gan Catrin Stevens
Oherwydd terfysgoedd yr 1830au a'r 40au cynnar, roedd rhai pobl yn meddwl bod y Cymry yn bobl wyllt ac anystywallt.
Roedd William Williams, AS Coventry, ond o Lanpumsaint yn wreiddiol, yn credu y byddai rhoi addysg i'r Cymry yn eu gwareiddio. Galwodd am sefydlu comisiwn i ymchwilio i addysg yng Nghymru, ac yn arbennig i weld 'pa ddulliau oedd yna i'r gweithiwr cyffredin gaffael gwybodaeth o'r iaith Saesneg'.
Cafodd tri chomisiynydd cydwybodol eu penodi: R.R.W. Lingen, A.C. Symons a H.R. Vaughan Johnson. Saeson a bargyfreithwyr Uchel-eglwysig oedden nhw. Yn eu tro, gofynnon nhw am gymorth clerigwyr eglwys Loegr a m芒n fonedd i gasglu gwybodaeth ar draws Cymru. Ar 么l blwyddyn yn teithio'r wlad, cafodd adroddiad swmpus, mewn tair cyfrol 芒 chloriau glas, eu cyhoeddi.
Cynnwys y llyfrau gleision
Addysg
Cyflawnodd y comisiynwyr eu br卯ff o safbwynt addysgol yn ddigon boddhaol, oherwydd roedd safon addysg yng Nghymru a Lloegr yn y cyfnod hwn yn echrydus o isel. Cymdeithasau crefyddol - y Gymdeithas Genedlaethol a'r Gymdeithas Brydeinig oedd yn cynnal nifer o'r ysgolion hyn, ond c芒i eraill eu rhedeg gan hen wragedd, cyn-filwyr a chymeriadau amheus ac annysgedig.
Tynnodd yr adroddiad sylw at ddiffyg hyfforddiant a gwybodaeth yr 'athrawon' hyn - dim ond 12.5% oedd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant. Roedd dysgu, medden nhw, yn un o'r swyddi isaf ei statws yn y gymdeithas. Roedden nhw'n feirniadol iawn o adeiladu gwael llawer o'r 'ysgolion' ac o'r diffyg adnoddau ynddyn nhw.
Canmolon nhw rai ysgolion er hynny, a chafodd Ysgolion Sul glod am eu bod yn llwyddo i ddysgu gweithwyr cyffredin i ddarllen Cymraeg.
Agweddau eraill
nid yw'r elfen Gymraeg fyth ar frig yr ysgol gymdeithasol ... mae'r iaith yn ei gadw (y Cymro) dan yr hatshys ... Iaith amaethyddiaeth hen ffasiwn a diwinyddiaeth yw hi ... tra bod y byd o'i amgylch i gyd yn Saesneg
Adroddiad addysg 1847
Ond aeth y comisiynwyr ymhell y tu hwnt i'w br卯ff. Gwnaethon nhw sylwadau cas a dilornus ar ffordd y Cymry o fyw - yn arbennig felly'r iaith a'r grefydd anghydffurfiol. Yn 么l y comisiynwyr, roedd y Cymry'n genedl frwnt - meddai'r Parch. J. Pugh: 'Maen nhw'n caniat谩u i foch ddod i mewn (i'w cartrefi) yn aml. ... Mae toiledau yn brin iawn'. Roedden nhw'n honni bod y Cymry yn ddiog, yn anwybodus ac yn anfoesol. Ac ar yr iaith Gymraeg yr oedd y bai pennaf am hynny. Yn 么l Lingen, 'p'run ai yn y wlad neu yn y ffwrneisi, nid yw'r elfen Gymraeg fyth ar frig yr ysgol gymdeithasol ... mae'r iaith yn ei gadw (y Cymro) dan yr hatshys ... Iaith amaethyddiaeth hen ffasiwn a diwinyddiaeth yw hi ... tra bod y byd o'i amgylch i gyd yn Saesneg'.
Roedden nhw'n dadlau, hefyd, fod merched Cymru yn anfoesol gan eu bod yn 'caru ar y gwely'. Ac roedd y capeli anghydffurfiol yn cefnogi'r fath ymddygiad gwarthus, trwy annog pobl ifanc i gerdded adref o'r capel yn hwyr y nos, heb eu goruchwylio.
Yr ymateb i'r adroddiad
Bu'r ymateb yn amrywiol iawn:
Llyncodd llawer o'r Cymry'r cynnwys a theimlo cywilydd eu bod yn Gymry.
- Gwylltiodd llawer o Gymry, yn eu plith Eglwyswyr amlwg, oherwydd cynnwys enllibus yr adroddiad. Brwydrodd rhai yn 么l trwy geisio profi nad oedd y comisiynwyr yn gymwys i'r gwaith - doedden nhw'n gwybod dim am addysg nac am Gymru. Ymhlith y rhain roedd Thomas Phillips, cyn-faer Casnewydd, a ysgrifennodd lyfr i amddiffyn y Cymry, ac Ieuan Fardd a gychwynnodd y cylchgrawn Y Gymraes, i brofi bod merched Cymru yn barchus a phur. Cyfansoddodd R.J.Derfel gerdd am yr adroddiad a'i galw yn 'Brad y Llyfrau Gleision', er cof am yr hen chwedl am Frad y Cyllyll Hirion, pan dwyllodd yr Eingl-Saeson y Cymry cynnar i gael ymsefydlu ar Ynys Prydain.
- Cafodd y Methodistiaid eu cynddeiriogi gan y feirniadaeth ar yr anghydffurfwyr, a dechreuon nhw weithredu yn wleidyddol er mwyn newid y sefyllfa. Rhoddodd hyn hwb i dwf y blaid Ryddfrydol yng Nghymru.
- Ond llyncodd llawer o'r Cymry'r cynnwys a theimlo cywilydd eu bod yn Gymry.
- Ymatebodd y capeli trwy annog eu haelodau i fyw yn barchus a throi'u cefnau ar hen arferion gwerin Cymru.
- Trodd llawer eu cefnau hefyd ar yr iaith Gymraeg a chredu mai'r Saesneg oedd iaith 'dod ymlaen yn y byd' - agwedd sydd ddim wedi diflannu'n llwyr yng Nghymru, hyd yn oed heddiw.
Creodd y Llyfrau Gleision hollt yn seice'r Cymry. Ar y naill law, aeth llawer ohonyn nhw i gredu eu bod yn israddol; ar y llaw arall, cafodd rhai eu hysbrydoli i frwydro yn erbyn y fath feirniadaeth a thros eu hawliau fel Cymry Cymraeg.
About this page
This is a history page for schools about a controversial report on education in Wales in 1847 which came to be known as 'Brad y Llyfrau Gleision' ('The Treachery of the Blue Books'). The report caused a furore because of its attack on the Welsh language and morality. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.