Cloddio am enwau
topO Garreg y Dyn Drwg i Rhiw Hwb y Wrach, mae yna hanes cyfoethog i enwau llefydd yn Nolgellau. Dyma Rhys Gwynn, warden ym Mharc Cenedlaethol Eryri, i ddatgelu mwy o gyfrinachau enwau'r fro.
Mae wardeniaid y Parc, y Cyngor Cefn Gwlad ac eraill wedi bod yn tr茂o diogelu enwau llefydd yma ar y Gader. Maen nhw'n colli cael eu defnyddio weithiau, yn enwedig gan y cenedlaethau i ddod, ac felly rydym yn bwrw ymlaen i gofnodi cymaint o enwau 芒 phosib, a chreu map cynhwysfawr o'r ardal.
Mae yna 'bach o bopeth - enwau'r creigiau, y ffriddoedd, y caeau, y ffermydd a hyd yn oed y daearau llwynogod. Mae gan bopeth enw!
Ddaru ni ddarganfod un enw diddorol ar dir teulu Coed Croes - Ffridd Eurych, sef yr hen air Gymraeg am of aur. Mae'r ffridd reit uchel i fyny ger Tir Stent, hen dir comin, mewn ardal lle nad oedd yna gloddio am aur. Felly pam y gair eurych?
Mae yna hefyd Rhiw Hwb y Wrach a hefyd Llwybr Pilyn Pwn, sef y gwir enw am Lwybr Tu Nant ar ochr y Gader. Ystyr pilyn yw 'pilion'; y sachau oedd yn mynd dros gefnau'r ceffylau i gario pwysau. Y pwn yw'r pwysau yn y sachau. Hwnnw oedd yr hen lwybr i gario pethau i'w werthu o Lanfihangel-y-pennant a Chastell y Bere, dros y Gader i Ddolgellau. Mae gan yr enw felly ddarn pwysig o hanes ynghlwm wrtho.
Mae yna hefyd Garreg yr Enwau, neu Garreg y G诺r Drwg (uchod). Mae yna stori yr arferai pobl ifanc yr ardal hel wrth y garreg ar ddydd Sul i ganu a dawnsio, cyn cyfnod y diwygiad wrth gwrs. Ond un Sul y Pasg, daeth y diafol i lawr ar gefn asyn, ac mae 么l ei garn i'w weld hyd heddiw ar y graig. Felly sgrialodd pawb ac ni ddaeth neb yn 么l tan i'r bugeiliaid dod draw i naddu eu henwau ar y garreg; arferiad sy'n mynd yn 么l i'r 17eg ganrif.
'Da ni hefyd yn hel enwau daearau llwynogod. Mae'n hen arferiad i enwi'r daearau wrth hela llwynogod ar y Gader gan fod y llwynogod wedi byw ynddynt ers canrifoedd. Fel arfer, caiff y daearau eu henwi ar 么l eu lleoliad, fel y Ddaear Fawr, Daear Fflat a sawl un arall.
A beth am y Gader ei hun? Mae yna sawl peth yn gysylltiedig ag Idris, fel Llyn y Tri Graienyn. Wrth yrru yn 么l i Ddolgellau o Fachynlleth, ar ben y bwlch lle mae'r maes parcio nawr, mi roedd yna lyn. Mae ei 么l i'w weld o hyd yn y tir cors yno. Y tri graienyn oedd y dair carreg ddaru Idris eu tynnu allan o'i esgid a'u lluchio dros yr ardal. Mae un yn dalp anferth o graig ar ben y bwlch, un yn Rhydymain a'r llall yn Nhrawsfynydd. Mae yna garreg fach wrth ochr yr un mawr, ac mae'n debyg mai gwraig Idris dynnodd hwnna allan o'i hesgid hi!
Mae yna hefyd Fwrdd Idris, sef talp o graig ar y Cyfrwy, sy'n ddringfa boblogaidd heddiw. Felly mae ganddo'i fwrdd a'i gadair, a dw'n i'm beth arall!
Rhys Gwynn
Mwy
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.