| |
Cyrraedd y nod ariannol
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn agor ei drysau ar Ynys M么n heddiw yn hapus yn yr wybodaeth fod y nod ariannol leol o 拢210,000 wedi ei chrddaedd.
A thalwyd teyrnged i ymdrechion y gwirfoddolwyr a fu'n gyfrifol am hynny gan gadeirydd y pwyllgor gwaith.
"Yr oedd yn swm anhygoel i ynys fechan - nid ar chwarae bach mae codi cymaint a hynny o arian," meddai DereK Evans mewn cynhadledd i'r was gar faes yr Eisteddfod ddydd Sul.
"Ac rydw i'n gwybod fod pob ceiniog wedi ei chodi yn yr ysbryd iawn," ychwanegodd wrth gyfeirio at yr elfen gref o gydweithrediad a fu yna rhwng unigolion ac ardaloedd.
Disgwylir y bydd 100,000 yn ymweld 芒'r wyl sy'n cael ei chynnal ar faes sioe amaethyddol y sir.
"Ein her fwyaf eleni oedd trawsnewid yr adeilad a oedd yn cael ei ddefnyddio i arddangos moch yn bafiliwn gydag adnoddau perfformio cyflawn a seddau i hyd at 1,700 o eisteddfodwyr ar y tro!" meddai Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Urdd ar gyfer yr Eisteddfod a'r Celfyddydau.
Hwn fydd y pedwerydd tro i brifwyl yr Urdd ymweld 芒 M么n - Llangefni, 1948, Caergybi, 1966 a Phorthaethwy, 1976 - a chafwyd addewid o wyl lwyddiannus yn llawn bwrlwm.
"Stori o lwyddiant ydi hon," meddai Tudur Dylan Jones, cadeirydd newydd bwrdd yr Urdd sydd yn gofalu am yr Eisteddfod a'r celfyddydau.
Ac hyd yn oed os na fydd y tywydd yn ffafriol mae gobeithion y bydd yr wyl yn llai o eisteddfwd eleni oherwydd bod ffyrdd called ar hyd a lled y maes.
i ddarllen erthyglau cefndir. Mae yna hefyd groeso i chi gyfrannu at y wefan.
|
|
|