![Gofodwyr America ar y lleuad](/staticarchive/26a4e5c28e7a5f42c9126f639e1c330321ec29ac.jpg)
gan Catrin Stevens
Bu'r 1960au yn ddegawd o newidiadau aruthrol yn hanes y byd. Cafodd Arlywydd America, J.F. Kennedy, ei lofruddio yn 1963, ac arweinydd y bobl dduon, Martin Luther King, ei saethu yn 1968; anfonodd yr Undeb Sofietaidd ddyn i'r gofod yn 1961 a glaniodd dau Americanwr ar y lleuad yn 1969.
Bu llawer yn protestio a gorymdeithio i wrthwynebu rhyfel Fiet-nam ac ynni niwclear, ac o blaid hawliau cyfartal i fenywod a phobl dduon. Ar 么l blynyddoedd diflas a llwyd yr 1950au, gwawriodd degawd newydd - 'The Swinging Sixties'.
Ond a gafodd hyn effaith ar Gymru?
Gwaith
Crebachu a chau wnaeth llawer o'r diwydiannau traddodiadol. Caeodd 83 pwll glo a chollwyd 53,000 o swyddi; dim ond glofa'r Maerdy oedd ar 么l yng Nghwm Rhondda yn awr. Ond roedd olion y diwydiant yn beryglus o hyd. Ar Hydref 21, 1966 digwyddodd damwain fwyaf ingol y degawd, pan lithrodd tip glo i lawr ar ben ysgol gynradd Pant-glas, Aberfan, a lladd 116 o blant a 31 oedolyn.
Bellach, roedd y diwydiant llechi yn edwino hefyd, a chaeodd Richard Beeching fwyafrif rheilffyrdd gwledig Cymru.
![Ffatri Hoover ym Merthyr](/staticarchive/30e324e6dbcce8475a0546f21df102175c3d002a.jpg)
Ar y cyfan, er hynny, roedd yr economi yn ffynnu, gyda gweithfeydd newydd, fel gwaith dur Llanwern, purfeydd olew Milffwrd, ffatri Hoover Merthyr Tudful, gorsafoedd niwclear yr Wylfa a Thrawsfynydd, bathdy brenhinol Llantrisant, Canolfan Drwyddedu Abertawe a nifer o ffatr茂oedd ar stadau masnach, fel yn Nhrefforest. Cafodd yr economi hwb pan agorodd pont gyntaf afon Hafren yn 1966 a heol blaenau'r cymoedd yn 1967.
Cartrefi
Roedd cartrefi'r cyfnod yn fwy cyfforddus a moethus. Roedd gan 52% o'r boblogaeth beiriant golchi dillad erbyn 1963 a 37% rewgell. Erbyn 1970, roedd 50% o gartrefi yn berchen car - gyda'r mini yn un o eiconau'r degawd.
Eto, mae'n bwysig peidio gorliwio hyn, oherwydd yn 1971 roedd 22% o dai'r Rhondda yn dal heb dd诺r poeth, a 46% heb d欧 bach yn y t欧.
Hamdden
![Stiwdio](/staticarchive/607f0fe3c87eb71dc5f59cc58d36c3a9ba60d5b8.jpg)
Cafodd oriau hamdden yn y cartref eu chwyldroi gan y teledu. Erbyn 1963, roedd gan 85% o'r boblogaeth set deledu, ac yn 1967 cyrhaeddodd teledu lliw.
Roedd rhaglenni fel Coronation Street yn ffefrynnau mawr, ond roedd tipyn o gwyno bod cyn lleied o raglenni Cymraeg. Dwy raglen newyddion, Heddiw ac Y Dydd, a Si么n a Si芒n, oedd y prif rai, a doedd fawr ddim ar gyfer plant. Ar y radio, roedd gwrando ar orsafoedd answyddogol, fel Radio Luxembourg, ar y 'transistor' yn boblogaidd. Roedd ffilmiau James Bond yn dal i ddenu pobl i'r sinema.
Roedd hyder y degawd yn amlwg yn y canu pop. Heb os, y Beatles oedd y gr诺p mwyaf dylanwadol, a gwelodd Caerdydd effeithiau Beatlemania pan ymwelon nhw 芒'r brifddinas yn 1964.
Roedd cantorion Cymreig yn s锚r rhyngwladol hefyd, yn enwedig Shirley Bassey gyda Goldfinger, yn 1964, a Tom Jones 芒 It's Not Unusual, flwyddyn yn ddiweddarach. Daeth Dafydd Iwan, Meic Stevens a Tony ac Aloma yn s锚r pop y Gymru Gymraeg.
![Shirley Bassey](/staticarchive/d627f7f275ee8eb39f0a1758faa5d4aded0f9f2c.jpg)
Roedd ffasiynau'r oes yn adlewyrchu dylanwad y byd pop. Eicon ffasiwn y 60au oedd y sgert 'mini', a gafodd ei lansio gan y gynllunwraig o Gaerdydd, Mary Quant. Yna, ar ddiwedd y degawd, daeth gwisgo fel 'hipi', gyda gwallt hir a dillad at y traed, yn ffasiynol.
Chwaraeon
Roedd yr 1960au yn gyfnod digon llewyrchus i Gymry ym maes chwaraeon. Enillodd Lynn Davies y fedal aur am y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo, 1964, ac roedd Howard Winston yn bencampwr bocsio'r byd yn 1968.
Ond ar y maes rygbi y gwnaeth y Cymry'r argraff fwyaf, yn enwedig ar 么l i'r dewin, Gareth Edwards, a'r brenin, Barry John, ddechrau chwarae gyda'i gilydd dros Gymru.
Yr Iaith Gymraeg
Dangosodd cyfrifiad 1961 fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng eto. Dyna sbardunodd Saunders Lewis i draddodi'i ddarlith radio 'Tynged yr Iaith' yn 1962. Ynddi, roedd e'n galw ar y Cymry i ddefnyddio dulliau chwyldro, os oedd angen, i achub yr iaith.
![Proetst arwyddion Cymdeithas yr Iaith](/staticarchive/94aa2161e0b05931762df0e0ef34c9433787aa96.jpg)
Ysbrydolodd hyn nifer o bobl ifanc i ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, i ymgyrchu'n ddi-drais dros Ddeddf Iaith (pasiwyd y Ddeddf Iaith gyntaf yn 1967), a sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg. Buon nhw'n ymgyrchu'n galed am ffurflenni ac arwyddion ffyrdd Cymraeg, a chafodd sawl aelod ei garcharu am dorri'r gyfraith.
Roedd rhai Cymry yn ddig iawn, hefyd, pan gafodd cronfa Tryweryn ei hagor yn 1965, a phan gafodd Charles ei arwisgo yn Dywysog Cymru yn 1969. Yn 1966, cafodd Gwynfor Evans ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru i Senedd San Steffan.
About this page
This is a history page for schools about the Sixties in Wales which saw the decline of heavy industry, the emergence of a Welsh entertainment scene and a tradition of protest among the new generation of politically aware young people. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.
Hanes Cymru
![Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru](/staticarchive/4e1150a1187c830e314ced344f498a0a0ae6de5d.jpg)
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.