ar ei fysedd yn llithro dros y nodau, roedd hi'n dal bron yn amhosib gweld yn union sut roedd yn creu'r hud a'r lledrith ar yr ifori gan mor gyflym roedd o'n symud ar hyd yr allweddau.

Ond cyn i'r ddau seren byd-eang yma ddod i'r llwyfan roedd y safon wedi'i osod o'r dechrau un pan agorwyd y cyngerdd yn llawn afiaith gan Seindorf Biwmares (uchod).

Yn lliwgar o ran edrychiad ac o ran ysbryd, mae rhywbeth bywiog, hwyliog a heintus am y band yma sydd 芒 thros 150 o aelodau ifanc lleol yn chwarae iddo erbyn hyn.

Os cafwyd y clasurol gan Gwyn Hughes Jones ac Iwan Llewelyn-Jones, fe roddodd y band gyfuniad o jazz, salsa a s诺n 'big band' - i gyd wedi ei gyflwyno 芒 gw锚n, a rhywfaint o ganu hefyd!

Newid cywair eto gafwyd gan G么r Seiriol, Elin Fflur a Ch么r Ysgolion M么n - C么r Seiriol yn swyno gyda darnau gan Karl Jenkins, eto, ac Elin Fflur yn perfformio gyda'i band fel rhan o'i thaith fawr dros yr haf. Dangosodd plant yr ynys hefyd fod dyfodol cerddorol yr ardal yn ddiogel gyda chaneuon fel C芒n Llanddwyn, Nos Da a'r hyfryd Gwylio S锚r y Nos gydag Elin Fflur - c芒n wedi ei chyd-gyfansoddi ganddi.

Diweddodd y noson, wrth gwrs, gyda'r holl artistiaid yn dod at ei gilydd ar y llwyfan i ganu c芒n pencampwriaeth Cwpan y Byd, Byd o Heddwch. Wrth i bawb ei morio hi, roedd hi'n anodd peidio 芒 sylwi ar waith caled adran daro'r Seindorf yn rhedeg o un offeryn taro i'r llall er mwyn sicrhau bod y symbalau'n tasgu a'r gong mawr yn atseinio ar benllanw'r g芒n.

Ac wedi dangos eu gwerthfawrogiad drwy godi ar eu traed, a chael eu gwobrwyo gan ddatganiad o Hafan Gobaith, fe aeth y gynulleidfa adref wedi eu pleisio a phobl M么n wedi gosod her i weddill Cymru am yr wythnos.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy