Defnyddio鈥檙 gosb eithaf yn gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif
Defnyddiwyd y cosb eithafCosb sy鈥檔 arwain at farwolaeth. ar gyfer troseddau difrifol drwy gydol y 16eg, 17eg, 18fed a鈥檙 19eg ganrif.
Y dull mwyaf cyffredin o ddienyddio oedd crogi. Roedd gan bron bob tref a dinas fan dienyddio, gyda sgaffaldiau. Yn Llundain, yn Tyburn y cafodd y rhan fwyaf o droseddwyr eu crogi, ger Marble Arch erbyn hyn. Yn aml, cafodd carcharorion eu llusgo o garchar Newgate i'r fan hon. Yn 1537, defnyddiodd Harri VIII Tyburn i ddienyddio arweinwyr y Pererindod Gras. Hefyd yn ystod teyrnasiad Harri VIII, gofynnwyd i'r Esgob Rowland Lee ddod 芒 chyfraith a threfn i Gymru a chafodd dros 5,000 o bobl eu crogi'n gyhoeddus.
Fel arfer roedd troseddwyr yn cael eu cludo ar gefn trol at y crocbrenStrwythur pren a ddefnyddiwyd i ddienyddio pobl drwy grogi.. Ar y ffordd gallai pobl daflu pethau at y troseddwr ac roedden nhw鈥檔 aml yn gweiddi arno. Yn aml byddai offeiriad yn annog y troseddwr a gondemniwyd i ymddiheuro am ei droseddau. Yna byddai鈥檙 troseddwr yn cael ei grogi ac yn marw o ganlyniad i lindagiad. Yn aml byddai perthnasau鈥檙 troseddwr yn tynnu ar draed y troseddwr er mwyn cyflymu鈥檙 farwolaeth.
Roedd dulliau eraill o ddienyddio yn cynnwys llosgi i farwolaeth, ac roedd hon yn bennaf yn gosb ar gyfer heresiGwrthod neu anghytuno i ddilyn safbwyntiau crefyddol y brenin/brenhines neu鈥檙 wladwriaeth.. Byddai troseddwyr yn cael eu clymu i bolyn a byddai t芒n yn cael ei gynau o鈥檜 cwmpas. Yn aml byddai powdr gwn yn cael ei roi rhwng coesau鈥檙 person a gondemniwyd er mwyn cyflymu鈥檙 farwolaeth.
Y ffugiwr Catherine Murphy oedd y ferch olaf yn Lloegr i gael ei llosgi'n swyddogol ar 18 Mawrth 1789. Cafodd ei chrogi鈥檔 gyntaf gan fod y weithred o losgi i farwolaeth bellach yn ddi-chwaeth. Flwyddyn yn ddiweddarach, diddymwyd y gosb o losgi, oedd ar y pryd yn berthnasol i fenywod ac nid i ddynion.
Y dull dienyddio ar gyfer teyrnfradwriaethBradychu eich gwlad. Er enghraifft, cynllwynio yn erbyn y frenhiniaeth. oedd torri pen, neu grogi, diberfeddu a phedrannu. Torrwyd pennau aelodau o鈥檙 teulu brenhinol, fel arfer gyda bwyell. Dienyddiwyd Mari Brenhines Yr Alban yn y modd yma yn 1587.
Roedd pobl gyffredin oedd yn cael eu canfod yn euog yn cael eu crogi, ond yn cael eu tynnu i lawr tra鈥檙 oedden nhw鈥檔 dal yn fyw. Yna byddid yn tynnu eu perfeddion allan. Yna torrwyd eu pennau a byddai eu cyrff yn cael eu torri鈥檔 bedwar rhan (sef 'pedrannu'). Byddai tir ac arian y bradwr yn cael ei feddiannu gan y frenhiniaeth. Cafodd Guy Fawkes ei ddedfrydu i鈥檞 ddienyddio fel hyn, ond llwyddodd i osgoi hynny drwy dorri ei wddf ar 么l taflu ei hun oddi ar y llwyfan ym mis Ionawr 1606.
Un Cymro enwog a ddienyddiwyd oedd arweinydd y Siartwyr, Richard Lewis, a elwid hefyd yn Dic Penderyn. Cyhuddwyd Dic o anafu un o鈥檙 milwyr a anfonwyd i ddod 芒 Terfysg Merthyr i ben. Ef oedd unig arweinydd y gwrthryfel i gael ei ddienyddio. Fe'i crogwyd y tu allan i Garchar Caerdydd ym mis Awst 1831. Ei eiriau olaf oedd O Arglwydd, dyma gamwedd
.
Defnyddio鈥檙 gosb eithaf yn gyhoeddus yng Nghymru
Roedd gan y rhan fwyaf o drefi Cymru grocbren ar gyfer dienyddio鈥檔 gyhoeddus. Roedd rhai yn grocbrennau parhaol, ac roedd eraill yn cael eu tynnu i lawr ac yn cael eu hailadeiladu pan fo鈥檙 angen. Yng Nghaerdydd byddai troseddwyr yn cerdded o garchar y Castell at y crocbren mewn ardal yn Y Rhath a elwir yn lleol hyd heddiw yn Gyffordd Marwolaeth.
Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd mwy a mwy o ddienyddio yn digwydd y tu allan i garchar y dref, a hynny mae鈥檔 debyg oherwydd hwylustod.
Yn Abertawe, y person olaf i鈥檞 ddienyddio oedd Robert Coe oedd yn 18 oed, a grogwyd ym mis Ebrill 1866 ar dwyni tywod y tu allan i garchar y dref. Ar 么l hynny roedd dienyddio yn digwydd yn breifat y tu mewn i garchardai. Yng Nghaernarfon, defnyddiwyd y t诺r crogi ym muriau鈥檙 dref ar gyfer dienyddio.