Hanes Dyffryn Ogwen
topDewch ar daith hanesyddol lawr i chwareli a thros fynyddoedd Dyffryn Ogwen gyda Derfel Roberts, a chanfod pam mai Llais Ogwan yw enw papur bro y cylch.
Saif y dyffryn godidog hwn oddeutu pum milltir i'r de-ddwyrain o ddinas Bangor ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.
'Prifddinas' y dyffryn yw treflan Bethesda sy'n gorwedd dan gysgod Y Fronllwyd ar un llaw a'r Elan a Charneddau Llywelyn a Dafydd ar y llaw arall.
Yn llifo trwy'r Dyffryn mae afonydd Caseg a Ffrydlas sy'n ymuno ag afon Ogwen ym Methesda cyn llifo i'r m么r yn Aberogwen ger Bangor.
Chwarel
Prif ddiwydiant yr ardal ers cenedlaethau yw'r chwarel lechi - Chwarel Lechi'r Penrhyn - Chwarel Cae Braich y Cafn i roi iddi ei phriod enw. Ac er bod y diwylliant hwnnw wedi crebachu'n enbyd ers pedwardegau'r ganrif ddiwethaf, mae'n dal i gyflogi oddeutu 250 o ddynion yma yn Nyffryn Ogwen o hyd.
Y chwarel hon sydd wedi ffurfio cymeriad yr ardal a'i phobl. Mae yna berthynas gymhleth o falchder ac o gasineb wedi datblygu at y chwarel dros y blynyddoedd. Ar un llaw, balchder yn y gw欧r a gynhyrchwyd gan y diwylliant - dynion celyd, gwydn, di-ildio mewn ymrafael a dynion a roddai bwys ar werthoedd megis diwylliant cerddorol a llenyddol, addysg a chrefydd. Ond ar y llaw arall, casineb at y caledi, yr aberth a'r afiechyd oedd ynghlwm 芒 chynhyrchu'r llechfaen.
Effeithiodd Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, 1900-03, yn ddwfn ar hanes y dyffryn ac ar feddylfryd ei phobl. Yn ystod y streic honno y daeth y termau 'bradwyr' a 'phunt y gynffon' i'r amlwg yng nghyd-destun diwylliant. Dyma un o fannau cychwyn undebaeth lafur ac yn y flwyddyn 2001 daeth undebwyr mwyaf amlwg gwledydd Prydain ynghyd i gapel Jerusalem, Bethesda i gofio arwriaeth y tadau arloesol hynny ac i godi cofeb i'r rhai a wrthwynebodd haerllugrwydd yr Arglwydd Penrhyn a'i debyg yn ystod y Cload Allan neu'r Lock-out. Mae chwerwder y cyfnod hwnnw wedi parhau ymhlith rhai teuluoedd yn Nyffryn Ogwen hyd heddiw.
Mae digon o dystiolaeth ar gael yn llenyddiaeth a cherddoriaeth ein gwlad yng ngwaith R. Williams Parry, T. Rowland Hughes, W. J. Gruffydd a Charadog Prichard, i enwi dim ond rhai, i brofi pa mor ddwfn y treiglodd dylanwad y chwarel i mewn i isymwybod y genedl Gymreig. Ni ellir gorbwysleisio mai diwylliant Cymraeg ei iaith oedd y diwylliant hwnnw.
Wrth edrych yn 么l ar rai o enwogion y dyffryn fe welir bod sawl un a ddylanwadodd ar l锚n a diwylliant Cymru wedi bod 芒 chysylltiad agos 芒 Dyffryn Ogwen.
Dyna J.O. Williams a Jennie Thomas - awduron Llyfr Mawr y Plant; J.T Job, emynydd a bardd, Ifor Bowen Griffith, darlledwr ac addysgwr; J.J. Williams, cyfansoddwr Cerddi Huw Puw ymhlith pethau eraill. Ernest Roberts, hanesydd lleol ac ysgrifennydd llys yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd.
Syr Idris Foster, yr ysgolhaig Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen; Caradog Pritchard, awdur Un Nos Ola' Leuad a enwyd eisoes ac R Williams Parry, Bardd yr Haf a fu'n byw yma ac a gladdwyd ym mynwent Coetmor. Yma y bu Ioan Bowen Rees, arbenigwr ar lywodraeth leol ac awdur llyfrau Cymraeg ar fynydda'n byw ac yn Nyffryn Ogwen y treuliodd Dafydd Orwig, cynghorydd y Sir, addysgwr a golygydd Yr Atlas Cymraeg, ran helaethaf ei oes.
Un o Sling ger Tregarth yw'r actor a'r diddanwr enwog John Ogwen, ac o'r dyffryn, yn y pumdegau, y daeth Hogia Llandygai, gr诺p a barhaodd i ddiddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru tan y nawdegau.
Yn y fro hon hefyd y mae gwreiddiau gr诺p enwog yr wythdegau, Maffia Mr Huws, y gr诺p Celt, John Doyle a fu'n rhan o'r ddeuawd poblogaidd Iwcs a Doyle heb anghofio Gruff Rhys, un o aelodau'r Super Furry Animals, hefyd.
Rhoes pwys ar eisteddfod a chyfarfodydd llenyddol a mawr fyddai'r cystadlu ar y pynciau pan gynhelid yr eisteddfod flynyddol yn y chwarel. Codwyd nifer o gapeli ymneilltuol yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond ysywaeth caewyd y mwyafrif ohonynt erbyn hyn, gan ddymchwel rhai a throi eraill yn fflatiau i gartrefu teuluoedd newydd.
Pam Ogwan nid Ogwen?
Wrth edrych o gwmpas y fro mae'r mynyddoedd yn gymaint rhan o'n bywydau fel mai prin sylwi arnynt wnaiff y trigolion. Nid yw'r Carneddau a Thryfan a'r ddwy Glyder a Chwm Idwal mor enwog 芒'r Wyddfa a'i chriw efallai, ond mae heddwch a harddwch y mynydd-diroedd hyn yn denu miloedd o gerddwyr, dringwyr a gwyddonwyr bob blwyddyn.
Daw llawer yma i astudio effeithiau rhewlif ar y tirwedd ac mae nifer o blanhigion Alpaidd prin i'w canfod ar y llethrau yn 么l y rhai sy'n ymddiddori mewn pethau o'r fath.
"Pam galw'r papur bro yn Llais Ogwan?," meddech chi. Nid oherwydd tuedd pobl y rhan hon o Wynedd i droi'r 'e' yn 'a' fel bod 'ie' yn mynd yn 'ia' ac 'adre' yn 'adra', fel y tybia rhai pobl, ond oherwydd bod Syr Ifor Williams, yr ysgolhaig mawr a'r awdurdod ar enwau lleoedd o Dregarth yn y dyffryn hwn, wedi egluro mai 'Ogfanw' oedd y ffurf wreiddiol ar yr enw a bod hwnnw wedi newid yn nhreigl y blynyddoedd i Ogwan, ac yna'n Ogwen, dan ddylanwad y gred gyfeiliornus mai camddweud yr enw oedd pobl yr ardal. Felly, Dyffryn Ogwan sy'n fanwl gywir er bod yr enw Ogwen wedi hen gadeirio yn yr iaith erbyn hyn.
Mwy
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.