Er i I诺l Cesar ymosod ar Brydain ddwywaith, yn 55 a 54CC, yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Claudius yn OC43, dan arweiniad Aulus Plautius a'i fyddin o 40,000 o filwyr, y dechreuodd y goresgyniad Rhufeinig go iawn. Gwrthryfelodd y brodorion nifer o weithiau, fel y mae hanesion yn eu dangos.
Erbyn OC49 roedd y fyddin Rufeinig wedi cyrraedd tir Cymru heddiw. Yno, roedd pedwar prif lwyth Celtaidd: y Silwriaid, y Demetae, y Deceangli a'r Ordofigiaid, yn byw.
Sut ydyn ni'n gwybod?
Yn anffodus, gan nad oedd y Celtiaid yn cofnodi'u profiadau ar bapur, rydym yn ddibynnol ar weithiau unochrog awduron Rhufeinig, fel yr awdur Lladin, Tacitus, a'r Groegwr, Dio Cassius, am hanes blynyddoedd cynnar goresgyniad y Rhufeiniaid. At hyn, mae archaeolegwyr wedi dehongli hanes caerau fel Caerllion ac wedi darganfod olion a gwrthrychau diddorol. Bellach defnyddir lluniau o'r awyr a geoffiseg i adnabod safleoedd i'w harchwilio, fel ym Mharc Dinefwr, Llandeilo, lle cafodd dwy gaer Rufeinig eu darganfod mor ddiweddar 芒 1979 -2003.
Natur y goresgyniad:
Y drefn filwrol
O fewn ychydig flynyddoedd, roedd y Rhufeiniaid wedi sicrhau presenoldeb milwrol, trwy godi lleng-gaerau yn Isca (Caerllion) a Deva (Caer); ac is-gaerau ar draws Cymru, yn eu plith Moridunum (Caerfyrddin); Segontium (Caernarfon); Gobannium (Y Fenni); Llanio (Ceredigion); Pennal (Meirionnydd) a Thomen-y-Mur (Meirionnydd).
Nid barics milwrol yn unig oedd prif gaerau'r Rhufeiniaid. Roedd gan Gaerllion, er enghraifft, faddonau moethus ac amffitheatr drawiadol ar gyfer 5,000 o filwyr yr Ail Leng, yn ogystal 芒'r adeiladau milwrol arferol - pencadlys (principia), ysbyty, ysguboriau, meysydd ymarfer a vicus, sef tref i gartrefu'r rhai oedd yn darparu gwasanaethau i'r gaer.
Roedd rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig yn cysylltu'r caerau hyn. Un o'r enwocaf oedd Sarn Helen, yn rhedeg o Gaernarfon, tua'r de i Geredigion, ac yna i'r dwyrain i Aberhonddu. Roedd ffyrdd gwych o'r fath ymhlith gwaddol pwysicaf y Rhufeiniaid.
Cyswllt 芒'r brodorion
Wedi cyfnod o frwydro, mae'n bosibl nad oedd y brodorion yn byw yn y gorllewin yn cael cymaint 芒 hynny o gyfathrach 芒'r Rhufeiniaid.
Ond mewn ambell ardal, daeth y brodorion o dan ddylanwad romanitas, a datblygodd diwylliant Brythonig-Rufeinig, yn enwedig yn y civitas, neu'r canolfannau gweinyddol a gafodd eu creu ar sail y llwythau Celtaidd. Cafodd dwy eu sefydlu yng Nghymru - Venta Silurum (Caer-went), sef canolfan llwyth y Silwriaid, a Moridunum (Caerfyrddin), canolfan y Demetae.
Mae'n rhaid bod Bro Morgannwg yn bur sefydlog, oherwydd cafodd nifer o fil芒u, neu ffermydd sylweddol, eu codi gan ffermwyr cyfoethog yno, e.e. yn Nhrel谩i, Llandochau a Llanilltud Fawr. Yno, cafodd cnydau newydd fel afalau, ceirch, moron a chennin eu cyflwyno i Gymru. Yn y fil芒u hyn roedd baddonau, gwres canolog a brithweithiau Rhufeinig nodweddiadol.
Diwydiant
Bu'r Rhufeiniaid yn datblygu adnoddau mwyngloddio Cymru hefyd: copr ym Mynydd Parys a Phen-y-gogarth; plwm, sinc, glo ac arian; ac aur yn Nolau Cothi, lle cafodd dulliau hydrolig hynod soffistigedig, yn seiliedig ar gario d诺r dros 7 milltir o'r afon gyfagos, eu sefydlu.
Y Rhufeiniaid yn gadael
Yn raddol yr ymadawodd y Rhufeiniaid 芒 Chymru a Phrydain. Yn ystod y bedwaredd ganrif c芒i'r ymerodraeth ei bygwth o bob cyfeiriad gan ymosodiadau gelynion o'r tu allan. C芒i milwyr eu symud o Gymru i ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr yn Ewrop. Un o'r rhain oedd gwrthryfel Magnus Maximus (Macsen Wledig), yn erbyn yr Ymerawdwr Gratian yn OC383. Yn 么l traddodiad, syrthiodd Magnus mewn cariad ag Elen o Wynedd a dyma thema'r chwedl 'Breuddwyd Macsen Wledig' yn y Mabinogi.
Mae'n debyg fod y Rhufeiniaid wedi ymadael 芒 Phrydain erbyn OC410.
Gwaddol y Rhufeiniaid
- Mae nifer o eiriau Lladin wedi dod i'r iaith Gymraeg, e.e. fossa (ffos), candela (cannwyll), liber (llyfr), ecclesia (eglwys) a stabellum (ystafell).
- Mae'n debyg mai'r Rhufeiniaid gyflwynodd Gristnogaeth i'r wlad. Cafwyd hyd i bl芒t piwter ag arno'r symbol Cristnogol chi-rho yng Nghaer-went.
- Cafwyd hyd i lawer o drysorau Rhufeinig, fel yr addurn aur a fu unwaith yn arwydd milwrol - signum, yng Nghaerllion, yn 1928.
- Rhwydwaith o ffyrdd syth, gwych.
Heddiw, mae llawer o'r safleoedd Rhufeinig ar agor i'r cyhoedd ac mae cymdeithas yr Ermine Street Guard yn creu arddangosfeydd hanes byw o fywyd yn y cyfnod hwn.
Mwy
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
About this page
This is a history page for schools about the arrival of the Romans in Britain in AD43 and their legacy in Wales. The Romans built forts and roads throughout Wales and left behind elements of their culture, religion and language. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.