Y Rhufeiniaid - tua 43 OC i 410 OC
29 Awst 2008
Dechreuodd concwest y Rhufeiniaid yn 43 OC. Erbyn tua 70 OC yr oedd Prydain i gyd, ag eithrio gogledd yr Alban, o dan eu rheolaeth.
Concrwyd Cymru gan y Rhufeiniaid ac fe ddechreuon nhw godi caerau a threfi hwnt ac yma. Y Rhufeiniaid ddaeth ac ysgrifennu i'r ynysoedd hyn a dechreuodd geiriau o'r Lladin ymddangos yn yr iaith Frythoneg.
Dechreuodd concwest y Rhufeiniaid yn 43 OC. Erbyn tua 70 OC yr oedd Prydain i gyd, ac eithrio gogledd yr Alban, o dan eu rheolaeth. Brittania oedd enw'r dalaith (yn tarddu fwy na thebyg o air Brythoneg tebyg i Prydain), a rhannwyd y wlad yn nifer o is-deyrnasoedd a wnaed yn rhan o'r Ymherodraeth Rufeinig drwy goncwest neu gytundeb. Lladin oedd yr iaith swyddogol a'r Frythoneg oedd iaith bywyd bob dydd.
Y Rhufeiniaid ddaeth ag ysgrifennu i Brydain, gan wneud trosglwyddo ffeithiau ac atgofion yn haws. Yn wir, fe wnaeth cofnodi digwyddiadau yn bosibl dyna pam mae haneswyr yn cyfeirio at y cyfnod cyn Rhufain fel cynhanes.
Cyn dod yn rhan o'r Ymerodraeth nid oedd y Brythoniaid yn cadw cofnodion ysgrifenedig. Yn hytrach roeddent yn dibynnu ar draddodiad llafar, a oedd yn nwylo'r offeiriaid proffesiynol, sef y derwyddon. Mae'n bosib mai barddoniaeth oedd dull y dynion yma o drosglwyddo gwybodaeth o un genhedlaeth i'r llall. Yn 么l haneswyr yr hen fyd Groegaidd a Rhufeinig, yr oedd y derwyddon yn medru cofio talpau enfawr o wybodaeth.
Fe deimlwyd presenoldeb y Rhufeiniaid ym mhob rhan o'r dalaith newydd. Codwyd caerau, trefi ac amffitheatrau, a ddenodd y brodorion Prydeinig ymhen fawr dro.
Mae'r geiriau Lladin a ddaeth yn rhan o eirfa'r Brythoniaid i'w gweld hyd heddiw. Roedd llawer o'r geiriau benthyg yn cyfeirio at yr hyn ddaeth gyda'r goncwest, megis pont' (o'r Lladin pons'), bresych (brassica), eglwys' (ecclesia').
Nid ar chwarae bach y llwyddodd y Rhufeiniaid i oresgyn y llwythau brodorol, yn enwedig y Silwriaid yn y de ddwyrain. Ar 么l 70 OC fe lwyddwyd i'w tawelu, ac ar 么l codi caer yng Nghaerllion (Isca Silurum) i gadw'r heddwch, fe adeiladwyd tref lle mae Caerwent heddiw i'r Rhufeiniaid, Venta Silurum, sef Tref y Silwriaid. Gan fod 'v' yn Lladin yn cael ei ynganu 'w', cadwyd Rhufain yn fyw yn y cof pan ddaeth Venta, wedi dyddiau'r Rhufeiniaid, yn Gwent.
Erbyn hynny roedd yr hen Frythoniaid yn wynebu bygythiadau newydd o dri chyfeiriad gwahanol. Byddai'r Barbariaid yn gadael eu h么l ar ieithoedd yr ynysoedd hyn. Byddai un o'r llwythau hyn yn gyfrifol am iaith a fyddai ymhen canrifoedd i ddod yn cael ei siarad ar draws y byd.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.