91热爆

Dyffryn Clwyd

top
Eglwys San Pedr, Rhuthun

Ardal a gysylltir ag Owain Glynd诺r ac 芒 llawer o ddigwyddiadau hanesyddol yw Dyffryn Clwyd. Dyma gyfle i ddod i adnabod peth o hanes y fro.

Y Gaer Goch

Sgw芒r y Dref c.1900 (Llun:Roger Edwards)
Sgw芒r y Dref c.1900 (Llun:Roger Edwards)

Saif Rhuthun yng nghesail bryniau Dyffryn Clwyd. Tref wedi ei hadeiladu ar fryn ydyw, fel Dinbych. Amddiffynfeydd oedd y ddwy dref yn wreiddiol a adeiladwyd i warchod Dyffryn Clwyd. Mae'r enw 'Rhuthun' wedi datblygu o'r ddau air 'rhudd' a 'din' ac felly'n golygu Caer Goch.

Credir fod y cyfeiriad at liw coch wedi dod o liw'r tywodfaen sydd yn y ddaear. Mae hwn i'w weld yn lliw'r adeiladau hefyd.

Mae'r elfen 'rhudd' i'w weld yn yr enw 'Llanrhudd' yn ogystal, sef yr eglwys goch. Mae'r eglwys hon i'w gweld ar gyrion tref Rhuthun a hi oedd eglwys gyntaf y dref honno.

Castell Rhuthun

Castell Rhuthun (llun:Roger Edwards)
Castell Rhuthun (llun:Roger Edwards)

Un o brif nodweddion Rhuthun wrth gwrs yw'r castell. Mae adfeilion y castell ymhlith yr hynaf yng Nghymru. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1277 ar orchymyn Edward I pan roddodd gantref Dyffryn Clwyd i Ddafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn.

Ond yn 1282 dechreuodd Dafydd wrthryfel yn erbyn Edward. Canlyniad hyn oedd i Ddafydd orfod trosglwyddo'r cantref a'r castell i Reginald de Grey, Ustus Caer. Bu de Grey a'i deulu mewn grym am dros ddau gan mlynedd a throdd Dyffryn Clwyd yn gantref Seisnig yn y cyfnod hwn.

Ar Fedi 18fed 1400 ymosododd Owain Glynd诺r ar dref a chastell Rhuthun. Dewisodd ymosod ar Ruthun oherwydd ei phwysigrwydd fel canolfan gyfreithiol. Wedi hyn dim ond y castell ac ychydig o adeiladau oedd yn dal i sefyll.

Yn 1646 bu gwarchae ar y castell am 11 wythnos a chafodd ei ddymchwel. Yn 1826 daeth y teulu Cornwallis-West i fyw yma a bu'r teulu yn byw yma hyd 1921.Yn ddiweddarach daeth y castell yn ysbyty enwog, ond heddiw gwesty moethus sydd yma.

Barau Haearn

Un o ystafelloedd y carchar
Un o ystafelloedd y carchar

Ond nid y castell yw'r unig nodwedd hynafol yn y dref. Roedd Sgw芒r Sant Pedr yn bwysig yn y Canol Oesoedd. Yma roedd y tafarnau ac yma y c芒i drwgweithredwyr eu dienyddio. Bu'r dienyddiad olaf yn 1679, pan grogwyd offeiriad Pabyddol. Cafodd ei dynnu a'i chwarteru.Gwelir sawl tystiolaeth o bwysigrwydd cyfreithiol Ruthun yn y dref heddiw.

Yn Stryd Clwyd roedd carchar Rhuthun a adeiladwyd yn 1775 i wasanaethu Sir Ddinbych. Yn 1886 adeiladwyd bloc Fictoraidd yng nghefn y carchar wedi ei seilio ar gynllun Pentonville. Bu'r dienyddiad olaf yn 1903 a chaewyd y carchar yn 1916.

