91热爆

Dathlu Canwr y Byd yn 30

  • Cyhoeddwyd
Y Fonesig Kiri Te Kanawa - un o feirniaid 2011 - yn cyflwyno prif wobr Canwr y Byd i Valentina Nafortina yn 2011
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Valentina Nafortina enillodd y wobr Canwr y Byd yn 2011

Ers i gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd gychwyn ym 1983, mae wedi dod yn un o brif wobrau'r byd cerddoriaeth glasurol.

Cyn-bennaeth gerddoriaeth 91热爆 Cymru, J Mervyn Williams, sydd wedi'i ganmol fel sylfaenydd y gystadleuaeth. Bachodd y cyfle i gyfuno enw da'r Cymry am ganu gyda dyfodiad Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Y bwriad oedd i'r gystadleuaeth ddewis gantorion ifanc gorau'r byd i gystadlu ar y teledu o flaen cynulleidfa o'u hedmygwyr a phwysigion y diwydiant cerddoriaeth.

Y syniad

Geraint Stanley Jones oedd pennaeth 91热爆 Cymru Wales yn y 1980au cynnar, a gweithiodd gyda J Mervyn Williams i ddyfeisio'r gystadleuaeth. Roedd y ddau wedi trafod sut i ddathlu'r ffaith fod cerddorfa 91热爆 Cymru yn mynd i gael cartref newydd yn Neuadd Dewi Sant.

"Ddaeth ei ateb o ddim am ychydig wythnosau nes iddo gerdded mewn i'm swyddfa i un bore a dweud 'Canwr y Byd!' Ac mi wnes i wedyn ddweud 'ie - ond Canwr y Byd, Caerdydd," meddai Mr Jones.

Y bwriad oedd cadw enw'r ddinas ynghlwm wrth y gystadleuaeth, a'r gystadleuaeth ynghlwm wth 91热爆 Cymru hefyd.

Gwaith 'diddorol'

Un sydd wedi gweithio ar Canwr y Byd am 30 mlynedd yw Anna Williams, a oedd yn gynorthwyydd i Mr Williams yn 1983 ond sydd bellach yn drefnydd y gystadleuaeth.

"Pan wnaeth Mervyn Williams feddwl am y gystadleuaeth o'n i'n gweithio iddo fo, felly dechreuais i ar yr ochr teledu. Ar 么l tair cystadleuaeth gofynnodd Teleri Bevan (cyn-bennaeth rhaglenni 91热爆 Cymru) i fi i drefnu'r gystadleuaeth ei hun, ac o '89 ymlaen dyna beth dwi wedi gwneud. Ac mae wedi bod yn waith diddorol tu hwnt," meddai Mrs Williams.

Er bod y gystadleuaeth yn para am ychydig dros wythnos, mae'r gwaith paratoi yn para am ddwy flynedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y soprano o'r Ffindir Karita Mattila enillodd y gystadleuaeth gyntaf un

Dywedodd Mrs Williams: "Mae e'n dechrau'n syth ar 么l y gystadleuaeth cyn hynny, achos chi gorfod dod ar draws enwau cantorion er mwyn trefnu clyweliadau. Hefyd mae rhaid trefnu lleoliadau, cerddorfeydd, pobl i weithio ar y gystadleuaeth fel y llyfrgellydd celf fel bod nhw'n tynnu mewn yr holl gerddoriaeth sydd angen arnynt."

Yn 么l y beirniaid celf, mae ambell i flwyddyn yn hanes y gystadleuaeth yn serennu. Maent yn cynnwys llwyddiant yr enillydd cyntaf, y soprano o'r Ffindir Karita Mattila, a buddugoliaeth y fezzo-soprano Guang Yang o China yn 1997 wedi iddi berfformio gyda cherddorfa broffesiynol am y tro cyntaf wrth fynychu'r gystadleuaeth.

Mae Canwr y Byd yn digwydd bob yn ail flwyddyn, ac yn 2011 Valentina Naforni牛a o Moldova gipiodd y wobr.

Y Cymro eleni

Eleni Gary Griffiths o Benbre yn Sir G芒r sy'n cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth. Fe anwyd ef yn 1983, pan ddigwyddodd Canwr y Byd am y tro cyntaf.

"Mae'r gystadleuaeth wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd," meddai.

"Er enghraifft, y newid fwyaf yw bod cyfanswm y caneuon sydd raid eu canu wedi dyblu ers y 1980au. Rwy'n meddwl bod cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn ddigon o lwyddiant, a'r ffaith fy mod i'n derbyn y cyhoeddusrwydd, ac yn cael cyfle i ganu gyda'r gerddorfa.

"Bonws anferth byddai ennill y brif wobr, ond cael y cyfle i gymryd rhan yw'r peth pwysicaf," meddai.

Y soprano llwyddianus y Fonesig Kiri Te Kanawa yw noddwr y gystadleuaeth, a mae hi hefyd yn aelod o'r rheithgor o feirniaid.

"Mae'n ffenest siop arbennig i gantorion rhyngwladol ifanc. Mae'n rhoi cyhoeddusrwydd iddynt yn gyflym iawn.

"Nid dim ond un sy'n elwa - maen nhw i gyd yn gantorion da, ac mae'n bosib fod ganddyn nhw i gyd rhan i'w chwarae ym myd cerddoriaeth glasurol. Nid yr enillydd yn unig sy'n mynd i gael y gwaith i gyd," meddai y Fonesig Kiri.

Mae 91热爆 Canwr y Byd Caerdydd ar gael ar 91热爆 Radio Cymru, 91热爆 Radio Wales, 91热爆 Two Wales a 91热爆 Four trwy gydol yr wythnos. Mae'r cyngerdd terfynol yn Neuadd Dewi Sant ar nos Sul 23 o Fehefin.

Hefyd gan y 91热爆