Effaith newid crefyddol yn ystod y 16eg ganrif
Achosodd crefydd trosedd sylweddol yn ystod y 16eg a鈥檙 17eg ganrif. Roedd methu 芒 dilyn a thyngu llw i鈥檙 newidiadau yr oedd pob Brenin neu Frenhines yn ei wneud mewn perthynas 芒 chrefydd yn drosedd. Roedd nifer o bobl yn cael eu cosbi am heresiGwrthod neu anghytuno i ddilyn safbwyntiau crefyddol y brenin/brenhines neu鈥檙 wladwriaeth. yn ystod y cyfnod hwn.
Ar brydiau roedd pobl oedd yn gwrthwynebu鈥檙 newidiadau crefyddol yn gwrthod dilyn yr arferion newydd, yn siarad yn gyhoeddus yn erbyn y newidiadau, neu鈥檔 trefnu gwrthryfeloedd neu gynllwynion yn erbyn y frenhiniaeth. Roedd y gweithredoedd yma yn droseddau yn oes y Tuduriaid.
Felly, roedd y diwygiad yn golygu bod y frenhiniaeth, y llywodraeth a鈥檙 senedd yn ymwneud mwy 芒 materion crefyddol. Roedd hynny鈥檔 golygu鈥檔 aml fod rhywun oedd yn cyflawni trosedd heresi yn cyflawni teyrnfradwriaethBradychu eich gwlad. Er enghraifft, cynllwynio yn erbyn y frenhiniaeth. hefyd.
Achosion heresi a theyrnfradwriaeth o dan Harri VIII
Yn ystod y 16eg ganrif y dechreuodd y Diwygiad Protestannaidd yn Ewrop. Dechreuodd y syniadau Protestannaidd yma ledaenu i Gymru a Lloegr yn y 1520au a dechreuodd ddylanwadu ar nifer o bobl. Ond, argyfwng ysgariad Harri VIII o 1529 oedd catalydd y diwygiad yng Nghymru a Lloegr.
Defnyddiodd Thomas Cromwell y Senedd i basio cyfres o ddeddfau a wahanodd Eglwys Lloegr oddi wrth yr Eglwys Gatholig Rufeinig, gan wneud Harri VIII yn bennaeth yr Eglwys yng Nghymru a Lloegr yn hytrach na'r Pab yn Rhufain. Cafodd y Beibl ei gyfieithu i'r Saesneg yn 1539, ond ychydig iawn a newidiodd fel arall. Parhaodd gwasanaethau'r Eglwys a鈥檙 gwedd茂au i fod yn Lladin ac nid oedd hawl gan offeiriaid briodi.
Deddfau Harri VIII | Deilliannau |
Deddf Goruchafiaeth 1534 | Y ddeddf hon osododd Harri VIII yn bennaeth yr Eglwys. Roedd y rhai oedd yn gwrthod derbyn awdurdod Harri ar yr Eglwys yn cael eu cosbi. Dienyddiwyd Syr Thomas More gan iddo wrthod tyngu Llw Goruchafiaeth. |
Deddf Olyniaeth 1534 | Plant gwraig newydd Harri, Anne Boleyn, oedd i gael blaenoriaeth yn yr olyniaeth ar draul ei ferch Mary. Golygodd Deddf Teyrnfradwriaeth yn yr un flwyddyn bod gwrthwynebu鈥檙 ddeddf hon neu鈥檙 Ddeddf Olyniaeth yn drosedd allai arwain at gosb farwol. |
Diddymu鈥檙 Mynachlogydd 1536-40 | Caewyd y mynachlogydd ar draws y wlad. |
Deddf y Chwe Erthygl | Ailddatganwyd y ffydd Gatholig. Gellid llosgi i farwolaeth y Protestaniaid oedd yn gwadu鈥檙 ffydd Gatholig. |
Deddfau Harri VIII | Deddf Goruchafiaeth 1534 |
---|---|
Deilliannau | Y ddeddf hon osododd Harri VIII yn bennaeth yr Eglwys. Roedd y rhai oedd yn gwrthod derbyn awdurdod Harri ar yr Eglwys yn cael eu cosbi. Dienyddiwyd Syr Thomas More gan iddo wrthod tyngu Llw Goruchafiaeth. |
Deddfau Harri VIII | Deddf Olyniaeth 1534 |
---|---|
Deilliannau | Plant gwraig newydd Harri, Anne Boleyn, oedd i gael blaenoriaeth yn yr olyniaeth ar draul ei ferch Mary. Golygodd Deddf Teyrnfradwriaeth yn yr un flwyddyn bod gwrthwynebu鈥檙 ddeddf hon neu鈥檙 Ddeddf Olyniaeth yn drosedd allai arwain at gosb farwol. |
Deddfau Harri VIII | Diddymu鈥檙 Mynachlogydd 1536-40 |
---|---|
Deilliannau | Caewyd y mynachlogydd ar draws y wlad. |
Deddfau Harri VIII | Deddf y Chwe Erthygl |
---|---|
Deilliannau | Ailddatganwyd y ffydd Gatholig. Gellid llosgi i farwolaeth y Protestaniaid oedd yn gwadu鈥檙 ffydd Gatholig. |
Felly daeth heresi a theyrnfradwriaeth yn droseddau mwy cyffredin o dan Harri VIII yn y 1530au a鈥檙 1540au oherwydd roedd unrhyw un nad oedd yn dilyn ac yn cefnogi鈥檙 newidiadau hyn yn cyflawni trosedd. Yn ystod teyrnasiad Harri llosgwyd nifer o bobl am heresi neu eu dienyddio am deyrnfradwriaeth.
