91热爆

Barn rhai o bedwar ban

  • Cyhoeddwyd
InHye ParkFfynhonnell y llun, 91热爆
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r tro cyntaf i InHye Park o Gorea ddod i WOMEX

Doedd y carped coch yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd ddim yn orlawn ben bore Iau.

Ond mi oedd y stondinau wedi eu gosod, y pamffledi ar y byrddau a phobl yn eistedd yn eiddgar yn barod i hyrwyddo eu hartistiaid.

Dyma, meddai'r rhai y gwnes i siarad efo nhw, ydy'r lle i fod os ydych chi eisiau gwybod am gerddoriaeth byd.

"Mae pawb yn gwybod am logo WOMEX ac maen nhw'n gwarantu bod y gerddoriaeth yn dda achos mae WOMEX wastad yn dewis pobl dda iawn," meddai InHye Park, cynhyrchydd cerddoriaeth 28 oed o Gorea.

Dyma'r tro cyntaf iddi fynychu'r 诺yl ac mae wedi dod yma gyda'r gr诺p Su:m.

Yn wir, mae'n synnu fy mod i eisiau cyfweld 芒 hi ac nid y cerddorion, ac mae hi'n awgrymu ei bod hi'n gwybod pa farchnad sydd angen ei thargedu.

Dyw nifer o'r gwyliau llawn rhythmau, swnllyd yn Llundain ddim yn gweddu i gerddoriaeth Su:m, meddai.

Ond mae yna wledydd yn Ewrop sydd wrth eu boddau gyda'r sain draddodiadol sydd "bron yn dawel am ei bod yn isel iawn". Dyma'r sain mae artistiaid Corea yn ei chreu.

Denu twristiaid

Ffynhonnell y llun, 91热爆
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyfle i hybu Periw fel gwlad yn ogystal 芒'r gerddoriaeth yw ystyr yr 诺yl i Maria Teresa Bertini

Gweld bod WOMEX yn ffordd i farchnata'r wlad nid yn unig y gerddoriaeth mae'r criw marchnata ar stondin Periw.

Mae un o'r cynrychiolwyr yn fy narbwyllo i fynd i gynhadledd newyddion ble mae canwr Cumbia all stars, yn siarad.

Yno, dwi'n cael CD sy'n llawn o ganeuon grwpiau o'r wlad yn ogystal 芒 brochure am fywyd a hanes Periw.

"Platfform da" ydy WOMEX, meddai Maria Teresa Bertini sy'n gweithio i Prom Peru.

"Mae'n ddefnyddiol i wneud cysylltiadau gyda gwledydd eraill a gwneud yn si诺r eu bod nhw'n gwybod am Beriw, am ein diwylliant, ein cerddoriaeth, ein traddodiadau ac i hybu Periw fel gwlad."

Dyma'r tro cyntaf iddi ddod i Gymru a dyw hi ddim yn gwybod dim am y gerddoriaeth yma eto.

Ychydig iawn roedd Mar P茅rez Unanue o Gatalonia yn ei wybod am gerddoriaeth Cymru hefyd.

Ond mae'n dweud ei bod hi'n gwybod mwy r诺an ar 么l mynd i'r cyngerdd agoriadol nos Fercher.

'S诺n yn wahanol'

"Mi oedd hi yn braf iawn darganfod mai'r prif offeryn yng Nghymru yw'r delyn sy'n gwneud s诺n yn wahanol i synau Celtaidd eraill.

"Mae'r Albanwyr, er enghraifft, yn defnyddio mwy o'r ffidil ac mae'r curiad yn fwy ailadroddus. Ond mae cerddoriaeth Cymru gyda'r delyn yn fwy harmonaidd."

Mae'r t卯m o Gatalonia yn awyddus i siarad gyda'r hyrwyddwyr o Gymru ac mae sawl cyfarfod wedi eu trefnu.

