Effaith newid crefyddol yn ystod y 17eg ganrif
Oes y Stiwartiaid
Gorchmynnodd Iago I y dylid dirwyo Catholigion nad oedd yn mynychu gwasanaethau (Protestanaidd) Eglwys Lloegr, ac adroddwyd ei fod yn cas谩u鈥檙 grefydd Gatholig. Arweiniodd hynny at fwy o wrthwynebiad yn ei erbyn ymysg Catholigion, oedd yn cynnwys Brad y Powdr Gwn yn 1605, sef yr ymgais i ladd y brenin a ffrwydro鈥檙 Senedd. Daliwyd y cynllwynwyr a鈥檜 dienyddio am deyrnfradwriaeth.
Yn ystod oes y Stiwartiaid, cynyddodd PiwritaniaethProtestaniaid eithafol oedd y Piwritaniaid a ddilynai鈥檙 Beibl yn agos a cheisio byw bywyd syml a phlaen. Roedden nhw鈥檔 credu mai cyfuniad o waith caled ac addoli oedd y ffordd i鈥檙 nefoedd. Felly, doedden nhw ddim yn cytuno gydag unrhyw beth fyddai鈥檔 rhwystro gwaith ac addoli. mewn poblogrwydd. Ar 么l dienyddio Siarl I yn 1649, roedd y Piwritan Oliver Cromwell yn Arglwydd Amddiffynnydd ac roedd y Senedd wedi ei meddiannu gan Biwritaniaid.
Arweiniodd hynny at gyfres o ddeddfau oedd yn ceisio gorfodi syniadau Piwritanaidd, ac roedd methu 芒 dilyn y deddfau hyn yn heresi:
- gwaharddwyd chwarae p锚l-droed ar y Sul
- gwaharddwyd trin gwallt neu farf ar y Sul
- gwaharddwyd rhegi
- Dil毛wyd diwrnod y Nadolig yn 1652. Hefyd, roedd dathlu鈥檙 Pasg a鈥檙 Sulgwyn yn anghyfreithlon
Ar 么l adfer y frenhiniaeth gyda Siarl II ym Mai 1660, diddymwyd y deddfau Piwritanaidd caeth.
Dewiniaeth
Roedd dewiniaeth yn drosedd tan 1735, a鈥檙 gosb am hynny oedd marwolaeth yn ystod oes y Tuduriaid a鈥檙 Stiwartiaid. Ystyriwyd bod gwrachod yn weision i鈥檙 diafol ar y ddaear. Yn aml, roedd diffyg dealltwriaeth pobl yn achosi iddyn nhw gredu bod pethau drwg yn waith y diafol neu wrachod. Ysgrifennodd y Brenin Iago I lyfr ar ddewiniaeth gan awgrymu ffyrdd o鈥檜 hadnabod a鈥檜 dal.
Roedd pob brenin neu frenhines yn ceisio sicrhau bod pawb yn dilyn eu deddfau crefyddol. Felly roedd dewiniaeth yn bryder i Gatholigion a Phrotestaniaid. Amcangyfrifir bod hyd at 1,000 o bobl, a merched yn bennaf, wedi cael eu dienyddio am ddewiniaeth mewn cyfnod o 200 mlynedd. Yn ystod y 1640au bu erlid gwrachod sylweddol yn Essex dan arweiniad yr erlidiwr gwrachod, Matthew Hopkins.