Nantclwyd y Dre
topNantclwyd y dre yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru sydd wedi goroesi ers ei hadeiladu yn y 15g. Mae gan bob ystafell ei chyfnod hanesyddol a'i stori rhyfeddol ei hun. Dyma ei hanes.
Gwibdaith Hanes Rhyfeddol
Mae'r adeilad yn ryfeddfod am ei fod wedi goroesi trwy ganrifoedd lawer gyda phob ystafell yn adrodd hanes hynod ei chyfnod a'i thrigolion. Mae ystafell o'r 15g sydd braidd wedi newid o ran pryd a gwedd ac wrth grwydro'r coridorau, ceith ymwelydd y teimlad ei fod yn lythrennol ar wibdaith trwy amser.
Wedi'i leoli ar Stryd y Castell yn Rhuthun mae llawer o'r tÅ· gwreiddiol yn dal i oroesi wrth galon yr adeilad presennol sy'n llawer mwy. Wrth gwrs, byddai perchnogion dros y blynyddoedd wedi ychwanegu llawer o estyniadau.
Saith Oes Nantclwyd
Mae pob un o 'saith oes' hanes Nantclwyd yn cael ei adrodd trwy gyfrwng ystafelloedd sydd wedi eu hail-greu a'u dodrefnu'n llawn. Gall ymwelwyr gerdded yn ôl mewn amser o'r cyntedd 1942, trwy stydi 1916 y rheithor a'r ystafell ysgol 1891, i'r ystafelloedd llofft hyfryd gyda'u paneli a'r papur wal Tsieineaidd.
Nesaf daw 'cabinet' 1690 Eubule Thelwall gyda'r gorchuddiadau o 'ddeunydd Kidderminster' a'r nenfwd plastr hardd, ac yna ystafell wely Jacobeaidd gydag addurniadau llachar a'r dillad gwely crog a'r llieiniau peintiedig, a'r 'stôl nos' yn ei chwpwrdd.
Yn olaf, yr 'ystafell fusnes' o'r 15fed ganrif, gyda'r strwythur 1435 fwy neu lai heb newid, yn ôl preswylydd canoloesol y cafodd ei bererindod i Rufain ei chofnodi mewn dogfen a ganfuwyd wedi ei chuddio yn y tŷ ei hunan.
Dyddiau Cynnar
Gwyddom o'r dyddiadau blwyddgylch fod y rhan gynharaf wedi'i hadeiladu ym 1435 neu 1436. Gellir olrhain ei berchenogaeth o'r dyddiad hwnnw yn y gyfres ragorol o roliau llys arglwyddiaeth Rhuthun neu Ddyffryn Clwyd yn yr Archifdy Cenedlaethol. Ar ddiwedd 1435 delid y llain o dir y saif y tÅ· arno'n awr gan wehydd o Gymro, Goronwy ap Madog, a'i wraig o Saesnes, Suzanna.
Roedd gwehyddu'n ddiwydiant pwysig a phroffidiol yn Rhuthun bryd hynny, a Chymry oedd flaenaf yn y diwydiant hwnnw. Ym 1441 prydleswyd y tŷ i ryw John Grey, a oedd yn ôl pob tebyg yn fab anghyfreithlon i aelod o'r teulu Grey a oedd yn dal yr arglwyddiaeth.
Erbyn 1456 roedd yn gartref Geoffrey y Clerc, ysgrifydd neu ŵr llythrennog a oedd yn gallu ysgrifennu a siarad Cymraeg a Saesneg, y naill iaith a'r llall, ac a oedd wedi codi i swydd o bwys. Yn niwedd yr 1480au roedd clerc arall, John Flixton, yn byw yno ac roedd ei deulu ef, fel llawer o drigolion Rhuthun yn y cyfnod hwn, wedi dyfod o stadau Swydd Gaerhirfryn teulu Grey.
TÅ· yn Tyfu
Ym 1490-1 rhoddodd George Grey, Iarll Caint, y tÅ· i John Holland, dyn ariannog a oedd yn grwner yr arglwyddiaeth. Estynnodd ef y tÅ· drwy adeiladu asgell groes i'r stryd (a ddymchwelwyd yn ddiweddarach) yn y pen deheuol (pen y castell). Ym 1571 gwerthodd yr Hollandiaid y tÅ· i Thomas Wynn ap John ap Harry, hynafiad teulu Parry o Blas Nantclwyd, Llanelidan.
Y flwyddyn ganlynol cymerodd Thomas Wynn Ardd yr Arglwydd, y tir yng nghefn y tÅ·, a amgylchynwyd gan waliau cerrig anferth, a oedd gynt wedi bod yn ardd lysiau'r castell, ar brydles. Cymerodd mab Thomas Wynn, Simon, cyfreithiwr cefnog yn Llundain, y cyfenw Parry.
