Y mae enillydd coron Eisteddfod yr Urdd 2004 yn gofidio nad oes yna ddigon o anogaeth ac o gyfle i sgrifenwyr ieuanc yng Nghymru - yn enwedig rhai sy'n ymddiddori mewn drama.
Yn siarad wedi seremoni'r coroni ddydd Gwener dywedodd Si芒n Eirian Rees Davies fod ganddi hi ddiddordeb arbennig mewn sgriptio drama radio ond gofidiai mai ychydig iawn o gyfle sydd yna i rai fel hi.
Deialog oedd un o'r tri darn a enillodd iddi'r goron gyda Jane Edwards a Gwilym Dyfri Jones yn beirniadu.
Yr oedd y ddau feirniad yn uchel eu clod i'w gwaith ar y testun, Croesi.
"Saif ben ac ysgwyddau uwchlaw gweddill y cystadleuwyr," meddai Gwilym Dyfri Jones yn traddodi'r feirniadaeth.
"Wele awdur aeddfed a dawnus sydd 芒'r gallu i drin geiriau mewn modd sensitif, gofalus a chywrain. Cafodd y ddau ohonom wefr o ddarllen ei champwaith."
Disgrifiwyd ei darn deialog fel un wedi ei "saernio yn grefftus" gyda gwrthrychau meddwl a rhesymu cyfrifol.
Ychwanegodd: "Cyflwyna syniadaeth aeddfed ac awgrymog y dylai rhai o benboethwyr yr iaith ei hystyried cyn lluchio baw a gweld bai."
Dywedodd fod y ddau ddarn arall "yn fwy uchelgeisiol fyth."
Dywedodd Si芒n iddi sgrifennu'r rhan fwyaf o'r gwaith pan gafodd ei chau yn ei chartref gan eiria yn ystod Chwefror eleni ond yr oedd wedi dechrau sgrifennu cyn hynny.
"Mi wnes i ddeffro un bore mewn tymer reit dda ac yr oedd yn neis cael testun penodol yn sialens," meddai.
O Dinas, Pen Llyn y daw Si芒n. O Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor aeth i Brifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Cymraeg ac ysgrifennu creadigol.
Mae'n awr yn cwblhau MA ysgrifennu creadigol cyn dechrau ar ei swydd gyntaf yn ddarlithydd Cymraeg ail iaith yng Ngholeg I芒l ger Wrecsam.