Twf terfysgaeth yn yr 20fed a鈥檙 21ain ganrif
Nid yw terfysgaeth yn rhywbeth newydd. Ond, ers y 1960au bu cynnydd yn nifer yr ymosodiadau terfysgol ym Mhrydain a chynnydd mewn ofni terfysgaeth.
Terfysgwyr yw pobl sy鈥檔 defnyddio dulliau treisgar, neu fygythiadau treisgar, er mwyn cyflawni eu hamcanion. Mae terfysgwyr yn amcanu at greu newid llwyr mewn gwlad, megis disodli llywodraeth neu orfodi newid sylweddol yn y gyfraith neu mewn polisi.
Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA)
Roedd yr IRA yn credu bod y mwyafrif Protestannaidd yn gwahaniaethu yn erbyn y boblogaeth Gatholig. Roedden nhw eisiau i Ogledd Iwerddon wahanu oddi wrth y DU a dod yn rhan o Weriniaeth Iwerddon. Roedd llywodraeth y DU yn gwrthwynebu hynny鈥檔 gryf.
Anfonodd llywodraeth Prydain filwyr i Ogledd Iwerddon ar 么l i鈥檙 IRA ddechrau defnyddio trais. Targedodd yr IRA milwyr 芒 bomiau a gynau. Fe geision nhw llofruddio Prif Weinidog y DU, Margaret Thatcher, a鈥檌 chabinet yn Brighton yn 1984. Lladdwyd pump o bobl ac anafwyd 31, ond ni anafwyd Thatcher. Ym mis Mehefin 1996, ffrwydrodd bom yr IRA yng Nghanolfan Siopa Arndale ym Manceinion, gan anafu 212 o bobl.
Rhwng 1969 ac 2001 cafodd 3,526 o bobl eu lladd gan drais terfysgol yn y DU.
Grwpiau cenedlaetholgar yng Nghymru
Ers y 1960au bu cefnogaeth gynyddol i grwpiau cenedlaetholgar yng Nghymru. Rhwng 1963 a 1969, yn sgil boddi cwm Tryweryn a phentref Capel Celyn, gweithredodd gr诺p oedd yn cael ei alw鈥檔 MAC (Mudiad Amddiffyn Cymru). Cafodd adeiladau鈥檙 llywodraeth yng Nghaerdydd eu bomio a difrodwyd pibellau oedd yn cario d诺r i Lerpwl.
Fe wnaeth nifer fechan o genedlaetholwyr gyflawni ymosodiadau yn cynnwys gosod bomiau a llosgi bwriadol, yn cynnwys llosgi tai haf yn y 1980au gan Feibion Glynd诺r. Roedden nhw'n credu bod yr iaith Gymraeg a鈥檙 diwylliant Cymreig dan fygythiad, a bod cymunedau Cymraeg yn cael eu dinistrio gan fewnfudwyr Saesneg o Loegr.
Bomio鈥檙 arwisgiad
Rhoddwyd teitl Tywysog Cymru i鈥檙 Tywysog Siarl mewn arwisgiadSeremoni lle rhoddir teitl ar rywun yn swyddogol. ffurfiol ar 1 Gorffennaf 1969 yng Nghastell Caernarfon. Roedd cefnogwyr iau Plaid CymruPlaid wleidyddol yng Nghymru. a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthwynebu鈥檙 arwisgiad yma yn gryf. Derbyniodd Tywysog Siarl fygythiadau gan grwpiau o wladgarwyr Cymreig.
Ceisiodd aelodau o sefydliad cyfrinachol o鈥檙 enw Mudiad Amddiffyn Cymru osod bomiau er mwyn ffrwydro鈥檙 rheilffordd a ddefnyddiwyd gan y tr锚n brenhinol. Fodd bynnag, ffrwydrodd y bom wrth i鈥檙 bomwyr ei gludo at y rheilffordd, gan ladd dau o鈥檙 cynllwynwyr. Gadawyd ffrwydrad arall yn Abergele, ac fe ffrwydrodd rai dyddiau鈥檔 ddiweddarach, gan anafu plentyn.
Terfysgaeth rhyngwladol
Roedd grwpiau terfysgol rhyngwladol fel y Ffrynt Rhyddid Palesteinaidd ac ETA (gr诺p ymwahanu yn y Basg) yn gweithredu yn ystod diwedd yr 20fed ganrif.
Yn fwy diweddar, mae grwpiau fel Al-Qaeda wedi bod yn gyfrifol am ymosodiadau terfysgol, gyda鈥檙 mwyaf adnabyddus yn cael ei gynnal ar Ganolfan Masnach y Byd, neu鈥檙 Twin Towers, yn Efrog Newydd ar 11 Medi 2001, a鈥檙 ymosodiadau yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005.
Mae Al-Qaeda yn gr诺p o derfysgwyr rhyngwladol ac yn gr诺p Islamaidd eithafol. Er bod yna gelloedd mewn nifer o wledydd erbyn hyn, ffurfiwyd y gr诺p yn Afghanistan gan Osama Bin Laden.
Mae nifer o鈥檜 cefnogwyr yn credu eu bod yn rhan o ryfel sanctaidd yn erbyn gwledydd Gorllewinol. Maen nhw eisiau newid polisi tramor cenhedloedd gorllewinol yn cynnwys UDA.