Hanes Dyffryn Aled
topMae Jane ac Elwyn Williams wedi etifeddu dogfen hanesyddol sy'n gysylltiedig 芒 phlasty oedd yn rhan annatod o fywyd Bryn Rhyd yr Arian ger Llansannan am ganrif a mwy - st芒d Dyffryn Aled, lleoliad ymgais dau garcharor rhyfel Almaenig i ddianc yn 1915.
Adeiladwyd y plasty yn 1797 gan Diana Wynne-Yorke a bu'r teulu Wynne-York yn byw yno hyd at ddechrau'r 20fed ganrif.
"Mae na hanes diddorol iawn i Ddyffryn Aled," meddai Jane Williams. "Roedd yn lle i ddal carcharorion rhyfel, ac mi ddaru rhai ohonyn nhw ddenig. Mi ddaru nhw durio eu ffordd allan. Mae'n rhyfeddol fel roedden nhw wedi trefnu'r peth. Roedd na submarine yn aros amdanyn nhw yn Llandudno.
"Wedi cyrraedd Llandudno roedden nhw i fod i gael eu pigo i fyny wrth y Gogarth ond mi aethon nhw i'r lle anghywir ac aros yn y bae anghywir wrth y Gogarth Fach. Ac felly y caethon nhw eu dal."
Mae Elwyn Williams yn cofio ei rieni yn s么n am y carcharorion ac yn cofio chwarae yn y plas pan oedd yn blentyn.
"Roedden nhw'n cario'r carcharorion o Fae Cinmel i Ddyffryn Aled. Glywais fy nhad yn deud ei fod yn eu gweld nhw yn cael eu cario allan yno ar gefn lori fach.
"Dwi'n ei gofio fo i fyny pan oedden ni'n blant yn mynd i'r ysgol. Roedd o'n wag, ond fydden ni'n chware lot yno o'i gwmpas a dwi'n cofio gweld yr hen dynel o dan y ffens. Mae'n debyg bod un o'r carcharorion wedi cael ei ddal - roedd o'n chap mawr - ac mi aeth yn sownd yn y tynel. Dau ohonyn nhw ddaeth allan. Mi ddaethon nhw allan yn y coed, lle roeddwn i'n arfer chwarae pan o'n i'n blentyn.
"Mi roedd o'n lle smart. Mae'n bechod ei fod wedi cael ei dynnu i lawr," meddai.
Does dim o 么l yr hen blasty i'w weld erbyn hyn, dim ond y byngalo gafodd ei godi ar yr hen safle, ond mae'r hen gatalog o werthiant y st芒d sydd gan Mr a Mrs William yn rhestru'r tiroedd, adeiladau a'r ffermydd oedd yn ei meddiant.
Yn 么l y catalog, roedd y t欧 yn 'substantially built with three thicknesses of walls, the outside being faced of Bath stone and built in 1797 by Diana Wynne-York. "Mae rhywfaint o gerrig Bath stone Dyffryn Aled wedi mynd wedyn i adeiladu rhywfaint ar yr Eglwys Gadeiriol yn Llanelwy," meddai Mrs Williams.
Mae teulu Elwyn Williams wedi ffermio Pandy ym Mryn Rhyd yr Arian ers y 1850au fel tenantiaid i'r st芒d i ddechrau: "Edward Williams [tenant y Pandy yn y catalog] oedd fy nhaid. Roedd fy nain, ei wraig, wedi cael ei geni yn Pandy. Ddaru nhw brynu'r fferm gan y stad. 拢600 dalon nhw - dydi hi ddim yn fferm fawr, 34 acer oedd hi adeg hynny."
Rhoddodd dyfodiad y carcharorion hwb i economi'r pentref meddai Mr Williams: "Roedd brawd fy nain yn cadw'r siop ac roeddwn nhw'n pobi yn y siop. Glywais i mam yn deud y bydden nhw'n danfon y bara i Dyffryn ar gefn y ferlen adeg oedd y soldiwrs yno. A'r adeg hynny y cododd fy yncl ar ei draed yn y siop meddai mam - drwy gael 'chydig o fusnes yn sypleio bara i Dyffryn. Roedden nhw reit dlawd, am wn i, cynt, ond mi gododd ar ei draed adeg hynny."
Roedd efail, siop a melin ym Mryn Rhyd yr Arian ers talwm meddai Mr Williams: "Roedd o'n lle prysur yn y 1930au. Roedd ne lot yn cael eu cyflogi ar y ffarm yr adeg hynny ond roedd ne lot yn gweithio yn y Dyffryn bryd hynny hefyd, lot o Llan yn enwedig [Llansannan]."
Cyn gweithredu fel canolfan i garcharorion rhyfel, roedd Dyffryn Aled yn ysbyty seicatryddol ond, meddai Mr Williams, fe symudwyd yr ysbyty i Cheadle ger Stockport yn swydd Stafford, gan fynd ag amryw o'r staff o Lansannan efo nhw.
Mae llun o'r ddau garcharor ar .
Mwy
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.