| |
Gwersi dawns o'r India
Gwnaeth cwmni dawns o'r India gryn argraff yn ystod ei ymweliad 芒 maes Eisteddfod yr Urdd ym M么n yr wythnos hon.
Daeth dawnswyr Sanved o loches sy'n cael ei chynnal gan fudiad hawliau merched o'r enw Sanlaap yn Bengal lle mae'n gweithio law yn llaw 芒 Chymorth Cristnogol i ddiogelu merched sy'n cael eu camddefnyddio gan y diwydiant rhyw.
Meddai Branwen Niclas, Cydlynydd Ieunctid Cymru Cymorth Cristnogol: "Merched wedi eu gwerthu ydy rhain. Wedi cael eu cipio o ardaloedd tlawd a diarffordd ac wedi eu gwerthu fel caethweision neu i'r diwydiant rhyw."
Eglurodd i'r cynllun dawns gychwyn fel therapi i'r merched ond buan iawn y dechreuo nhw deithio o gwmpas y wlad nid yn unig yn perfformio ond yn dysgu pobl eraill o'r un oed am beryglon HIV ac Aids.
"Cafodd un ferch o'r criw ei hachub oddi ar y stryd pan oedd hi ond yn 14. Roedd yn feichiog ac yn HIV bositif. Roedd wedi ei gwerthu i'r diwydiant rhyw felly doedd ganddi ddim i'w hamddiffyn."
Dywedodd Branwen fod ymweliad y merched hyn 芒 Chymru ac 芒'r eisteddfod yn rhoi profiad real o'r peryglon truenus sy'n wynebu merched yn yr India ac hefyd yn ffordd i s么n yn uniongyrchol am y tlodi y maen nhw yn ei wynebu yn eu gwlad eu hunain ac o rym y diwydiant rhyw.
"Mae'n bwysig i ni ddangos i bobl ifainc fan hyn sut y mae'n bosib gwneud gwahaniaeth go iawn i wella eu hamgylchiadau a'u cefnogi," meddai.
Ychwanegoodd fod cael rhai a gafoded brofiad personol o beryglon y diwydiant rhyw ac o AIDS a HIV i siarad gyda'u cydwladwyr yn llawer mwy effeithiol na chael rhywun oddi allan yn dod yno i wneud hynny.
|
|
|