Dewch am dro i weld golygfeydd braf heibio'r trwyn a draw am Ynys Seiriol, yn ogystal ag olion hynafol a hen adeiladau difyr. O'r hen fynachlog a'r eglwys, i'r ffynnon sanctaidd, o bosib nodwedd hyna'r safle, a'r colomendy, mae'n un o safleoedd hanesyddol pwysica'r ynys.