Yn 1536, protestiodd 30,000 o bobl yn erbyn newidiadau Harri mewn Pererindod Gras gan gymryd rheolaeth o Efrog, Hull, Pontefract a Doncaster. Cafodd 178 o brotestwyr eu dienyddio, gan gynnwys yr arweinydd, Robert Aske.
Achosion troseddu crefyddol o dan Edward a Mari I (Mari Tudur)
Ar 么l marwolaeth Harri VIII yn 1547, trodd ei fab Edward VI yr eglwys yn Brotestannaidd.
- Cyflwynwyd Llyfr Gweddi Cyffredin yn Saesneg.
- Diddymwyd yr Offeren Lladin a newidiodd gwasanaethau鈥檙 Eglwys i fod yn Brotestannaidd.
- Roedd offeiriaid yn cael priodi.
- Cafwyd gwared 芒 chysegrau, delweddau ac addurniadau Catholig.
Carcharwyd Esgobion Catholig oedd yn gwrthod dilyn newidiadau Edward am heresi. Ond, dim ond dau o bobl a ddienyddiwyd am heresi yn ystod ei deyrnasiad.
Esgynnodd y Pabydd Mari Tudur i鈥檙 orsedd yn 1553 ar 么l ymdrech am gyfnod byr gan y Protestaniaid i goroni'r Fonesig Jane Grey yn Frenhines. Fe wnaeth Mari ddadwneud holl newidiadau crefyddol Edward yn gyflym, gan adfer rheolaeth y Pab a chyflwyno arferion Catholig yn 么l yn yr Eglwys.
- Ailsefydlodd Mari'r Offeren Lladin.
- Trowyd yr eglwysi yn Gatholig eto - ailosodwyd cysegrau, ffenestri lliw ac allorau Catholig.
- Defnyddiwyd Beiblau Lladin unwaith eto.
- Nid oedd hawl gan offeiriaid i gael gwragedd.
Roedd pobl oedd yn gwrthod derbyn newidiadau Mari yn euog o heresi. Roedd Mari yn treialu esgobion Protestannaidd blaenllaw am heresi.
Yn 1554, cafodd Thomas Wyatt a 90 o wrthryfelwyr Protestannaidd eraill eu dienyddio am deyrnfradwriaeth ar 么l methiant eu cynllwyn i ddisodli Mari am Elisabeth, oedd yn Brotestant.
Achosion troseddu crefyddol o dan Elisabeth I
Daeth Elisabeth i鈥檙 orsedd yn 1558 a cheisiodd greu ei chrefydd ei hun, a alwyd yn 'ardrefniant' crefyddol. Roedd hi wedi gobeithio bodloni'r Protestaniaid a Chatholigion drwy Brotestaniaeth gymedrol.
- Daeth Elisabeth yn Bennaeth yr Eglwys, ond galwai ei hun yn Uchaf-Lywodraethwr yn hytrach na Phennaeth.
- Roedd gwasanaethau鈥檙 eglwys, llyfrau gweddi a鈥檙 Beibl mewn Saesneg. Ond, argraffwyd llyfr gweddi Lladin hefyd.
- Caniatawyd rhai addurniadau ac urddwisgoedd yr Eglwys Gatholig.
- Roedd y llyfr gweddi newydd yn ceisio cyfaddawdu rhwng safbwyntiau Catholig a Phrotestannaidd ynghylch y Cymun.
Roedd nifer o Gatholigion yn anhapus iawn ynghylch ardrefniant crefyddol Elisabeth. Gwrthododd y cardinal William Allen dyngu鈥檙 Llw Goruchafiaeth a dihangodd i Rufain. Drwy gydol teyrnasiad Elisabeth, roedd offeiriaid Catholig yn cael eu hyfforddi dramor ac yn dychwelyd i Loegr er mwyn ceisio troi pobl.
Roedd rhai Catholigion yn cymryd rhan mewn cynllwynion yn erbyn Elisabeth, gyda鈥檙 nod o鈥檌 diorseddu, a gorseddu ei chyfnither Gatholig, Mari Brenhines yr Alban. Roedd nifer o Gatholigion yn parhau i addoli yn y dull Catholig. Roedd pregethwyr Catholig oedd yn parhau i bregethu yn cyflawni trosedd ac yn cael eu cosbi pan fydden nhw'n cael eu dal.
Honnodd Elisabeth nad oedd hi'n erlid pobl am heresi, ac mai pedwar o Gatholigion yn unig fu farw fel hereticiaid. Serch hynny, amcangyfrifir bod 250 o Gatholigion wedi鈥檜 dienyddio am deyrnfradwriaeth yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Cafodd Richard Gwyn ei ddienyddio yn Wrecsam yn 1584 a chafodd William Davies, offeiriad Catholig, ei ddienyddio ym Miwmares yn 1593.