Mae rhai o gerddi I.D Hooson wedi cadw eu hap锚l yn rhyfedd o dda, ac wedi mynd yn hen ffefrynnau, megis 'Guto Nyth Br芒n', 'Barti Ddu' a 'Guto Benfelen', mewn dosbarth, ar lwyfan ysgol ac mewn eisteddfod. Nid heb rheswm y'i disgrifir ar ei gof-golofn fel 'Cyfaill i blant Cymru'.
Ganwyd Isaac Daniel Hooson yn Rhosllanerchrugog, Sir Ddinbych, ym 1880. Cyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth a chanddo swyddfa yn Wrecsam; ni symudodd fyth o ardal ei febyd - fe'i ganwyd, fe drigai a bu farw yn Nh欧 Fictoria yn Stryt y Farchnad, lle gwelir plac er cof amdano.
Dechreuodd farddoni'n gynnar a dywedodd sawl tro mai yn nhudalennau cylchgrawn O. M. Edwards, Cymru, y bwriodd ei brentisiaeth.
Ysgrifennodd ran fwyaf y gyfrol Cerddi a Baledi (1936) rhwng 1930 a blwyddyn ei chyhoeddi; cyfansoddodd 'Y Fantell Fraith', sef cyfaddasiad o gerdd Robert Browning, 'The Pied Piper of Hamelin', ym 1934. Daeth ei waith yn boblogaidd bron ar unwaith, yn enwedig fel darnau adrodd.
Ar y pryd roedd diffyg defnydd ysgafn a difyr ar gyfer plant ac yng nghyfarfodydd Urdd Gobaith Cymru ennillodd cerddi I.D.Hooson fri anferthol.
Telynegion swynol ar y mesurau rhydd yw ei gerddi, gydag odlau amlwg, ac ar destun creaduriaid a blodau gan amlaf.
Mae angen y fath fardd ar bob gwlad ac ni ddylid bychanu ei gyfraniad. Er bod tinc o hiraeth am ei febyd yn ei waith cynharach, daw ei besimistiaeth yn amlycaf yn ei ail gyfrol, Y Gwin a Cherddi Eraill, a ymddangosodd ym 1948 ychydig o fisoedd cyn ei farw.
Heb fod nepell o Langollen, ar y ffordd fynydd a adwaenir fel 'Mountain Walk', gwelir cof-colofn i I.D.Hooson, un o hoff feirdd plant Cymru.
Meic Stephens
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn