| |
Adroddiad ar waith yr Urdd:
Er i lawer o waith yr Urdd gael ei ganmol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg mae'r Bwrdd hefyd wedi galw am welliannau .
Yr oedd Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones, ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth i gyflwyno adroddiad gan arbenigwyr a fu'n mesur "effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwaith maes Urdd Gobaith Cymru."
Byrdwn yr adroddiad, gan gorff sy'n rhoi arian mawr i'r Urdd, oedd fod y mudiad yn rhoi gwerth am arian gyda'i weithgarwch yn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg.
Angen eu gwella Ond ychwanega fod rhai pethau o fewn cyfundrefn yr Urdd sydd angen eu gwella.
"At ei gilydd mae trefniadaeth yr Urdd yn addas ar gyfer sicrhau gwaith maes effeithiol a defnyddiol. Serch hynny, oherwydd cwtogi diweddar mae'r drefniadaeth hon dan bwysau ac mae angen cryn fuddsoddiad yn y drefn reoli, gweinyddu a gweithredu," meddir.
Mae'r adroddiad yn s么n hefyd fod angen i'r Urdd greu timau sirol cryfach.
"Golygai hyn gynyddu'r lefel staffio sirol gan roi cyfrifoldebau penodol am agweddau o wasanaeth megis gweithgarwch ysgol, chwaraeon, yr Eisteddfod a gwaith yn y gymuned. Byddai newid felly, wrth gwrs, yn ddibynnol ar gryn fuddsoddiad i'r mudiad," meddai'r adroddiad.Dywedir hefyd na lwyddodd yr Urdd hyd yn hyn i "chwarae ei ran mor effeithiol ag y gallai" i ffurfio agenda polisi ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru o ran cyfranogi a hawliau plant" a hynny eto oherwydd prinder staff.
Llais pobl ifanc Dywed yr adroddiad hefyd: "Dechreuodd yr Urdd ar y broses o greu systemau ar gyfer peri bod llais pobl ifanc yn gallu dylanwadu'n fwy ar waith a darpariaeth y mudiad. Eto i gyd, mae cryn ffordd i fynd cyn bod trefn gwrando ar lais pobl ifanc yn rhan annatod o wead y mudiad."
Ynglyn 芒 gwaith cymunedol dywedir: "Ceir peth gweithgarwch pwrpasol ar lefel gymunedol ond gellid cryfhau'r elfen hon o waith yr Urdd yn sylweddol. Yn y lle cyntaf, mae angen yn y Cynllun Corfforaethol newydd ddiffinio r么l yr Urdd yn y gymuned ac yna creu strategaeth gymunedol ar gyfer y mudiad gan gydnabod cyfraniad cyrff eraill. Dylai haenen datblygu gwaith yn y gymuned fod yn rhan o gyfrifoldeb pob swyddog datblygu."
Ond er gwaetha'r'gellid gwneud yn well' hwn, sylwadau cadarnhaol o ganmoliaeth oedd rhai Meirion Prys Jones yn gyffredinol fore Mawrth a dywedodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr newydd yr Urdd, y bydd y mudiad yn awr yn paratoi ymateb i'r Bwrdd.
"Ein blaenoriaeth ni nawr fydd ymateb yn greadigol i'r argymhellion a wnaed ac yn y modd ry'n ni'n mynd ati i sicrhau cyllid digonol i'r Urdd er mwyn iddi gyflawni ei photensial," meddai.
|
|
|