Hanes Pwllheli
topMae cysylltiad Pwllheli a'r m么r yn ymestyn yn 么l ganrifoedd fel ein hatgoffwyd gan yr hanesydd lleol, Ioan Mai Evans o Lithfaen.
Mae i'r dref gefndir hanesyddol unigryw o ddyddiau hen dywysogion Cymru. Nid yn unig am ei helfeydd o bysgod ond fel tref farchnad y canodd Morus Dwyfach un o gynfeirdd Llyn iddi bron i bum can mlynedd yn 么l.
Hardd d'ogylch hyrddiad eyrddiad eigiawn
hafnau lle daw llongau'n llawn,
a dwyn gwin da iawn ei gael
i'th drefi perffaith drafael
per gordio per gywirdeb
Pwllheli marsiandi Sieb.
(Sieb yn cyfeirio at Cheapside yn Llundain.)
Rhaid bod y dref yn gyrchfan go arbennig o feddwl fod bardd o fri fel Ieuan Tew o Gydweli wedi ymsefydlu yno a chanu Cywydd Moliant sydd yn dangos sut le oedd yno bum can mlynedd yn 么l.
Cwmpas tref ail i nefoedd
cymorth am ymborth im oedd,
lle y ednir oll y dynion,
o bob man heidian i hon,
lle mae cyfedd bonheddig'
lle da, nid oes llid na dig,
lle rhad gwin, lle rhoed y ged,
lle nefol llawen yfed.
Yn rhan o'r hanes hefyd y mae allforio cynnyrch ffermydd a mewnforio coedydd o bellafoedd byd a ddefnyddiwyd i adeiladu llongau yn y dref ei hun - bron i 450 o longau mewn 120 o flynyddoedd o tua 1759.
Llongau
Dros ddau gan mlynedd yn 么l, tair o longau a adeiladwyd yno, y Draper a ddaliwyd gan y Ffrancwyr, y Dove a werthwyd i Wicklow, a'r Expedition a ddrylliwyd wedi deng mlynedd ar hugain o forio.
Ynglyn 芒'r gwaith o adeiladu llongau ceir llawer o s么n am iard goed William Jones, Pwllheli, gan mai yno yr adeiladwyd y llongau mwyaf fel y William Carey (659 tunnell) a William Pugh (593 tunnell).
Mae un o dafarnau'r dref, Penlan, yn dyddio'n 么l i ddyddiau prysur yr adeiladu llongau a miri smyglo'r brandi a'r gwinoedd a'r halen.
A hen bennill a adroddem ni pan yn blant oedd:
Pwllheli, pwllhalen, pwll nesa'i bwll uffern,
a'r pwll hwnnw oedd Porth Neigwl, a nodwyd ar sawl map fel Hell's Mouth. Sawl cyfrol sydd yng nghadw o fewn muriau Penlan - enw sy'n awgrymu mai at y fan yma yng nghanol y dref y bu'r m么r ar un amser.
Flynyddoedd yn 么l a minnau yn gorfod lojio yn nhref Pwllheli er mwyn mynychu'r Ysgol Sir, cyn dyddiau'r bysiau - cof da am y llongau sgota yn dod i'r harbwr fel armada, a ninnau'n cario bocsus yn llawn o bysgod i siop Miss Clark, a chael sgodyn i swper.
Ioan Mai Evans
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.