Bu Coch Bach y Bala yn y carchar hwn, ond llwyddodd i ddianc. Pan oedd carcharorion wedi llwyddo i ddianc, galwyd bechgyn o Ysgol Rhuthun i'w hymlid.

Yn y dref hefyd gellir gweld yr hen lys barn. Dyma adeilad deniadol a adeiladwyd yn nechrau'r 15fed ganrif. Cynhaliwyd brawdlysoedd yn Rhuthun am flynyddoedd cyn iddynt gael eu disodli gan Lys y Goron, Yr Wyddgrug.

Carreg Brenin Arthur

Hen Wlad fy Nhadau
Hen Wlad fy Nhadau

Nodwedd hynafol arall yw'r garreg 'Maen Huail' y tu allan i Exmewe Hall, lle mae Banc Barclays erbyn hyn. Mae s么n mai ar y garreg hon y dienyddiodd y Brenin Arthur 诺r oedd yn cystadlu ag ef am ferch.

Yn ogystal mae'n rhaid cyfeirio at yr adeilad lle mae Siop Nain heddiw. Mae'n dyddio o'r 15fed ac yma yr argraffwyd Hen Wlad fy Nhadau, yr Anthem Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1860 gan yr argraffydd Isaac Clarke.

Mae'r ardal yn cynnwys nifer o bentrefi Dyffryn Clwyd yn ogystal 芒 threfi Rhuthun a Chorwen.

Mae'n ardal eang ac yn ymestyn o Langwyfan a Llandyrnog yn y gogledd i Gorwen a Cherrigydrudion yn y de.

Dechreuwn yn y gogledd felly ac yn Rhewl, pentref sydd wedi ei leoli ar lannau afon Clywedog, i'r gogledd o Ruthun ar ffordd Dinbych. Yma gellir gweld Tramwyfa'r Foneddiges Bagot sydd i fyny yng Ngheunant Clywedog. Dyma ffordd breifat tirfeddianwyr lleol ac fe 芒i'r goets Edwardaidd ar ei hyd. Erbyn hyn mae'n un o nodweddion hyfrytaf y dyffryn.

O gwmpas yr ardal

Eirth Eryri (llun: Roger Lambert)
Eirth Eryri (llun: Roger Lambert)

Dau adeilad diddorol yn Rhewl yw'r capel a'r dafarn leol. Yn y capel hwn ers talwm gellid clywed pregethau'r enwog Emrys ap Iwan. Roedd y Drovers Arms wedyn yn fan gorffwys i borthmyn a'u hanifeiliaid ar 么l teithiau hir.

I'r gogledd o'r pentref mae Pont Rhyd y Gwaed. Yn 么l chwedl fe lifodd y rhan hon o'r afon yn goch gyda gwaed unwaith pan wrthdrawodd Brenhinwyr a Seneddwyr yn ystod y Rhyfel Cartref.

Ychydig filltiroedd o Rhewl mae pentrefi Llangynhafal a Llandyrnog. Mae Llangynhafal wedi cadw'i gymeriad gwledig. Pentref bychan ydyw gydag eglwys a hen d欧'r ysgol. Yn Llandyrnog ar y llaw arall gellir gweld olion diwydiannol gan fod yma hufenfa ac mae'r adeiladau mawrion i'w gweld o gryn bellter.

I'r dwyrain o Langynhafal mae bryngaerau Moel Arthur a Moel Fenlli ac wrth gwrs Moel Famau. O gopa Moel Famau gellir gweld golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Clwyd yn ogystal ag Eryri, Cader Idris, yr Arenig a'r Berwyn. Mae'r mynydd yn codi 1,864 troedfedd uwchben lefel y m么r.

Y Fuwch Frech

Moel Famau
Moel Famau

Mae Moel Fenlli a Moel Famau'n cyfarfod ym mwlch Pen Barras, roedd hwn yn rhan o'r hen ffordd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug. Ar hyd y ffordd yma roedd y goets fawr a'r Post Brenhinol yn teithio.

