Sefydlu Ceidwaid Bow Street a鈥檜 dylanwad
Sefydlwyd Ceidwaid Bow Street gan Henry Fielding a鈥檌 hanner frawd John Fielding yn 1749. Ar y cychwyn dim ond chwech o Geidwaid Bow Street oedd y bodoli, ond estynnwyd y llu i saith Ynad arall. Erbyn 1800, roedd yna 68 o Geidwaid Bow Street.
Roedd ganddyn nhw efynnau llaw (handcuffs), dryll a ffon. Talwyd giniDarn arian gwerth 拢1 ac 1 swllt. yr wythnos iddyn nhw er mwyn dal troseddwyr, ac roedden nhw hefyd yn derbyn rhoddion am bob euogfarnPan fydd llys yn penderfynu bod rhywun yn euog o drosedd. lwyddiannus. Ar y cychwyn roedden nhw'n gwisgo eu dillad eu hunain, ond yn ddiweddarach rhoddwyd lifrai iddyn nhw.
Cafodd John Fielding grant gan y llywodraeth er mwyn sefydlu patr么l ceffylau er mwyn delio 芒 chynnydd mewn lladrata pen ffordd. Fe wnaeth hynny bara am 18 mis yn unig, ond atgyfodwyd y syniad yn dilyn ei farwolaeth yn 1805.
Hefyd, John Fielding ddechreuodd y cysyniad o apelio i鈥檙 cyhoedd am help wrth ddatrys troseddau. Cyhoeddodd bapur newydd o鈥檙 enw The Quarterly Pursuit, a ailenwyd yn ddiweddarach yn The Public Hue and Cry. Roedd y papurau newydd yma yn cyhoeddi gwybodaeth am eiddo wedi鈥檌 ddwyn a throseddau a disgrifiadau o bobl dan amheuaeth.
Effeithlonrwydd Ceidwaid Bow Street a鈥檜 dylanwad
Roedd yr hanner brodyr Henry a John Fielding yn arwain Ceidwaid Bow Street yn dda. Cynyddodd niferoedd y Ceidwaid Bow Street ac fe wnaethon nhw barhau ar 么l i grant y llywodraeth ddod i ben.
Gostyngodd y gyfradd troseddu yn Bow Street a chynyddodd yr euogfarnau. Roedd y patr么l ceffylau yn ffordd effeithiol iawn o leihau lladrata pen ffordd. Mewn gwirionedd, roedd mor llwyddiannus fel y rhoddodd y llywodraeth y gorau i鈥檞 ariannu oherwydd bod y gyfradd ladrata wedi gostwng cymaint.
Arweiniodd llwyddiant Ceidwaid Bow Street at fentrau eraill yn dilyn marwolaeth y brodyr Fielding.
- Yn 1792, ariannwyd saith Ynad arall er mwyn ymestyn y Cynllun Bow Street i ardaloedd eraill. Arweiniodd hynny at sefydlu 68 o Geidwaid Bow Street yn Llundain erbyn 1800.
- Yn 1798, sefydlwyd Heddlu Afon Tafwys. Deilliodd hynny o ddylanwad Ynad arall, Patrick Colquhoun.
- Yn 1805, sefydlwyd patr么l ceffylau unwaith eto. Roedd 54 o swyddogion yn perthyn i鈥檙 patr么l, a gafodd y llysenw Robiniaid Coch, oherwydd eu lifrai coch.
Ond roedd gwaith y brodyr Fielding a鈥檜 dylanwad wedi ei gyfyngu i rannau o Lundain - roedd yr un hen drefn o Ynadon a Chwnstabliaid yn parhau ym mhob man arall.