Bro Hiraethog
topArdal a fagodd enwogion lawer yw honno rhwng Conwy a Chlwyd. Dyma fro y bardd Hiraethog ac ardal sy'n nodedig hefyd am ei chwedlau a'i hanesion a'i choeden ywen hynafol.
Ysbrydion y Plas
Dyma ardal wledig sy'n cynnwys nifer o bentrefi rhwng Llanrwst a threfi Clwyd.
Dechreuwn yn y gorllewin gyda phentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin. Mae'r rhain wedi'u lleoli ym Mro Cernyw, enw a grewyd yn 1969 gydag adeiladu'r ysgol newydd yn Llangernyw.
Yn yr ardal hon mae mynydd Moel Pentre Wen. Yn ystod y 19eg ganrif roedd dynion yn ymladd ceiliogod ar ben y mynydd. Mae olion y talwrn yma hyd heddiw.
Yn ystod yr un cyfnod adeiladwyd Plas Hafodunnos ger Llangernyw gan y pensaer Syr George Gilbert Scott. Dywedir fod y plas wedi ei adeiladu ar safle hen fynachlog. Mae s么n bod ysbrydion yn y plas hwn heddiw.
Coeden ywen Llangernyw
Yn Llangernyw hefyd mae coeden ywen arbennig sydd tua phum mil o flynyddoedd oed. Mae i'w gweld ym mynwent eglwys Sant Digain a chredir yn lleol mai dyma'r goeden ywen hynaf yn Ewrop. Ond yn fwy na hynny mae'n debyg mai'r goeden hon yw'r peth byw hynaf yng Nghymru a Lloegr. Gosodwyd carreg yma yn 1995 i'w choff谩u.
Yng nghanol y pentref mae amgueddfa Syr Henry Jones. Mae'r amgueddfa yn ei hen gartref. Prynwyd y bwthyn a'i droi'n amgueddfa yn 1934 ac fe'i adnewyddwyd yn 1997. Roedd Syr Henry Jones yn athronydd enwog. Llwyddodd i ddringo o fainc y crydd i gadair Athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow.
I'r de o Langernyw, ar lan afon Derfyn, mae pentref Pandy Tudur. Mae'n debyg mae ei leoliad agos i Langernyw sydd i gyfrif am y ffaith yr arferid galw'r pentref yn Blaenau Llangernyw.
Mae sawl enw wedi ei roi ar y pentref dros y blynyddoedd. Enw arall yw Llanddewi, ar 么l yr eglwys sydd yno. Ond enw rhyfeddach fyth yw Pandy Budr. Rhoddwyd yr enw hwnnw ar y pentref gan yr arferid golchi a lliwio gwl芒n mewn adeilad o'r enw Pandy yma. Roedd y dwr yn llifo i afon Derfyn a'i wneud yn fudr.
Chwedlau Gwytherin
Afon Cledwen sy'n llifo drwy bentref Gwytherin ac mae i'r afon honno stori arbennig hefyd. Ar lan yr afon mae carreg fawr a elwir Carreg y Cawr. Yn 么l y chwedl fe gerddodd cawr ar lan yr afon un diwrnod a theimlo rhywbeth yn ei esgid. Edrychodd ynddi a gweld carreg fechan. Tynnodd hi o'i esgid a'i thaflu i'r afon. A hon yw'r garreg a welir yma heddiw.
Chwedl arall sy'n gysylltiedig 芒 phentref Gwytherin yw chwedl Gwenffrewi gan fod eglwys y pentref wedi ei henwi ar ei h么l.
Yn 么l y chwedl fe dorrodd y Tywysog Caradog ben Gwenffrewi i ffwrdd am iddi wrthod ei briodi. Rhoddodd Beuno ei phen yn 么l a throdd Gwenffrewi'n leian. Daeth i Wytherin i helpu'r Santes Eleri i gynorthwyo'r tlodion ac yn ddiweddarach daeth yn Abades. Bu farw yma ac fe'i claddwyd ym mynwent yr eglwys.
Gwraig arall o'r ardal sy'n bwysig yn hanes y fro yw Catrin o Ferain. Gelwir hi'n 'Fam Cymru' ac roedd yn ddisgynnydd i Harri'r IV. Priododd bedair gwaith a phob un o'i gwyr ymhlith dynion cyfoethocaf a mwyaf dylanwadol y cyfnod. Un o'r rhain oedd Richard Clwch, bancer marchnadol ac adeiladydd. Ef oedd cynrychiolydd Elisabeth 1 yn Antwerp.
Twm o'r Nant
Nid yw Berain ymhell o Lannefydd. Dyma lle y ganwyd Twm o'r Nant, anterliwtiwr enwog oedd am ddiwygio'r gymdeithas. Yma heddiw mae 'Llaeth y Llan', llaethdy'r pentref sy'n cynhyrchu iogwrt ers 1980. Mae'r pentref wedi ei enwi ar 么l Nefydd, sant yn y cyfnod Celtaidd.
Mae Llanfair Talhaiarn wedi ei enwi ar 么l sant hefyd, sef Talhaearn. O'r pentref hwn hefyd y deuai'r bardd Talhaiarn (John Jones). Fe'i ganed yn Nhafarn y Delyn yn y pentref yn 1810. Yn ei gyfnod roedd Talhaiarn yn enwog trwy Gymru fel bardd ac arweinydd llwyfan yn y prif eisteddfodau.
