91热爆

2013: Blwyddyn gymysg i'r celfyddydau

  • Cyhoeddwyd

Bu'n flwyddyn gymysg i'r celfyddydau yng Nghymru. Roedd hi'n gyfnod o lwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol i nifer o berfformwyr Cymreig, ond hefyd yn flwyddyn o anghydfod a siom i eraill.

O lwyddiant gwyliau byd enwog i ddigwyddiadau cyffrous yn denu sylw i Gymru, bu'n flwyddyn i'w chofio yn sicr.

Ond bu siom hefyd wrth i Fae Abertawe fethu dod yn Ddinas Diwylliant.

Gohebydd celfyddydau Huw Thomas sy'n edrych n么l ar ddigwyddiadau 2013.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

拢100,000 y flwyddyn yn gwerth cerddoriaeth aelodau Eos, medd tribiwnlys

Roedd hi'n ddechreuad diflas i'r flwyddyn i gefnogwyr cerddoriaeth Gymraeg.

Fe barodd yr anghydfod rhwng Eos a'r 91热爆 am flwyddyn gyfan - gyda'r gerddoriaeth yn diflannu o'r tonfeddi am chwe wythnos, a'r ddwy ochr yn wynebu ei gilydd mewn tribiwnlys hawlfraint i geisio datrys yr anghydfod.

Yn y dyfarniad, penderfynwyd mai 拢100,000 y flwyddyn yw gwerth cerddoriaeth aelodau Eos i'r 91热爆 - miliwn a hanner oedd y swm roedd Eos yn gobeithio ennill.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd gwaith Bedwyr Williams glod mawr yng ngwyl Biennale Venice

Cafodd cerddoriaeth draddodiadol sylw mawr yn ystod dwy fil ag un deg tri wrth i Womex gyrraedd Caerdydd gyda pherfformiadau gan artistiaid o Gymru ac yn y Gymraeg yn cael sylw yn ystod yr 诺yl canu byd.

Aeth y celfyddydau dramor, gydag arddangosfa Bedwyr Williams yn Venice yn denu clod y beirniaid.

Roedd Caeredin, hefyd, yn llwyfan i dalent Gymreig. Dwsinau o berfformwyr a chwmn茂au theatr yn cymryd rhan yng ng诺yl y Ffrinj dros yr haf, a rhai ohonyn nhw ymysg digwyddiadau mwya' poblogaidd y ddinas.

Canwr y Byd Caerdydd eleni oedd Jamie Barton, mezzo soprano o America - cydiodd yng nghalonnau'r gynulleidfa, a derbyniodd bleidleisiau'r beirniaid.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Jamie Barton gystadleuaeth Canwr y Byd y 91热爆

Fe aeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn i Heini Gruffudd am ei gyfrol Yr Erlid, llyfr sy'n olrhain hanes ei fam a'i theulu yn yr Almaen, dan reolaeth y Nats茂aid.

Roedd 'na siom i Fae Abertawe wrth golli mas i Hull yn y frwydr i fod yn Ddinas Diwylliant dwy fil ag un deg saith.

Ac roedd 'na gryn embaras i BAFTA Cymru ar 么l i'r wobr yng nghategori "newyddion" y noson fynd i'r enillydd anghywir - camgymeriad clerigol, yn 么l y trefnwyr, a oedd hefyd wedi addo ymchwiliad.

Ffynhonnell y llun, 91热爆
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddenodd Womex gerddorion o bedwar ban byd i Gaerdydd

Hanner can mlynedd ers protest ymgyrchwyr iaith ar Bont Trefechan, Theatr Genedlaethol wnaeth ail-greu'r foment hanesyddol mewn cynhyrchiad ar strydoedd Aberystwyth fis Chwefror.

Aeth y gynulleidfa ar daith o amgylch y dref, yn gwylio perfformiadau ar gornel stryd, ac ar y Bont ei hun.

Roedd cynulleidfa o filiynau o bobl o bedwar ban byd wedi gwylio dathliadau'r Doctor yn bum deg mlwydd oed.

Cafodd rhaglen euraid Doctor Who ei wylio ar deledu ac mewn sinem芒u ar draws y byd - ac fe ddaeth a'r Tywysog Siarl i Gaerdydd i weld y stiwdios ble lleolir y Tardis. Cyfle hefyd i weld y dechnoleg tu 么l i'r Daleks ar waith

I rai perfformwyr roedd dwy fil ag un deg tri yn gyfnod anodd, ond i eraill fe fydd y flwyddyn yn cael ei chofio am roi llwyfan rhyngwladol i rai o artistiaidmwya' talentog y wlad.