gan Catrin Stevens
Roedd crefydd yn bwysig ym mhob agwedd ar fywydau pobl yr Oes Haearn. Roedd ganddyn nhw tua 400 o dduwiau, gan gynnwys Modron y fam-dduwies, Cernunnos, y duw corniog, ac Epona y gaseg-dduwies. Bydden nhw'n dathlu sawl g诺yl grefyddol, e.e. Calan gaeaf ar 31 Hydref; Imbolc ar 1 Chwefror; Calan Mai ar 1 Mai a g诺yl y cynhaeaf ar 1 Awst.
Y Derwyddon
Y derwyddon oedd yn arwain y defodau crefyddol. Roedden nhw yn garfan bwerus ym mhob llwyth. Roedd yn rhaid iddyn nhw hyfforddi am ugain mlynedd, gan ddysgu popeth ar eu cof. Doedden nhw ddim yn cael ysgrifennu'r wybodaeth i lawr. I'w helpu i gofio bydden nhw'n creu patrymau o dri o bethau - roedd y rhif tri yn sanctaidd iddyn nhw. Roedd y ffurf 'trisgell' yn boblogaidd yng nghelf y cyfnod, ac mae i'w weld ar darian Tal-y-llyn a phlac o Lyn Cerrig Bach.
Caiff y derwyddon eu cysylltu ag aberthu dynion ac 芒 chwlt y pennau. Mae darganfyddiad 'Dyn y Llyn Du', mewn mawnog yn Swydd Gaer, yn cadarnhau hynny. Mae'n ymddangos i'r dyn hwn gael ei grogi, ei drywanu a'i foddi, yn ddefodol. Mae penglogau dynol wedi cael eu darganfod wrth byrth rhai bryngaerau (ond nid yng Nghymru).
Does dim rhyfedd fod y Rhufeiniaid yn ofni p诺er y derwyddon ac wedi mynd ati i ddinistrio'u canolfan sanctaidd ar Ynys M么n yn llwyr, yn OC60-61.
Celf
Roedd llefydd dyfrllyd, fel ffynhonnau neu lynnoedd yn gysegredig i bobl yr Oes Haearn. Bydden nhw'n taflu eu trysorau i'r d诺r - yn rhoddion i'w duwiau. Yn 1911, cafwyd hyd i gelc Llyn Fawr, ger y Rhigos, ym Morgannwg. Ynddo, roedd y gwrthrych cynharaf sydd wedi'i ddarganfod o'r Oes Haearn yng Nghymru. Ar y cleddyf hwn mae celf sy'n perthyn i arddull cyfnod Halstatt o'r wythfed i'r seithfed ganrif CC. Cafodd ei enwi ar 么l pentref Halstatt yn Awstria, lle cafodd gwrthrychau o gyfnod cynnar yr Oes Haearn eu darganfod. Mae'n debygol i'r gwrthrychau gael eu hoffrymu yn Llyn Fawr dros sawl canrif.
Cafwyd hyd i'r ail gelc pwysig yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys M么n, gan weithwyr yn adeiladu maes awyr y Fali, yn 1943. Mae'n dyddio o'r ail ganrif CC i'r ganrif gyntaf OC. Roedd 144 o ddarnau metel o statws uchel yn y celc hwn, yn eu plith cleddyfau, pennau gwaywffyn, darnau o dariannau ac o gerbydau rhyfel, trymped efydd, bariau arian, dau grochan a dwy gadwyn caethweision - y cyfan wedi'u hoffrymu i'r duwiau Celtaidd. Mae nifer o'r gwrthrychau hyn yn arddull celf cyfnod La T猫ne (wedi'i enwi ar 么l safle Oes Haearn ar lan Llyn Neuchatel yn y Swistir). Mae'n amlwg nad sbwriel oedd y darnau hyn, ac mae celciau tebyg o offer milwrol gwerthfawr, wedi'u hoffrymu'n ddefodol, wedi'u darganfod mewn safleoedd gwlyb ar draws Ewrop. Mae ambell wrthrych unigol wedi cael ei ddarganfod hefyd, e.e. pentan gwych o haearn gyr ar si芒p pennau teirw, mewn pwll yng Nghapel Garmon a thancard o bren ywen 芒'r ddolen wedi'i haddurno'n gelfydd yn Nhrawsfynydd.
Mae crefft y gof yn amlwg yn y darnau metel hyn. Mae'n amlwg, hefyd, fod statws y gof yn uchel yn yr Oes Haearn. Yr oedd yn artist yn ogystal ag yn grefftwr. Ar y darnau yn arddull La T猫ne mae patrymau haniaethol chwyrl茂ol a llinellau diddiwedd. Mae anifeiliaid wedi'u darlunio hefyd, weithiau'n naturiolaidd, fel y baedd gwyllt ar yr helmed ym mryngaer Gaer Fawr ger y Trallwng, ac weithiau'n haniaethol.
Gwaddol yr Oes Haearn
- Mae patrymau celf Geltaidd yn dal i ysbrydoli artistiaid heddiw.
- Roedd yr iaith Gelteg yn cael ei siarad ar draws gogledd Ewrop yn ystod y cyfnod hwn. O Gelteg datblygodd Brythoneg, mamiaith Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg; a Goedeleg, mamiaith Gwyddeleg, Gaeleg a Manaweg. Erbyn heddiw'r Gymraeg yw'r fwyaf bywiog ac amlaf ei defnydd o'r ieithoedd Celtaidd hyn. Mae ymdeimlad o berthyn fel Celtiaid yn parhau ymysg y cenhedloedd hyn hyd heddiw.
- Mae hanesion rhai o'r duwiau Celtaidd yn rhan o chwedlau gwych y Mabinogi.
- Ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cafodd cwlt y derwyddon ei atgyfodi gan Iolo Morgannwg, pan greodd Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Er bod pawb, bellach, yn gwybod mai Iolo oedd wedi creu'r derwyddon hyn o'i ddychymyg ei hun, mae urdd derwydd a swydd archdderwydd Gorsedd y Beirdd yn dal yn bwysig yn niwylliant Cymru heddiw.
Mwy
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
About this page
This is a history page for schools about religion and art in Iron Age or Celtic Britain. The druids were the powerful religious leaders of Celtic society and it is thought that the examples of Celtic art found in many sites in Wales were offerings to the gods. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.