Dulliau eraill o ddelio 芒 charcharorion yn yr 20fed ganrif
Yn yr 20fed ganrif, carchardai oedd y prif ddull o gosbi ym Mhrydain. Daeth trawsgludo, neu alltudio, i ben yn y 19eg ganrif a chafodd cosbau corfforol eu defnyddio'n llai aml. Nid oedd fflangelluChwipio rhywun. braidd yn cael ei ddefnyddio yn 1914, cyn cael ei diddymu鈥檔 llwyr yn 1948. Diddymwyd y gosb eithaf yn 1965.
Carchardai modern
Dechreuodd y systemau llym mewn carchardai newid yn sylweddol ar 么l 1922.
- Roedd hawl gan garcharorion fod mewn cysylltiad 芒'i gilydd.
- Cafodd iwnifform a farciwyd 芒 saethau eu gwahardd.
- Doedd dim hawl eillio gwallt carcharion.
- Darparwyd gwres, bwyd gwell a mynediad i addysg.
Y nod oedd diwygio ac adsefydlu carcharorion drwy addysg a hyfforddiant. Ond, oherwydd bod carchardai wedi dod yn fwy gorlawn ers 1960, mae mynediad i hyfforddiant ac addysg wedi bod yn fwy cyfyngedig.
Mae carcharorion yn cael eu categoreiddio鈥檔 A, B, C neu D, yn dibynnu ar:
- ddifrifoldeb eu trosedd
- eu hoedran
- faint o fygythiad ydyn nhw i'r cyhoedd
- y risg y byddan nhw'n dianc
Mae carcharorion yn cael eu hanfon i garchar ar gyfer eu categori.
Categori | Math o garcharor | Math o garchar |
A | Y mwyaf difrifol, yn berygl sylweddol i'r cyhoedd | Carchar cae毛dig traddodiadol, y mwyaf diogel |
B | Troseddau difrifol ond nid yw鈥檙 diogelwch mwyaf yn angenrheidiol | Carchar cae毛dig traddodiadol |
C | Ddim yn debygol o ddianc ond ddim yn addas ar gyfer carchardai agored | Carchar cae毛dig traddodiadol |
D | Troseddwyr tro cyntaf risg isel, m芒n droseddau | Carchar agored |
Categori | A |
---|---|
Math o garcharor | Y mwyaf difrifol, yn berygl sylweddol i'r cyhoedd |
Math o garchar | Carchar cae毛dig traddodiadol, y mwyaf diogel |
Categori | B |
---|---|
Math o garcharor | Troseddau difrifol ond nid yw鈥檙 diogelwch mwyaf yn angenrheidiol |
Math o garchar | Carchar cae毛dig traddodiadol |
Categori | C |
---|---|
Math o garcharor | Ddim yn debygol o ddianc ond ddim yn addas ar gyfer carchardai agored |
Math o garchar | Carchar cae毛dig traddodiadol |
Categori | D |
---|---|
Math o garcharor | Troseddwyr tro cyntaf risg isel, m芒n droseddau |
Math o garchar | Carchar agored |
Nid oes yr un carchar categori A yng Nghymru. Mae Carchar Belmarsh yn Llundain yn garchar categori A. Mae Carchar Caerdydd yn garchar categori B tra bod Carchar Abertawe yn garchar categori B/C. Agorodd Carchar y Berwyn ger Wrecsam ym mis Chwefror 2017 ac mae鈥檔 garchar categori C. Hwn yw鈥檙 carchar mwyaf yng Nghymru a Lloegr a gall ddal hyd at 2,106 o garcharorion.