Dywedir mai ef oedd arloeswr y delyneg Gymraeg. Fe aeth i weithio gyda chwmni o benseiri eglwysig yn Llundain. Dychwelodd i Gymru yn ddiweddarach ond dirywiodd ei iechyd ac fe'i saethodd ei hun yn Nhafarn y Delyn. Mae wedi ei gladdu o dan yr hen ywen ym mynwent y pentref.
Ll锚n ac enwogion yr ardal
Dyma gariad fel y moroedd, tosturiaethau fel y lli; Twysog Bywyd pur yn marw - marw i brynu'n bywyd ni.
Gwilym Hiraethog
Mae i Lanfair Talhaiarn arwyddoc芒d arall mewn llenyddiaeth Gymraeg gan mai ger y pentref hwn yr oedd Theatr Garthewin. Rhwng 1937 a 1969, dyma un o theatrau bychain mwyaf dylanwadol Cymru.
Fe'i crewyd yn 1937 pan drodd R.O.F Wynne o Blas Garthewin ysgubor ar ei yst芒d yn theatr i roi cartref i Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiwyd nifer o ddram芒u Saunders Lewis ynddi. Ysgrifennodd rai o'i ddram芒u'n arbennig ar gyfer Theatr Garthewin ac yma y perfformiwyd Siwan am y tro cyntaf, gyda John Gwilym Jones yn cyfarwyddo. Yma y llwyfannwyd nifer o ddram芒u Huw Lloyd Edwards am y tro cyntaf hefyd. Caewyd y theatr yng ngwanwyn 1969.
Mae Llansannan yn bentref llenyddol yn ogystal. Yma y ganwyd Gwilym Hiraethog, golygydd a llenor a ddaeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn arweinydd radicalaidd dylanwadol.
Yng nghanol y pentref saif cofgolofn i'w goff谩u ef ac enwogion lleol eraill gan gynnwys William Salesbury a Tudur Aled. Dyma'r ddelw o'r forwyn Gymreig a gynlluniwyd gan y cerflunydd enwog Syr William Goscombe John. Cysylltir y diweddar Orig Williams, neu El Bandito fel y'i gelwir ym myd reslo, a'i ferch Tara Bethan, 芒 phentref Llansannan.
Tua'r dwyrain wedyn i gyfeiriad Dinbych mae pentref Henllan. Mae'r 'hen eglwys' sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref yn unigryw yn yr ardal oherwydd ei th诺r sydd fel caer fechan ar wah芒n i'r eglwys ei hun. Dywedir y gellid clywed clychau'r eglwys yn well yma nac yn yr eglwys ei hun ers talwm.
Ysbryd Tafarn Llindir
Coel arall yw bod ysbryd yn nhafarn Llindir yn y pentref. Adeiladwyd y dafarn yn 1229. Credir mai dyma'r dafarn hynaf yng Nghymru. Dywedir fod ysbryd merch yn crwydro yma a'i bod yn byw yma dri chan mlynedd yn 么l pan oedd capten llong yn berchen ar y dafarn.
Yn ystod y cyfnodau hir hynny pan oedd ei g诺r allan ar y m么r, byddai Sylvia yn godinebu gan ddenu'r bechgyn lleol i'w gwely. Ond un noson stormus fe'i daliwyd yn godinebu gan ei g诺r pan ddychwelodd adref yn annisgwyl. Llamodd ar y gwely a thrywanu ei wraig yn ei chalon. Wrth i Sylvia erfyn am faddeuant fe'i tagwyd i farwolaeth.
Ers hynny dywedir bod ysbryd yn dal i grwydro Llindir mewn gwisg las. Credir erbyn heddiw mai nid ysbryd Sylvia yn unig sy'n crwydro yma ond bod ysbryd ei g诺r hefyd yn tarfu ar y rhai sy'n ymweld 芒'r dafarn.
Tua'r de wedyn mae Llyn Brennig, cronfa dd诺r mewn dyffryn a foddwyd yng nghanol rhostir Mynydd Hiraethog.
Yma ceir llwybr archeolegol sy'n cysylltu nifer o gofebau sy'n dyddio o rhwng 2000C.C a thua 1500C.C, sef yr Oes Efydd. Codwyd y rhain gan bobl oedd yn byw yn y dyffryn cyn ei foddi.
Wrth gerdded ar hyd y llwybr gellir gweld nifer o arwyddion sy'n dangos lleoliad beddrodau crwn mawr. Hefyd gellir gweld dwy 'deml' gron sydd wedi eu hail-greu sef 'Carnedd Gylchog' ar lan y llyn a 'Charnedd Lwyfannol' sydd wedi ei lleoli mae'n debyg i sicrhau golygfa eang o'r ardal.
Dengys tystiolaeth hanesyddol mai dim ond tuag ugain o bobol a gladdwyd yn y safle cysegredig hwn mewn cyfnod o tua phum canrif. Mae hyn yn parhau'n dipyn o ddirgelwch hyd heddiw. Yn fwy na dim mae'n ddirgelwch pam y treuliodd y bobl oedd yn byw yma yn yr oes Efydd gymaint o amser, gan ddefnyddio cymaint o lafur, i droi'r tir hwn yn le i gladdu'r meirwon.