91Èȱ¬

Jamie Barton yw Canwr y Byd Caerdydd 2013

  • Cyhoeddwyd
Jamie BartonFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Jamie Barton y brif wobr a gwobr y datganiad

Jamie Barton yw enillydd cystadleuaeth 91Èȱ¬ Canwr y Byd Caerdydd 2013.

Y mezzo-soprano o Unol Daleithiau America oedd enillydd gwobr y datganiad nos Wener hefyd.

Dim ond unwaith o'r blaen yn hanes y gystadleuaeth mae'r un cystadleuydd wedi ennill y ddwy wobr.

Fe ddigwyddodd hynny ddiwetha' yn 2001, pan ddaeth Marius Brenciu i'r brig yn y ddau gategori.

Cyflwynwyd y tlws a'r wobr o £15,000 gan noddwr y gystadleuaeth, y Fonesig Kiri te Kanawa.

Yn y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant nos Sul, fe berfformiodd Ms Barton Acerba voluttà o Adriana Lecouvreur gan Cilea; Ja, Gretelchen … Hurr, hopp hopp! (Aria'r Wrach) o Hänsel und Gretel gan Humperdinck; Var det en dröm? Op 37 Rhif 4 gan Sibelius; Je vais mourir … Adieu, fierce cite o Les Troyens gan Berlioz.

Yn dilyn ei buddugoliaeth, dywedodd y gantores: "Dydw i methu credu fy mod wedi ennill y brif wobr a gwobr y datganiad - mae'n fraint ac anrhydedd llwyr. Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn brofiad anhygoel ac mi fydd gen i atgofion melys iawn o fy amser yng Nghaerdydd."

Y pedwar arall yn y rownd derfynol oedd Olena Tokar (Wcráin); Marko Mimica (Croatia) Teresa Romano (Yr Eidal) a Daniela Mack (Ariannin)

Enillydd gwobr y Fonesig Joan Sutherland, sef dewis y gynulleidfa oedd y tenor Ben Johnson o Loegr.

Eleni roedd y gystadleuaeth yn dathlu 30 mlynedd ers iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf.

Hefyd gan y 91Èȱ¬