| |
Cadeirio cynghanedd ymgyrchu
Ail, ddwywaith, a gafodd athro'r bardd ifanc a enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd, ddydd iau.
Er i ddwy awdl gan Eurig Salisbury ddod yn gydradd ail yn y gystadleuaeth ei ddisgybl barddol, Hywel Griffiths, a ddyfarnwyd yn gyntaf yn y gystadleuaeth gan y ddau feirniad, Cen Williams ac Einir Jones.
Wrth siarad gyda'r Wasg yn dilyn y seremoni datgelodd Hywel mai Eirug, sy'n gyd-fyfyriwr ag ef yn y brifysgol yn Aberystwyth, a'i dysgodd i gynganeddu.
Dylanwad mawr arall arno yw Gerallt Lloyd Owen a chyfeiriodd yn benodol at ysgytiol a gwahanol Gerallt i gydfynd ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ag Eryri y flwyddyn nesaf.
Canmol yn fawr Derbyniodd awdl fuddugol Hywel ganmoliaeth laes gan y beirniaid. "Awdl gan grefftwr arbennig sy'n defnyddio amrywiaeth eang o fesurau," meddai'r Prifardd Cen Williams yn traddodi'r feirniadaeth.
"Cododd fel potel gyda neges ynddi i frig y don o'r darlleniad cyntaf," ychwanegodd . "Pleser ysgytwol oedd ei darllen."
Dywedodd Hywel, sy'n dod o Langynog ger Caerfyrddin, iddo gael ei sbarduno i gyfansoddi ei gerdd gan ymgyrchoedd diweddaraf myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ac yr oedd yn gwisgo yn ystod y seremoni fathodyn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg.
Wrth s么n am yr ysbrydoliaeth dywedodd iddo ddeillio o'r teimlad "o fod mewn cymdeithas o ffrindiau a phobl genedlaetholgar sy'n barod i sefyll drostynt eu hunain; yn enwedig protestiadau dros goleg federal."
Fodd bynnag nid yw'r awdl ei hun yn s么n yn benodol am unrthyw ymgyrch ond yn mawrygu'r berthynas sy'n bodli rhwng y myfyrwyr a'r cyfuniad o gymdeithasau a mwynhau ac o ddod at ei gilydd "i frwydro dros beth ydych chi'n gredu sy'n bwysig," meddai.
Yn y brifysgol mae Hywel yn astudio Daearyddiaeth a Mathemateg gan obeithio aros yno i astudio cwrs meistr mewn daearyddiaeth ffisegol flwyddyn nesaf.
Dywedodd mai ei brif ddiddordebau ar wah芒n i farddoni yw chwaraeon, cerddoriaeth, ffilmiau a gwleidyddiaeth.
Ei hoff feirdd Cymraeg, yn ogystal 芒 Gerallt Lloyd Owen, ydi Dic Jones ac R.S Thomas.
Yn drydydd yn y gystadleuaeth roedd Aneirin Karadog, Aelod Unigol o Gylch Pontypridd, Morgannwg Ganol ac Osian Rhys Jones o Aelwyd Pantycelyn, Aberyswyth, Ceredigion.
|
|
|