Ar gopa'r mynydd mae t诺r a godwyd yn 1810 i ddathlu teyrnasiad Si么r III. Disgynnodd rhan helaeth o'r t诺r mewn storm yn 1896. Rhaid nodi hefyd fod Clawdd Offa yn rhedeg trwy Barc Gwledig Moel Famau.

Yng nghesail y bryniau hyn mae pentrefi Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd a Llanarmon-yn-I芒l. Pentrefi wedi datblygu o amgylch eglwysi unwaith eto. Yn Llanarmon-yn-I芒l mae beddrod Gruffydd ap Llywelyn o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Tua'r de yn agos i'r A5 mae nifer o bentrefi gwledig. Un o'r rhain yw Llanfihangel Glyn Myfyr ger Cerrigydrudion. Mae chwedl ddiddorol yn gysylltiedig 芒'r pentref hwn, ardal y canwr Trebor Edwards a'r diweddar John Edwards, nofelydd a chyfieithydd. Dyma chwedl y fuwch frech oedd yn byw yn fforest Clocaenog gerllaw. Roedd y fuwch yn darparu llefrith i drigolion yr ardal ond fe'i twyllwyd gan wrach, does dim rhyfedd i'r fuwch adael yr ardal a mynd i diroedd eraill.

Wrth deithio tua'r de wedyn mae pentrefi gwledig Llangwm a Betws Gwerful Goch. Mae Llangwm yn enwog am ei haelwyd a sefydlwyd ym mis Ebrill 1941 a sydd wedi bod y cystadlu'n frwd mewn eisteddfodau dros y blynyddoedd. Mae Betws Gwerful Goch wedi ei enwi ar 么l y Dywysoges Gwerfyl o Feirionydd oedd yn byw yn y ddeuddegfed ganrif. Roedd ganddi wallt coch a hi oedd wyres y Brenin Owain Gwynedd.

Corwen ac Owain Glynd诺r

Cofeb i Owain Glynd诺r yng Nghorwen

Yn yr ardal hon hefyd mae tref Corwen ac fel Rhuthun mae iddi ddigon o hanes. Gwelir nifer o adeiladau diddorol ar y sgw芒r sydd wrth gwrs yn fan cyfarfod i drigolion lleol. Ar y sgw芒r mae hen adeilad hardd banc y Nat West, gwesty Owain Glynd诺r a chofgolofn i'r arwr cenedlaethol hwn.

Ceir nifer o bethau yng Nghorwen i goff谩u Owain Glynd诺r. I'r dwyrain o Gorwen saif Tomen Owain Glynd诺r. Mae hwn yn rhan o'r adeilad fu unwaith yn gartref iddo. Yn ogystal gellir gweld olion Sycharth, y llys enwog y canodd Iolo Goch iddo a chartref Owain Glynd诺r ger Llansilin.

Yn ogystal mae cysylltiad pwysig rhwng Owain Glynd诺r ag Eglwys Corwen, a saif y tu 么l i sgw芒r y dref. Uwchben drws gogleddol yr eglwys mae croes ar ffurf cyllell a elwir yn 'Dagr Glynd诺r'. Yn 么l y s么n gwnaethpwyd hwn pan daflodd yr arwr ei arf o Fryn Pen-y-Pigyn y tu 么l i'r eglwys.

Eglwys arall yng Nghorwen yw Eglwys Carrog. Flynyddoedd yn 么l fe'i golchwyd gan lif mawr wedi i afon Dyfrdwy newid ei llwybr. Mae'r eglwys newydd uwchben yr afon sydd erbyn hyn dan reolaeth.

Ni ellir gadael Corwen heb gyfeirio at y pafiliwn enwog lle cynhelir nifer o gyngherddau pwysig. Dyma un o neuaddau mwyaf gogledd Cymru a safle cyntaf Eisteddfod yr Urdd. Bob blwyddyn cynhelir cystadleuaeth cneifio defaid yn y pafiliwn gan ddenu cystadleuwyr byd enwog o leoedd mor bell ag Awstralia a Seland Newydd.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.