Taith Cymreig Mendelssohn
topTeithiodd y cyfansoddwr Mendelssohn yn helaeth drwy ogledd-ddwyrain Cymru, fel mae'r Hanesydd Cerddoriaeth, Dr Rhian Davies, yn egluro.
Blodau Cymru'n ysbrydoli
Ddoe roedd hi'n ddiwrnod braf, hynny yw, dim ond teirgwaith y gwlychais i!
Mendelssohn
Mae'n hysbys iawn mai ymweliad Mendelssohn 芒'r Alban ysbrydolodd yr Hebrides Overture, ond chafodd ymweliad y cyfansoddwr 芒 Chymru rai wythnosau'n ddiweddarach fawr o sylw o gwbl.
Daeth Mendelssohn i Brydain 10 gwaith. Pan oedd yn Llundain, yn ystod ei ymweliad cyntaf ym mis Ebrill 1829, fe'i cyflwynwyd i beiriannydd mwngloddiol o'r enw John Taylor. Ym mis Awst, ar 么l dychwelyd o'r Alban, bwriadai Mendelssohn hwylio i Iwerddon, ond fe'i rhwystrwyd gan dywydd garw. Felly fe deithiodd i gartref Taylor, sef Coed Du Hall yn Rhydymwyn, ger yr Wyddgrug. Yn 么l disgrifiad Mendelssohn safai'r plasty hwn ar lawnt eang lefn wedi'i hamgylchynu 芒 blodau.
Carnasiwn, rhosynnau, a phlanhigyn crwydrol 芒 blodau si芒p trymped oedd yn tyfu o gwmpas y plasty. Y blodau hyn ysbrydolodd ddau o'r tri Ffantasi ar gyfer piano, a gyfansoddwyd yn anrheg i ferched Taylor; Anne, Susan a Honora. Mae'r trydydd Ffantasi'n dwyn i gof y nant fach, lle byddai Mendelssohn a'r merched weithiau'n gorffwys wrth gerdded neu farchogaeth o gwmpas y stad.
Cyfeillion Cymreig
Yn ystod y cyfnod hwn fe ddrafftiodd Mendelssohn ddarn ar gyfer yr organ, i'w chwarae ym mhriodas ei chwaer Fanny ym mis Hydref, a darn theatr, Die Heimkehr aus der Fremde (Son and Stranger/Return of the Roamer), Op. 89, i ddathlu priodas arian ei rieni ym mis Rhagfyr. Mae'r aria i'r bas 'I am a roamer', sy'n boblogaidd ar lwyfan cyngerdd ac weithiau'n ddarn prawf eisteddfodol, yn rhan o'r gwaith hwn.
Gan ddefnyddio Coed Du fel canolfan, teithiodd Mendelssohn yn helaeth drwy ogledd Cymru, gan ymweld 芒 Bangor, Caernarfon, Corwen, Bro Ffestiniog, Abaty Glyn y Groes a Threffynnon. Fe nododd ambell fotiff cerddorol ym Meddgelert a Chapel Curig ac ymysg ei frasluniau mae Br眉cke 眉ber den Menay (Pont dros y Fenai) a dynnwyd ar ddydd Sul, Awst 23 1829, a llun o Gastell Conwy a dynnwyd y dydd Mercher canlynol.
Mae llythyron cynhwysfawr Mendelssohn at ei deulu yn s么n am y cyfnod yng Nghymru. Un tro clywodd delynor a chwaraewr hyrdi-gyrdi'n perfformio mewn gwesty yn Llangollen. Mewn sylw enwog a di-flewyn ar dafod, honnodd fod y profiad mor boenus, nes rhoi'r ddannoedd iddo!
Caru Cymru
Ond roedd yna brofiadau mwy dymunol hefyd, fel y nododd Anne Taylor:
"Fe ddathlodd 'nhad ei ben-blwydd yn ystod ymweliad Mr Mendelssohn. Aethon ni ar daith grand i bwll mwyn i fyny yn y bryniau, gan fynd 芒 phabell, a chinio i'r mwynwyr. Roedd sawl araith a llwncdestun, ac fe ymunodd Mendelssohn yn yr hwyl, yn union fel petai e'n un ohonon ni."
Hefyd roedd ymateb Mendelssohn i'w arhosiad yng Nghymru ar y cyfan yn bositif iawn. "Mae Cymru'n wlad ryfeddol o hardd," ysgrifennodd at ei dad, "ond mae'r ddalen hon mor fach, bydd raid i fi ei disgrifio i ti pan gwrddwn ni."
Ym mhentref Rhydymwyn mae plac sy'n coff谩u ymweliad Mendelssohn 芒 Choed Du.
Dr Rhian Davies