| |
Yr allwedd i 2005
Mae'r allwedd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf gan y mudiad yn barod.
Mae'r allwedd metal sy'n agor drysau canolfan y mileniwm yng Nghaerdydd ac a wnaed gan y gof, Ann Catrin, eisoes wedi cael ei dangos mewn sawl gwlad ar hyd a lled.
A chydag Eisteddfod yr Urdd 2005 yn cael ei chynnal yn y Ganolfan cyflwynwyd yr allwedd i'r mudiad ar gyfer wythnos eisteddfod eleni.
Bydd wedyn yn cael ei chludo i Montreal er mwyn tynnu sylw yno at y Ganolfan uchelgeisiol hon.
"Y syniad ydi bod yr allwedd yn mynd o law i law, ac yn cael ei basio o ddwylo cerddorion i ddwylo perfformwyr i ddwylo gwleidyddion. Mae'r allwedd eisoes wedi bod gyda Bryn Terfel yn Efrog Newydd, ym Mharis, St Petersburg, Salzburg, Yr Eidal, De Affrica, Siapan a De Cymru Newydd, a bydd yn mynd o F么n i Fontreal!" meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddau yr Urdd ddydd Iau.
Yna, nos Sadwrn yn y pafiliwn, bydd criw o Aelwyd CF1 yn perfformio cyflwyniad i groesawu Eisteddfod 2005 i Ganolfan y Mileniwm.
Yn rhan o'r cyflwyniad bydd cerdd groeso a ysgrifennwyd ganddynt ar y cyd 芒 Ceri Wyn Jones yn ystod ei gyfnod yn Fardd Plant Cymru.
Comisiynwyd Hector McDonald o'r Gaiman, Patagonia, i roi'r gerdd ar gerddoriaeth gyda'r cydblethiad o eiriau a cherddoriaeth yn adlewyrchiad o'r bwrlwm fydd ar lwyfan Canolfan Mileniwm ymhen blwyddyn.
Ac addawodd Sian Eirian y bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2005 yn un dra gwahanol ar sawl cyfrif."Rydan ni'n gobeithio defnyddio godidogrwydd safle Eisteddfod y flwyddyn nesaf i'w lawn botensial. Mae trafodaethau ar y gweill rhwng yr Urdd a Chyngor Dinas Caerdydd ynglyn 芒'r posibilrwydd o gau rhai ffyrdd sy'n amgylchynu Canolfan y Mileniwm. Bydd modd gosod y stondinau ar y strydoedd a chreu maes arbrofol, arloesol a gwahanol iawn i'r arfer, a bydd modd ymgorffori Plass Roald Dahl yn rhan o'r maes hefyd.
"Mae trafodaethau ar y gweill yngl欧n 芒 chynnal rhagbrofion yn sinema'r UCI drws nesaf i'r Ganolfan hefyd. A gan fod yr Eisteddfod ar lan y d诺r, mae'n bosib y gallwn gynnig gweithgareddau dwr yn rhan o'r arlwy i'r Eisteddfodwyr.
"Bydd Eisteddfod yr Urdd 2005 yn gyfle heb ei ail i'n ieuenctid gael blasu am y tro cyntaf gyfleusterau rhagorol Canolfan ysblennydd y Mileniwm. Bydd sawl llwyfan yn gallu cael eu defnyddio yno, a bydd modd manteisio ar adnoddau campus preswylwyr eraill y Ganolfan megis Cwmni Dawns Diversions a Chwmni Opera Cymru."Bydd yr eisteddfod honno hefyd yn cyd daro 芒 dathliadau 50 mlynedd prifddinas Cymru."
Meddai Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Fel mae'r Urdd yn ei chyfrif hi'n fraint cael bod yn bartneriaid yng Nghanolfan y Mileniwm, mae'n fraint hefyd i'r Ganolfan gael croesawu hufen ifanc ein gwlad. Mae'n si诺r y bydd artistiaid proffesiynol o bob cwr o'r byd yn heidio i'r llwyfan yn eu tro, ond fydd yr un ohonyn nhw'n fwy pwysig na'r rhai fydd yn ymddangos ar y llwyfan yn ystod Eisteddfod yr Urdd."
Meddai Judith Isherwood, Prif Weithredwr Canolfan Mileniwm Cymru: "Edrychaf ymlaen at groesawu'r Urdd, pobl ifanc Cymru a phobl ledled y wlad i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2005 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac i'ch croesawu yn 么l bob pedair blynedd o hynny ymlaen."
|
|
|