20fed ganrif - technoleg
Erbyn hyn mae鈥檙 heddlu yn defnyddio synhwyrydd metelDyfais electronig sy'n cael ei defnyddio i ddarganfod gwrthrychau sydd wedi eu gwneud o fetel., camer芒u cylch cyfyng (CCTV) ac offer isgoch.
Ers y 1960au defnyddiwyd cyfrifiaduron i storio'r swm anferthol o ddogfennau a gwybodaeth a gasglwyd gan yr heddlu. Mae hynny wedi golygu ei bod hi鈥檔 llawer haws erbyn hyn i鈥檙 heddlu gwirio, cymharu a chyfnewid gwybodaeth rhwng heddluoedd.
Mae yna Gofnod Cyfrifiadurol Cenedlaethol canolog sy鈥檔 cynnwys cronfa ddata o:
- olion bysedd
- cofnodion DNAY rhan o gelloedd pethau byw sy'n cario gwybodaeth am sut maen nhw鈥檔 edrych ac yn gweithredu. Mae DNA pawb yn wahanol, ar wah芒n i efeilliaid unfath sy'n rhannu鈥檙 un DNA.
- manylion cerbydau
- gwybodaeth am bobl sydd ar goll
Mae technoleg fforensig wedi arwain at newidiadau mawr yn nulliau鈥檙 heddlu.
Roedd cyflwyno technoleg 么l bysedd ar ddiwedd y 19eg ganrif yn galluogi i鈥檙 heddlu greu cronfa ddata genedlaethol o gofnodion olion bysedd. Yna byddai swyddogion lleoliad troseddau (SOCO) yn chwilio鈥檙 lleoliad am olion bysedd er mwyn helpu i ganfod y troseddwyr. Mae鈥檙 heddlu yn cymryd olion bysedd troseddwyr gan ddefnyddio inc, neu鈥檔 gynyddol drwy ddefnyddio sganwyr electronig.
Erbyn hyn, mae swyddogion lleoliad troseddau yn archwilio lleoliadau troseddau, y dioddefwyr a dillad y dioddefwyr yn drylwyr er mwyn ceisio canfod gwallt, croen, llwch, dillad, gwaed a hylifau鈥檙 corff. Yna maen nhw'n gallu canfod DNA o'r samplau hyn ac yn ceisio paru'r DNA gyda rhai dan amheuaeth.
Mae鈥檙 heddlu wedi datblygu cronfa ddata o DNA ac mae cofnodion tua 6 miliwn o bobl wedi鈥檜 storio. Mae rhai o鈥檙 cofnodion hyn yn perthyn i bobl a ganfuwyd yn ddieuog, neu a ddiystyriwyd mewn ymholiadau. Mae nifer yn ymgyrchu i ddileu eu cofnodion o鈥檙 gronfa ddata.