91热爆

Dulliau o ymladd troseddHeddlu benywaidd, teithio a cyfathrebu 1900 - 1999

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw鈥檔 fwy effeithiol nag eraill. Mae鈥檙 dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

20fed ganrif - swyddogion heddlu benywaidd, trafnidiaeth a chyfathrebu

Swyddogion heddlu benywaidd

Dechreuodd yr Heddlu Metropolitan gyflogi menywod yn 1919, ar 么l sefydlu heddlu gwirfoddol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar y cychwyn roedd eu r么l yn gyfyngedig, gan ganolbwyntio ar ofalu am blant a menywod dan amheuaeth, a phatrolio ar droed. Yn 1973, enillodd swyddogion benywaidd yr un statws 芒 dynion, ac erbyn hyn maen nhw'n cyflawni鈥檙 un rolau a dyletswyddau.

Y ferch gyntaf erioed i fod yn Brif Gwnstabl oedd Pauline Clare, a benodwyd yn 1996 yn Heddlu Swydd Gaerhirfryn.

Yn 2015 dim ond 28.2 y cant o swyddogion yr heddlu yn y DU oedd yn fenywod. Ym mis Ebrill 2017 Cressida Dick oedd y fenyw gyntaf i fod yn Gomisiynydd yr Heddlu ar gyfer Heddlu Metropolitan. Hi yw鈥檙 swyddog heddlu uchaf yn y wlad. Ond mae yna dal llai o fenywod na dynion yn swyddogion yr heddlu.

Trafnidiaeth

Roedd swyddogion yr heddlu yn y 19eg ganrif yn patrolio ar droed, ac yn 1909, defnyddiwyd beiciau am y tro cyntaf gan yr heddlu. Roedd hynny鈥檔 helpu鈥檙 heddlu deithio鈥檔 gyflymach.

Defnyddiwyd ceir am y tro cyntaf gan yr heddlu yn 1919, ond cynhyrchu ceir ar raddfa fawr yn y 1930au a alluogodd i ddulliau鈥檙 heddlu ddatblygu. Roedd ceir a beiciau modur yr heddlu yn galluogi swyddogion i gyrraedd lleoliad troseddau yn gyflym, oedd yn cynyddu鈥檙 tebygolrwydd o ddal y troseddwr, o gasglu tystiolaeth, o ganfod llygaid dystion, neu hyd yn oed achub bywyd y dioddefwr.

Yn gynyddol mae yna dechnoleg cyfathrebu mewn ceir, ac mae camer芒u ym mhob car yr heddlu.

Yn y 1970au newidiodd yr heddlu eu dulliau oherwydd ceir. Lleihawyd nifer yr heddlu oedd yn cerdded y b卯t a chanolbwyntio ar dimau ymateb gwib mewn ceir, oedd yn cael eu galw i leoliadau troseddau. Fodd bynnag, arweiniodd barn y cyhoedd at fwy o batrolau ar droed, ceffylau a beiciau.

Erbyn hyn mae gan yr heddlu hefyd swyddogion traffig arbenigol y gellir eu gweld fel arfer ar draffyrdd. Mae eu ceir ymysg y rhai cyflymaf ar y ffyrdd. Mae gan yr heddlu faniau terfysg yn llawn offer, sydd wedi鈥檜 dylunio i amddiffyn swyddogion wrth ddelio ag anrhefn.

Ers y 1980au mae gan yr heddlu hofrenyddion hefyd. Mae gan y rhain oleuadau chwilio, , offer canfod gwres a recordyddion fideo. Mae hofrenyddion yn galluogi i swyddogion yn yr awyr roi cyfarwyddiadau i swyddogion ar y llawr am ble all troseddwyr fod yn cuddio. Maen nhw'n galluogi i swyddogion edrych yn fanwl ar yr holl safle, ac mae hynny鈥檔 ei gwneud yn llawer anoddach i droseddwyr ddianc o leoliad troseddau.

Cyfathrebu

Datblygwyd y telegraff ar ddiwedd y 19eg ganrif. Fe鈥檌 defnyddiwyd yn llwyddiannus am y tro cyntaf yn 1910 er mwyn sicrhau bod Dr Hawley Crippen, a ddihangodd i Ganada, yn cael ei arestio.

Trawsgludwr cod Morse
Image caption,
Gosodwyd trawsgludwyr cod Morse yng ngheir yr heddlu yn y 1920au

Yn 1934 defnyddiwyd radio dwy ffordd mewn ceir. O鈥檙 1960au defnyddiwyd radio dwy ffordd bersonol gan heddlu ar y b卯t. Roedd gan yr heddlu hefyd eu blychau ff么n eu hunain o鈥檙 1920au, a sefydlwyd y system 999 yn y 1930au. Yn 2009, dechreuodd heddluoedd yng Nghymru ddefnyddio鈥檙 rhif 101 ar gyfer materion nad sy'n argyfwng.