Hanes Bangor a'r Felinheli
topMae tarddiad dinas Bangor yn mynd yn 么l i'r chweched ganrif, pan sefydlwyd mynachlog yno. Dyma olrhain hanes twf y ddinas a dalgylch papur bro y Goriad.
Mae dechreuad dinas Bangor yn mynd yn 么l i'r chweched ganrif. Yn y ganrif honno sefydlodd Deiniol, un o'r seintiau Celtaidd, fynachlog ar godiad tir isel uwchlaw llawr dyffryn cul afon Adda, a lifai i'r m么r ym mhen dwyreiniol Culfor Menai.
'Bangor' oedd yr enw ar y gwrych plethedig o wiail a amgylchynai'r fynachlog, a magodd y gair ail ystyr o'r tir cysegredig y tu mewn i'r gwrych. Daeth eglwys Deiniol yn Gadeirlan ac o'i hamgylch gyda threigl y blynyddoedd y datblygodd dinas Bangor.
Araf iawn oedd y twf am ganrifoedd, ac yn 1610, yn 么l map John Speed, oddeutu naw deg o dai yn unig oedd yn y dref, a'r rheiny'n un stryd gyda godre'r mynydd i'r de o ddyffryn Adda, gydag estyniad bychan yn arwain o'r groes o flaen y Gadeirlan i lawr at yr afon.
Daeth dechrau cyfnod o fywyd newydd yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd porthladd wrth geg afon Cegin i allforio llechi o chwarel y Penrhyn, ac yn sg卯l darparu gwell cyfleusterau teithio llwyddodd Bangor i fanteisio'n llawnach ar ei lleoliad ar arfordir gogledd orllewin Cymru ger man croesi Culfor Menai.
Cwblhawyd y ffordd fawr o Borthaethwy i Gaergybi yn 1823 ac wedi codi pont grog Telford, ychydig yn ddiweddarach, sicrhawyd llwybr uniongyrchol i gerbydau o Lundain trwy Fangor i Gaergybi, y man hwylio i Iwerddon.
A phan agorwyd y rheilffordd o Gaer i Gaergybi yn 1849 ychwanegwyd at bwysigrwydd Bangor fel canolfan cyfathrebu. Daeth y newidiadau hyn 芒 ffyniant, a hwb sylweddol pellach oedd sefydlu Coleg y Brifysgol, yn enwedig wedi iddo symud yn 1911 i adeiladau newydd ar y bryn ym Mangor Uchaf.
Cynyddodd y boblogaeth o 1770 ym 1801 i 9564 ym 1851, ac yna i 11236 yn 1911; ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif roedd y ddinas yn ymestyn o'r hen gnewyllyn o amgylch y Gadeirlan i'r ddau gyfeiriad ar hyd dyffryn Adda ac i'r llechweddau o boptu.
Mae Bangor heddiw yn ganolfan o bwys yng ngogledd orllewin Cymru, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau masnachol, gweinyddol a chymdeithasol i'w thrigolion ac i'r wlad o'i chwmpas. Mae'n denu pobl o gylch eang yng Ngwynedd a M么n i siopa, ac fel mewn sawl tref arall mae'r rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd a'r siopau mawr eraill yn awr ar y cyrion.
Ar y cyrion hefyd i'r dwyrain mae ystad ddiwydiannol, gydag un o'i hunedau yn cynhyrchu rhannau i felinau gwynt ac i'r gorllewin ar dir hen ystad y Faenol mae parc busnes yn cynnwys Canolfan Llyfrau o gryn faint. Lleolir ffatri fwyaf y ddinas, yn cynhyrchu offer telegyfathrebu, ar y llaw arall ynghanol ardal breswyl.
Ond y ddau gyflogwr pwysicaf yw'r Brifysgol ac Ysbyty Gwynedd. Saif y Gadeirlan fel erioed ynghanol y ddinas. Cafodd hanes helbulus, ei difrodi a'i hanrheithio droeon. Rhwng 1868 a 1880 ail-gynlluniwyd y c么r, y gangell, y pen dwyreiniol a'r breichiau gan Syr Gilbert Scott a'i fab gan anelu eu hail-greu fel yr oeddynt yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn 1965, yn ogystal 芒 gwaith adnewyddu oddi mewn i'r adeilad ychwanegwyd at uchder y t诺r, ac yn ddiweddarach dechreuwyd atgyweirio y muriau allanol. Yma y claddwyd y tywysog Owain Gwynedd (1100-1170 ) ac yn 么l un cofnod, ei dad hefyd, Gruffydd ap Cynan; mae carreg goffa i'r ddau yma.
Ar furiau Capel Mair mae cofebau i Edmwnd Prys (1544-1623) a Goronwy Owen (1723-69) a fynychai'r Foreol Weddi pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Friars ym Mangor. Mae pulpud marmor yn coffau Morris Williams neu Nicander (1809-74) - clerigwr ac un o arloeswyr Mudiad Rhydychen yn yr Esgobaeth. Pethau eraill o ddiddordeb yng nghorff yr eglwys yw cerflun mewn derw o Grist (Crist Mostyn) sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, y groes o wydr lliw ar y mur ger y pulpud a roddwyd yn anrheg gan Almaenwr a fu'n garcharor rhyfel yn yr ardal, y darlun Plentyn Belize- Aberfan, brodwaith sy'n cyfeirio at alwedigaethau trigolion yr Esgobaeth a murlun yn portreadu Crist yn Emaus gyda'r ddau ddisgybl a'r rheiny mewn gwisg fodern.
Gerllaw'r Gadeirlan mae'r hen Ganondy, yn awr cartref Oriel ac Amgueddfa Hynafiaethau Cymreig, a Neuadd y Dref, a godwyd yn nyddiau cynnar y Tuduriaid yn nh欧'r Esgob; fe'i prynwyd gan Gorfforaeth Bangor yn 1903. Wrth grwydro trwy'r ddinas ni ellir llai na sylwi cymaint o gapeli a gafodd ddefnydd newydd - ond bu digwyddiad go anghyffredin - adeiladwyd capel newydd sbon, Berea Newydd.
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.