Yn fuan ar ôl 1600 symudodd i Lanelidan ble bu iddo gynyddu stad Nantclwyd. Ychwanegodd asgell ogledd-orllewinol a neuadd ddeheuol newydd (i gymryd lle estyniad 1491) at y tŷ yn Stryd y Castell, rhwng tua 1620 a 1627. Bu farw yn 1627, ac yn amser ei fab, William, roedd y tŷ, am gyfnod o leiaf, â thenant yn byw ynddo.
Teulu dylanwadol
Ym 1653 priododd unig ferch ac etifeddes William Parry, Mary, ag Eubule Thelwall, cyfreithiwr arall, Is-Siambrlen etholaeth balatin Caer ac aelod pwysig o uchelwyr Sir Ddinbych. Ychwanegodd le tân cegin gogledd-ddwyreiniol newydd yn estyn allan tua 1662-3 a pharlwr hefyd yn ôl pob tebyg ar safle'r un presennol.
Ym 1675, roedd tenant yn byw yn y tÅ·, ond ychwanegwyd porth cefn newydd ryw flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach. Bu Thelwall yn byw yn y tÅ· ym mlynyddoedd olaf ei oes, o tua 1688 hyd at ei farw ym 1695. Ychwanegodd ato tua 1693 drwy adeiladu'r porth gyda siambr uwchben, gan roi i'r tÅ· ei olwg presennol. Ym 1691 prynodd Ardd yr Arglwydd.
Yn y pum mlynedd ar hugain nesaf bu perthnasau a thenantiaid yn byw yn y tÅ· ar adegau. Gwerthodd wyres Thelwall Nantclwyd y Dre ym 1722 i Edward Wynne o Blas Ucha, Llanefydd. Ymddengys ei fod ef wedi'i ddefnyddio fel tÅ· tref. Cafodd ei olynu gan ei fab, John Wynne, a briododd ym 1733.
Helaethwyd y tŷ eto pan estynnodd ef y parlwr ac ailwampio'r ystafell wely uwchben yn tua 1733-4. Adeiladodd yr wylfa yn yr ardd hefyd. Ym 1776, trosglwyddwyd y tŷ, trwy briodas, i deulu cyfoethocach a mwy dylanwadol Wynne Coed Coch, Betws-yn-Rhos, a fu'n berchen arno tan 1925. Dim ond ar ôl 1722, fe ymddengys, y rhoddwyd yr enw Nantclwyd y Dre i'r eiddo.
Goroesi ffasiwn
O tua 1798 gosodwyd y tŷ i denantiaid am dros ganrif, ffaith sy'n ddiamau yn egluro ei oroesiad heb ei newid gymharol ddim gan welliannau. Roedd dau o denantiaid canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn llawfeddygon - Robert Roberts a adawodd ym 1851 a Thomas Prytherch a fu farw yno ym 1862. Olynwyd hwy gan Edward Edwards, haearnwerthwr gyda siop yn y Sgwâr, a oedd yn faer Rhuthun ym 1871.
Yn ei amser, yn nechrau'r 1880au, bu Joseph Peers, Clerc Heddwch Sir Ddinbych, yn byw fel lletywr yn y tÅ·. Bu'n ysgol i ferched am rai blynyddoedd nes dod, ym 1893, yn rheithordy plwyf cyfagos Llanfwrog ac fe'i defnyddiwyd fel y cyfryw hyd at 1916.
Ym 1925, gwerthwyd y tŷ i'r tenant mewn meddiant, Clinton Holme, peiriannydd sifil cyfoethog wedi ymddeol. Tynnodd y rendr a oedd wedi gorchuddio'r tŷ ym 1928 a'i werthu ym 1934 i Samuel Dyer Gough, a wnaeth lawer iawn o waith arno. Gwerthodd ei weddw Nantclwyd y Dre i'r Cyngor Sir ym 1984. O 1834 i 1970, defnyddiwyd y tŷ fel y llety i farnwyr a ymwelai â'r dref i eistedd ar yr aseisus.
Agored i Bawb
Defnyddiwyd y tÅ· yn barhaus fel cartref gan nifer o deuluoedd dros y canrifoedd tan 1984 pan werthwyd y tÅ· i Gyngor Sir Clwyd. Ceisiodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol ddychwelyd y tÅ· i'w 'gyflwr canoloesol' ond aeth y gwaith adfer i drafferthion ac ni chafodd ei orffen.
Yn 1999 cymrodd Cyngor Sir Ddinbych berchnogaeth y tŷ'n ôl. Gydag arian Amcan 1 yr Undeb Ewropiaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cadw a Chyngor Tref Rhuthun, dechreuodd y gwaith o'i adfer yn 2004 a thair blynedd yn ddiweddarach, agorodd y tŷ i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Gyda diolch i Gyngor Sir Ddinbych.