| |
Cerddor heb ei ail
Daeth Myfyriwr 20 oed o Brifysgol Bangor yn gyntaf ac yn ail yng nghystadleuaeth Tlws y cerddor yn Eisteddfod yr Urdd, 2004.
Brodor o Lyndyfrdwy, Corwen, ydi Owain Llwyd a dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn wyth oed ac yn ddisgybl yn Ysgol y pentref.
O'r ysgol honno aeth i Ysgol Y Berwyn, Y Bala, lle y bu'n brif-fachgen cyn mynd i Goleg y Brifysgol Bangor i astudio tuag at radd Bmus. Mae bellach wedi cwblhau ei ail flwyddyn .
Ei brif offeryn yw'r piano.
Yn barod mae o wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003, Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2002 ac ennill yr unawd piano yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol gan gipio y Rhuban Glas Offerynnol i rai rhwng 16 ac 19 yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002.
Talodd deyrnged i Wyn Thomas yn yr Adran Gerdd ym Mhrifysgol Bangor am ei hyfforddiant a'i weledigaeth.
Roedd y gwaith buddugol yn gyfres o dri symudiad wedi eu seilio ar gerdd gan yr Athro Gwyn Thomas, Da Ydoedd sy'n s么n am y greadigaeth o gyffro'r dechreuad.
Ysgrifennwyd y geiriau yn wreiddiol ar gyfer comisiwn gan G么r Merched Edeyrnion.
Dywedodd mai yn ei lofft yn Neuadd John Morris Jones ym Mangor y cyfansoddodd y gwaith. Y dylanwad arno oedd cyfansoddwr fel Debussy, Ravel, Hindermith, William Mathias ag Alun Hoddinott.
Meddai'r beirniad, Gareth Glyn: "Naw ymgais ddaeth i law, ac mae'n dda gen i ddweud bod y safon ar y cyfan yn hynod o uchel... Cefais bleser mawr yn pori drwy'r ymgeisiau, ac mae'n braf gweld bod 'na ddyfodol sicr i'r grefft o gyfansoddi yng Nghymru."
Yn drydydd yn y gystadleuaeth yr oedd Eleri Pound, Aelod Unigol o'r tu allan i Gymru, Headingley.
|
|
|