91热爆

Dulliau cosbiCarchardai newydd ar ddiwedd y 19eg ganrif

Roedd y dulliau cosbi a ddefnyddiwyd yn oes y Tuduriaid a鈥檙 Stiwartiaid yn seiliedig ar gosb eithaf a chosb gorfforol gyhoeddus. Gydag amser mae鈥檙 ffocws wedi newid, a charcharu yw ein prif ddull o gosbi erbyn heddiw. Sut mae dulliau cosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Carchardai newydd ar ddiwedd y 19eg ganrif

Yn y 19eg ganrif, tyfodd nifer y bobl mewn carchardai yn sylweddol. Daeth dedfryd o garchar yn llawer mwy cyffredin yn sgil llai o bobl yn derbyn cosbau corfforol.

Adeiladwyd nifer o garchardai newydd yng nghanol a diwedd y 19eg ganrif, gyda'r bwriad o fod yn garchardai. Roedd nifer yn dilyn yr un dyluniad, roedden nhw'n ddiogel ac yn caniat谩u i garcharorion gael celloedd unigol. Yn y carchardai yma defnyddiwyd dwy gyfundrefn wahanol - y system ar wah芒n a'r system dawel - i geisio diwygio carcharorion.

Y system ar wah芒n

Llun o ystafell fawr gyda dyn yn sefyll ar lwyfan yn wynebu deg rhes o garcharorion sy鈥檔 eistedd mewn rhengoedd o giwbyclau pren.
Image caption,
Ysgol i oedolion yn y capel, yn rhan o鈥檙 system ar wah芒n yn Nh欧 Cywiro Surrey, Wandsworth, 1862

Roedd rhai o鈥檙 carchardai newydd yma yn cael eu rhedeg fel carchardai ar wah芒n. Mewn carchardai ar wah芒n, roedd carcharorion yn cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd mewn celloedd unigol, ac yn cael eu cadw ar eu pennau eu hunain mewn celloedd am wythnosau. Yna byddai caplaniaid carchardai yn ymweld 芒鈥檜 celloedd ac yn ceisio eu hannog i fyw bywyd didrosedd mwy Cristnogol.

Roedd carcharorion ond yn cael dod allan o鈥檜 celloedd ar gyfer ymarfer corff a gwasanaethau鈥檙 eglwys.

Roedd rhaid iddyn nhw wisgo masgiau wrth ymarfer corff. Adeiladwyd capeli arbennig gyda bythau er mwyn cadw鈥檙 carcharorion ar wah芒n. Rhoddwyd y carcharorion ar waith yn gwn茂o sachau post a sachau glo.

Carchar Pentonville

Diagram o garchar Pentonville.

Carchar Pentonville yn Llundain oedd y carchar enwocaf oedd yn cael ei redeg fel carchar ar wah芒n. Dyluniwyd Pentonville yn arbennig gydag adenydd yn ymestyn o neuadd ganolog. Roedd yr adenydd yma yn caniat谩u i garcharorion gael celloedd unigol. Yna defnyddiwyd dyluniadau tebyg mewn 54 o garchardai eraill yn cynnwys Rhuthun. Cafodd adain pedwar llawr tebyg i arddull Pentonville ei adeiladu yng Ngharchar Rhuthun yn 1878.

Y system dawel

Mewn carchardai tawel, nid oedd carcharorion yn cael eu cadw ar wah芒n, ond nid oedden nhw鈥檔 cael cyfathrebu. Gorfodwyd y carcharorion i wneud tasgau diflas ac ailadroddus mewn tawelwch llwyr. Roedd yn rhaid iddyn nhw blicio ocwm, cerdded ar felinau neu droi handlenni cranciau filoedd o weithiau.

Y syniad oedd y byddai鈥檙 tawelwch a'r diflastod yn galluogi i鈥檙 carcharorion fyfyrio ar eu troseddau. Arweiniodd y system carchardai tawel at gynnydd mewn hunanladdiad a phroblemau iechyd meddwl.

Llun o ystafell fawr yn llawn carcharorion sy鈥檔 eistedd ar welyau ar ffurf hamogau. Ceidwad yn eistedd mewn cadair ym mlaen yr ystafell.
Image caption,
Carcharorion yn eistedd ar resi o welyau hamog yn yr ystafell gysgu yng Ngharchar Coldbath Fields, Llundain, dan oruchwyliaeth gwarchodwr (tua 1860)

Ni lwyddodd y systemau ar wah芒n na鈥檙 system dawel i ostwng y gyfradd aildroseddu. Yn 1877, cymerodd y llywodraeth rheolaeth o鈥檙 holl garchardai. Erbyn yr 20fed ganrif, rhoddwyd terfyn ar yr arbrofion ar wah芒n a thawel. Dechreuodd carchardai roi terfyn ar y defnydd o lafur caled di-bwrpas, ee melinau traed a chranciau, ac fe'u diddymwyd yn y pen draw yn 1902.