Rhosllanerchrugog
topMae llinell olaf englyn Eilir Aled - "Beibl a rhaw i bobl y Rhos" yn cyfleu i'r dim y cyfuniad o grefydd, diwylliant a diwydiant sy'n wythiennau mor hanfodol yn hanes Rhosllanerchrugog. Disgrifwyd Rhos fel "pentref mwyaf Cymru",(gydag enw mawr yn ogystal!).
Ffwrnais Diwylliant a Diwydiant
Enwog le mae'r awen glos - a chrefydd uwch rhyfyg yn aros. Hedd engyl yn ymddangos, Beibl a rhaw i bobl y Rhos.
Elir Aled
Mwyaf nid yn unig o ran ei faint daearyddol ond o ran ei ddoniau a'i gyfraniad hefyd. Nid yw'n gyfrinach fod peth cenfigen cyfeillgar ymhlith trigolion pentrefi eraill yr ardal tuag at Y Rhos...
Ac yn y gorffennol - a dydi o wiw dim ond sisial hyn - bu trigolion y Rhos yn ymylu ar fod yn euog o edrych gyda rhywfaint o ddirmyg ar drigolion pentrefi cyfagos fel y Cefn, Coedpoeth a Phonciau!
Beth bynnag am hynny, y mae gan Y Rhos yr enw ledled Cymru am fod yn ffwrnais diwylliant a diwydiant gyda'i draddodiad glofaol ar y naill law a'i bwyslais ar addysg a chrefydd a chanu cynulleidfaol a chorawl ar y llaw arall gyda Ch么r y Rhos yn un o rai enwocaf Cymru.
Glo yn y gwaed
Er mai ar gefn y chwyldro diwydiannol y tyfodd y Rhos darganfuwyd glo yn yr ardal mor gynnar 芒 dechrau'r ddeunawfed ganrif ac yr oedd pyllau ar waith yn negawd cyntaf y 1700au.
Wrth i'r chwyldro diwydiannol afael, fodd bynnag, symudodd pobl i'r ardal wrth eu miloedd o wahanol rannau o Gymru a Lloegr gyda charfan gref o Swydd Gaerhirfryn.
Esgorodd y gymysgedd o gefndiroedd a thraddodiadau ar gymdeithas arbennig iawn fel ag yng nghymoedd glofaol y de.
Mae'r Rhos yn le sydd wedi newid yn arw erbyn hyn gyda'r glo, y tramffyrdd, y rheilffordd a'r gweithfeydd a oedd yn gymaint rhan o'i fwrlwm cynt wedi diflannu.
Tebyg mai'r arwydd gweladwy amlycaf, yn awr, o'r gogoniant a fu yw hen adeilad mawreddog Sefydliad y Mwynwyr - Y Stiwt , (o'r gair 'Institute') ar dafod leferydd yn lleol.
Adnewyddwyd yr adeilad drwyddo draw a hynny yn arwydd fod y dycnwch a'r dyfalbarhad a berthynai i'r hen Rosllanerchrugog yn parhau ymhlith y trigolion heddiw.
Tafodiaith unigryw
Nid yn unig y mae i'r Rhos ei gymeriad ei hun ond y mae iddo ei Gymraeg ei hun hefyd a hynny wedi ei adlewyrchu yn enw papur bro yr ardal, Nene - y gair lleol am "y peth yna" neu hwnna.
Ymhlith siaradwyr Cymraeg yr ardal mae "ene" a "dene" hefyd yn eiriau cyffredin.
Heb amheuaeth y mae dylanwad tafodieithoedd yr holl gymysgedd o bobl a symudodd i'r ardal yn drwm ar Gymraeg y Rhos ac yn enghraifft wiw o allu'r Gymraeg yng nghyfnod y mewnlifiad hwnnw i ymaddasu a chofleidio geirfa estron i'w dibenion ei hun.
Weithiau mae'r tarddiad yn gwbl amlwg fel yn achos defnyddio'r gair 'shifftio' am symud, 'sbarins' am weddillion, 'meindio' am wylio, 'grinio' am wenu a 'biwshio' (o abuse) am roi cweir i rywun.
Dro arall dydi'r tarddiad ddim mor amlwg ac nid pawb a fyddai'n sylweddoli mai estyn cynnig ichi arogli rhywbeth fyddai rhywun wrth ddweud "gwinsia hwn."
Dim bwlragio!
Mae'n amlwg fodd bynnag o lle daeth gair Y Rhos am flodau, rhose, a gellir olrhain tarddiad swinjo am llosgi i'r gair Saesneg singe a hyd yn oed pegis am ddannedd.
Nid mor hawdd canfod sut mae lode yn golygu coesau (aelodau, mae'n debyg) ac y mae mlenio am golli tymer yn gywasgiad gwych o "fileinio" fel ag yw 'nafyd' am anafu neu frifo rhywun.
Mae yna duedd o roi 'h' o flaen rhai geiriau gan roi ffurfiau fel hamdwyo, hedins (adenydd) a henw.
Mae rhai geiriau yn onomatopeaidd iawn fel 'bwlragio' am weiddi'n flin a bleiddio a recsho am weiddi a chodi helynt.
Ond un peth sy'n gwbl sicr ym meddyliau pobl y Rhos yw fod pentref mwyaf Cymru yn lle gwirioneddol gwerth weil!