Carchardai agored
Sefydlwyd carchardai agored yn 1934 ac mae ganddyn nhw reolau llai caeth. Maen nhw bron yn ddull newydd o gosb gan eu bod yn gwahaniaethu mor sylweddol o garchardai categori A. Mae carcharorion yn cael gadael y carchar yn ystod y dydd i fynd i weithio. Mae gan y carcharorion allweddau i鈥檞 hystafelloedd eu hunain ac nid oes yno waliau na ffensys mawr.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 carcharorion ddychwelyd i鈥檙 carchar gyda鈥檙 nos ac mae cyrsiau a hyfforddiant ar gael iddyn nhw. Mae gan nifer o garchardai agored eu ffermydd a鈥檜 gweithdai eu hunain er mwyn hyfforddi carcharorion ar gyfer gyrfaoedd. Fe ddaethon nhw'n boblogaidd oherwydd gorboblogi mewn carchardai yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Eu prif pwrpas oedd adsefydlu carcharorion i'r gymuned fel ffordd o atal aildroseddu.
Mae nifer o garcharorion mewn carchar agored yn droseddwyr tro cyntaf sydd wedi cyflawni m芒n droseddau. Mae eraill yn cael eu trosglwyddo o garchardai categori uwch ar ddiwedd eu dedfrydau er mwyn eu paratoi ar gyfer bywyd yn 么l yn y gymuned. Mae Carchar Prescoed ger Brynbuga yn garchar agored categori D.
Mae carchardai agored wedi cael cyhoeddusrwydd gwael yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar 么l ambell sgandal ynghylch faint o alcohol a chyffuriau mae gan y carcharorion fynediad iddyn nhw.
Carcharorion benywaidd yn ystod yr 20fed ganrif
Daeth Carchar Holloway yn Llundain yn garchar i fenywod yn unig yn 1903, a dyma oedd carchar benywaidd mwyaf yng Ngorllewin Ewrop nes iddo gau yn 2016.
Mae cyswllt teuluol yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth, ond oherwydd lleoliad daearyddol carchardai menywod mae鈥檙 broses o gynnal cysylltiadau teuluol yn anodd. Does dim carchardai i fenywod yng Nghymru.
Troseddwyr ifanc
Sefydlwyd borstalau fel dewis arall yn hytrach na charchar i droseddwyr ifanc, ac agorodd yr un cyntaf yng Nghaint yn 1902. Bechgyn rhwng 15 a 21 oed oedd yn cael eu carcharu yma. Dyluniwyd borstalau er mwyn addysgu a diwygio troseddwyr ifanc fel bod y carcharorion yn cael cyrsiau addysg a hyfforddiant. Roedd yna reolau caeth mewn borstalau, a hyd at 1962 roedd bechgyn mewn borstalau yn cael eu chwipio. Diddymwyd borstalau yn 1982.
Aeth tua 60 y cant o'r rheini a ryddhawyd o borstalau i aildroseddu, felly cyflwynodd y llywodraeth Ganolfannau Cadw Ieuenctid, gyda鈥檙 bwriad o roi 'sioc fer, sydyn' i bobl ifanc. Serch hynny, methodd yr agwedd llymach hwn i gael effaith ar aildroseddu wrth i'r cyfraddau gynyddu.
Yn 1988, sefydlwyd Sefydliadau Troseddwyr Ifanc ar gyfer troseddwyr rhwng 18 a 21 oed. Mae鈥檙 troseddwyr ifanc yn derbyn 25 awr yr wythnos o addysg. Mae hwn yn cael ei ystyried fel y dewis olaf os yw profiannaeth a dedfrydau di-garchar yn methu. Mae gan y rhai sy'n cael eu hanfon i'r sefydliadau hyn y cyfraddau aildroseddu uchaf.
Gall troseddwyr ifanc hefyd gael eu hanfon i ganolfannau hyfforddi diogel, cartrefi plant diogel neu garchardai ieuenctid.
Carchar Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw鈥檙 unig gyfleuster yng Nghymru ar gyfer troseddwyr ifanc ac mae ar gyfer gwrywod yn unig. Nid oes yr un Sefydliad Troseddwyr Ifanc i fenywod yng Nghymru.