Yn sicr, meddai, mae WOMEX yn medru arwain at waith. "Mi oedd gyda ni fand oedd yn WOMEX y llynedd yng Ngroeg ac ar 么l gwneud cysylltiadau maen nhw wedi bod ar daith mewn saith gwlad..."

Er bod prynu stondin yn yr 诺yl yn gostus meddai, mae sawl cwmni o Gatalonia yn ei defnyddio er mwyn arbed arian.

Erbyn amser cinio, mae hi wedi prysuro yn y neuadd, a dwi'n gweld merch ifanc yn gludo sawl poster ar un o'r waliau.

Mae 'na hyd yn oed bosteri lliwgar wedi eu plastro yn y lle chwech.

Tra bod y gwledydd Ewropeaidd yn cynnig siocled, brechdan neu deisennau a byrddau pwrpasol ar gyfer trafod, mae stondinau eraill yn fwy moel. Ond maen nhw'r run mor groesawgar.

Mae Ankur Malhotra, cyfarwyddwr label yn India, yn dweud ei bod hi'n fwy o her i werthu eu cerddoriaeth draddodiadol yno am fod y s卯n Bollywood wedi ei hen sefydlu.

"Ydi, mae yn dasg weithiau ond mae cerddoriaeth dda yn mynd i gael ei gwerthfawrogi.

"Rydyn ni wedi cael pobl mewn awditoriwm yn dawnsio i'r gerddoriaeth sydd ddim fel arfer yn digwydd yn India. Mae pobl fel arfer yn eistedd mewn cyngherddau. Chi'n gallu gweld golau ar ddiwedd y twnnel."

Mi oedd Ankur yn un o'r beirniaid oedd yn gorfod gwrando ar ganeuon bron i 900 o artistiaid.

Ar 么l llawer o drafod ac oedi mi lwyddon nhw i benderfynu pwy fyddai'n perfformio yn WOMEX eleni.

'Mis o waith'

Ffynhonnell y llun, 91热爆
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n her gwerthu cerddoriaeth draddodiadol yn India, medd Ankur Malhotra

Ymhlith y rhain mae'r gr诺p Ghazalaw o India a'r cerddorion Gwyneth Glyn a Georgia Ruth.

Dywedodd na fyddai'n synnu pe bai mwy o artistiaid o wledydd gwahanol yn creu cerddoriaeth efo'i gilydd yn y dyfodol. "Mae'n ddiddorol sut mae cydweithio yn datblygu ac yn dod i fwcl. Fel y mae'r byd yn mynd yn llai, mewn rhai ffyrdd mae 'na fwy o gyfleoedd i gydweithio."

Mae Mads Olesen yn hen gyfarwydd gyda WOMEX.

Ychydig yn amheus

Dyma'r bumed flwyddyn i drefnydd g诺yl gerddorol Journ茅es des Cinq Continents yn y Swistir fynychu'r 诺yl.

Roedd ychydig yn amheus pan aeth i'r un gyntaf. "Mi oedden ni yn oedi am fod ein g诺yl ni yn un am ddim, a does gyda ni ddim lot o arian.

"Ond pan es i Copenhagen 'nes i ddweud: 'Ma'n rhaid i ni ddod 'n么l yma' achos dwi'n medru cael mis o waith trwy ddod i WOMEX am fy mod i'n cyfarfod cymaint o bobl."

Yn ystod y pum niwrnod mae'n mynd i gymaint o'r perfformiadau 芒 phosib ac yn dweud ei fod fel arfer yn gweld ryw bedwar neu bump o artistiaid y mae yn eu hoffi. Roedd y cysylltiad personol yn hollbwysig meddai.

"Pan chi'n trefnu g诺yl, chi'n cael cannoedd o CDs.

"Ond dyw e ddim yr un peth 芒 gweld, clywed, bod gyda'r artist a chael argraff go iawn o'r hyn y gall ei gynnig i'ch g诺yl chi."

Hefyd gan y 91热爆

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol